Myfyrwraig o IBERS yn cael ei swydd ddelfrydol yn gweithio gydag orang-wtaniaid

Montana Hull yng Ngwarchodfa Natur Rasa Ria gyda cheidwad lleol, ar daith ddiweddar i Borneo Malaysia.

Montana Hull yng Ngwarchodfa Natur Rasa Ria gyda cheidwad lleol, ar daith ddiweddar i Borneo Malaysia.

16 Hydref 2015

Mae myfyrwraig raddedig o Aberystwyth, Montana Hull, wedi gwireddi ei breuddwyd o weithio gydag orang-wtaniaid trwy sicrhau lle ar un o interniaethau hynod boblogaidd Orangutan Foundation International (OFI) ym Morneo, Indonesia.

Mae Montana newydd gwblhau BSc ac MSc yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), Prifysgol Aberystwyth. Bydd Montana yn gweithio i OFI, sefydliad nid er elw sy’n canolbwyntio ar ddiogelu orang-wtaniaid gwyllt a’r fforestydd glaw sy’n gynefin iddynt.

Bydd Montana yn gweithio yng nghanolfan ymchwil a chadwraeth y Sefydliad ym Morneo, Indonesia am flwyddyn, a bydd ei swydd newydd yn bennaf yn cynnwys casglu a phrosesu data ar orang-wtaniaid.

Graddiodd Montana gyda gradd BSc mewn Sŵoleg ac mae newydd gwblhau MSc mewn Rheoli’r Amgylchedd yn IBERS. Daeth yn ymwybodol o’r Sefydliad trwy ei hastudiaethau a’u diddordeb mewn sŵoleg a chadwraeth.

Dr Hazel Davey, Uwch Ddarlithydd mewn Bioleg a Chyfarwyddwr Uwchraddedigion a Addysgir yn IBERS oedd arolygydd traethawd estynedig Montana ar gyfer ei MSc. Dywedodd “Byddai llawer o bobl yn fodlon talu am y profiad o edrych ar ôl orang-wtaniaid, ond mae swydd Montana yn gyflogedig ac mae’n cynnwys llety, bwyd a thocynnau awyr. Mae’n gyfle ardderchog a byddai llawer o’n myfyrwyr a’n hymgeiswyr yn ystyried y swydd yn ddelfrydol.”

Yn ogystal â gofalu am orang-wtaniaid amddifad yng nghanolfan ofal y Sefydliad, bydd Montana yn gweithio fel ail Gynorthwyydd Personol i Dr Biruté Galdikas, un o sylfaenwyr OFI a phrimatolegydd adnabyddus sy’n arbenigwr ar orang-wtaniaid. Eglurodd Montana ei bod wedi ymddiddori mewn primatiaid erioed a bod cyfarfod â Dr Galdikas yn gynharach eleni a chael cynnig cyfle i weithio gyda hi yn gwireddu breuddwyd oes.

Mae’r Sefydliad yn cynnwys trigolion y pentrefi cyfagos yn ei waith er mwyn cyfyngu ar ffermio olew palmwydd sy’n arwain yn gynyddol at ddinistrio cynefinoedd yn yr ardal. Bydd Montana felly’n byw gyda theulu o Indonesia trwy gydol ei arhosiad. Mae’n gobeithio y bydd y profiad yn ei galluogi i ymdrwytho’n llwyr yn niwylliant y wlad ac mae’n bwriadu dysgu cymaint â phosib am iaith a diwylliant Indonesia.

Eglurodd Montana "Rwyf wedi bod eisiau cael swydd yn ymwneud a diogelu orang-wtaniaid ers blynyddoedd. Trwy ennill lle ar yr interniaeth hwn yn syth ar ôl gadael y brifysgol rwy’n gwireddu breuddwyd. Rwy’n teimlo’n hynod gyffrous am y cyfle ardderchog hwn ac rwy’n teimlo bod fy holl waith caled wedi talu ar ei ganfed! Mae wedi dangos i mi bod modd dilyn eich breuddwydion dim ond i chi fynd ati o ddifrif."

Bydd Montana yn gadael am Borneo ym mis Tachwedd i gychwyn contract blwyddyn gyda thri intern arall.