Prosiect newydd £17m i ddatblygu ymchwil gwyddonol

Canolfan ymchwil phenomeg Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yng Ngogerddan.

Canolfan ymchwil phenomeg Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yng Ngogerddan.

09 Medi 2015

Mae Prifysgol Aberystwyth yn bartner mewn menter newydd £17m i ddenu 90 cymrawd ymchwil newydd o bob cwr o Ewrop i ddatblygu ymchwil gwyddonol o safon fyd-eang yng Nghymru.

Cyhoeddwyd y cyllid ar gyfer y fenter gan Weinidog yr Economi a Gwyddoniaeth, Edwina Hart, ar ddydd Mercher 9 Medi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael £7m drwy gynllun COFUND Marie Skłodowska-Curie Actions, sy’n rhan o raglen Horizon 2020 yr UE.

Bydd Llywodraeth Cymru a phrifysgolion Cymru’n darparu £10m o gyllid cyfatebol. Bydd y cymrodorion ymchwil yn gweithio gydag ymchwilwyr gorau Cymru ym mhrifysgolion Aberystwyth, Abertawe, Bangor a Chaerdydd, ac ym Mhrifysgol De Cymru.

Bydd y prosiect hwn yn ategu llwyddiant rhaglen Sêr Cymru, sydd werth £50m. Drwy Sêr Cymru rhoddwyd cadeiriau ymchwil ym mhrifysgolion Cymru i rai o’r doniau gwyddonol rhyngwladol gorau a chrëwyd tri rhwydwaith ymchwil cenedlaethol newydd.

Mae’r cymrodoriaethau ymchwil wedi’u hanelu at ymgeiswyr â 3-5 mlynedd o brofiad ôl-ddoethuriaeth sy’n dymuno gweithio yng Nghymru.

Dywedodd Yr Athro Chris Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Fel prifysgol bartner, mae Aberystwyth yn croesawu'r cyhoeddiad hwn yn gynnes ac yr ydym yn llongyfarch Llywodraeth Cymru ar gyflawni’r dyfarniad sylweddol hwn.

"Mae'r cynllun COFUND, ar y cyd â Sêr Cymru, yn rhoi cyfle gwych i ni ddenu atom nifer sylweddol o ymchwilwyr rhagorol a phrofiadol i weithio mewn meysydd gwyddonol lle mae Aberystwyth yn flaenllaw.

"Bydd y rhain yn wyddonwyr sydd ar flaen y gad yn eu disgyblaethau ac a fydd yn bwysig i helpu i ddatblygu ein hymchwil a, thrwy gydweithio â diwydiant, arloesi a menter ar gyfer twf economaidd."

Dywedodd Mrs Hart: “Gwyddoniaeth yw’r sail ar gyfer arloesi a datblygu technoleg; mae’n gwbl hanfodol ar gyfer creu twf economaidd a swyddi o ansawdd. Dyna pam rydyn ni’n buddsoddi mewn ymchwil, i ychwanegu at y gwaith rhagorol sydd eisoes yn digwydd yng Nghymru. Bydd y cynllun hwn yn ategu rhaglen £50m Sêr Cymru, gan gynyddu capasiti’r prosiectau ymchwil o safon fyd-eang sydd eisoes ar waith yn ein prifysgolion. Gobeithio felly y byddaf yn gallu cyhoeddi mentrau eraill erbyn diwedd y flwyddyn hon.”

Dywedodd Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, yr Athro Julie Williams: “Mae’r ffaith inni ennill y dyfarniad cyllid COFUND hwn er gwaethaf cystadleuaeth lem gan wledydd eraill Ewropeaidd yn tystio i’r ffydd sydd yn ymchwil gwyddonol Cymru. Dangosodd Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 fod ymchwil o safon wirioneddol fyd-eang yn digwydd yng Nghymru – ond mae angen rhagor o ymchwil tebyg i sicrhau mantais economaidd a chymdeithasol yn yr hirdymor. Mae ymchwil o Gymru’n magu enw da, yn bendant; mae ein gwyddonwyr yn cydweithio mwy na gweddill y DU ar brosiectau rhyngwladol. Bydd y gronfa newydd hon yn sicrhau bod gwaith rhagorol yn gallu tyfu a chyflawni mwy byth.”