Myfyrwraig IBERS yn ennill Ysgoloriaeth deithio

O’r chwith i’r dde: Madeline Bidder Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, Cariad Roberts IBERS, Bob Clarke, Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru.

O’r chwith i’r dde: Madeline Bidder Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, Cariad Roberts IBERS, Bob Clarke, Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru.

18 Mai 2015

Mae myfyrwraig Sŵoleg o IBERS wedi ennill Ysgoloriaeth deithio gwerth £1,000 oddi wrth Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru (Urdd Lifrai Cymru gynt).

Sefydlwyd Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru yn 1993 i hyrwyddo’r celfyddydau, gwyddoniaeth a thechnoleg yng Nghymru, ac yn arbennig i ddatblygu sgiliau a chymwyseddau proffesiynol yn y meysydd hyn.

Un o’r ffyrdd y mae’n cyflawni’r amcanion hyn yw trwy gynnig nifer gyfyngedig o Ysgoloriaethau Teithio gwerth £1,000 mewn gwahanol sectorau addysg a gweithgareddau datblygu personol. Mae’r Ysgoloriaeth yn galluogi’r rhai sy’n ei derbyn i deithio dramor i ymgymryd â phrosiect astudio a fydd o gymorth sylweddol wrth ddatblygu eu gyrfaoedd a gwella a meithrin eu doniau.

Mae Cariad Roberts yn ei hail flwyddyn yn Aberystwyth, a’r haf hwn bydd yn teithio i wersylla yng nghoedwigoedd Madagascar i astudio effeithiau ffermio ac amaethyddiaeth ar y poblogaethau brogaod.

Gyda chymorth tywyswyr lleol bydd Cariad yn casglu data i geisio darganfod a yw ffermio a’r cynnydd mewn defnydd tir yn cyfrannu at gyflwyno’r clefyd angheuol ‘chytrid’ (a thueddiad brogaod i ddioddef ohono), sydd ar hyn o bryd yn cael effaith andwyol ar boblogaethau brogaod ledled y byd.

I gael y wobr bu’n rhaid i Cariad gael ei chyfweld yn drylwyr gan Madeline Bidder a Bob Clarke o Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru.

Wrth gyflwyno’r wobr llongyfarchodd Madeline a Bob Brifysgol Aberystwyth am ddarparu rhestr fer mor gref o ymgeiswyr i’w cyfweld. Dywedodd Bob Clarke “Roedd pob un o’r pedwar ymgeisydd o galibr uchel iawn ac rwy’n ffyddiog y bydd pob un ohonynt yn mynd ymlaen i ragori yn eu meysydd dewisol”. Ychwanegodd Madeline “Yr hyn roeddem yn ei hoffi yn arbennig ynglŷn â Cariad oedd ei brwdfrydedd.

Mae hi’n amlwg yn teimlo’n angerddol am ei maes astudio ac rydym yn dymuno’r gorau iddi hi a’r ymgeiswyr eraill yn y dyfodol”.

Meddai Tony O’Regan, Cydlynydd Profiad Gwaith IBERS: “Hoffwn ddiolch i Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru am ei sylwadau caredig ac am ei nawdd hael i’r wobr hon”.

Ychwanegodd cydlynydd cynllun gradd Cariad, Dr Helen Marshall “Mae Cariad yn fyfyrwraig Sŵoleg hynod ddisglair, ymroddgar ac ymroddedig, ac mae’n llawn haeddu’r wobr hon”