Darlith ‘Demo’ a Chlinig gan Lucinda Fredericks yng Nghanolfan Ceffylau Lluest

Marchogwraig Olympaidd, Lucinda Fredericks

Marchogwraig Olympaidd, Lucinda Fredericks

15 Chwefror 2016

Mae Lucinda, athletwraig enwog ym myd marchogaeth, wedi cystadlu ac ennill ar lefel Grand Prix ac wedi cystadlu yng Ngemau Olympaidd Beijing yn 2008 a Llundain yn 2012. Bydd llawer yn cofio ei buddugoliaethau mewn digwyddiadau elitaidd pedair seren Burghley a Badminton yn 2006 a 2007 a wedi  casglu 1,479 o bwyntiau Gornestau Prydain yn ystod ei gyrfa.

Dywedodd Dr Debbie Nash, Uwch Ddarlithydd mewn Ceffylau a Gwyddor Anifeiliaid yn IBERS: "Rydym yn gyffrous iawn i fod yn croesawu Lucinda Fredericks i Ganolfan Ceffylau Lluest Prifysgol Aberystwyth, gyda'i chyfleusterau arbenigol, gan gynnwys ysgol dan do 30 x 60m ac arena awyr agored newydd sbon . Mae Lucinda yn enillydd medal arian Olympaidd ymhlith llawer o wobrau eraill ac mae'n wych i weld marchogwraig o’r fath galibr uchel yn dod i ymweld â Gorllewin Cymru. "

Mae IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnig amrywiaeth o raddau mewn Gwyddor Ceffylau gan gynnwys BSc Gwyddor Ceffylau, BSc Biowyddor Ceffylau a Milfeddygol a MSc Gwyddor Ceffylau. Mae Tîm Ceffylau IBERS yn gweithio ochr yn ochr ag aml grwpiau cymunedol lleol, megis Clwb Marchogaeth Aberystwyth i ddarparu cyfleoedd hyfforddi a dysgu arbenigol ar gyfer myfyrwyr.

Mae Grŵp Marchogaeth Dyffryn Paith wedi'i lleoli ger Aberystwyth ac mae’n gysylltiedig â Chlwb Marchogaeth Prydeinig Ardal 21. Mae'r grŵp yn glwb bach sydd yn cael ei redeg gan aelodau sydd yn anelu i ddarparu sesiynau hyfforddi rheolaidd ar gyfer pob gallu, digwyddiadau cymdeithasol ar gyfer aelodau marchogaeth a rhai nad ydynt yn marchogaeth, a sioe wanwyn flynyddol yng Nghae Sioe Bryn Castell, Llanilar.

Bydd y demo yn cael ei gynnal am 7.00yh ar ddydd Gwener 19eg o Chwefror a bydd y drysau yn agor o 6yh. Pris y tocynnau yw £25 ar gyfer Aelodau GMDP, £30  i bawb sydd ddim yn aelod a £10 i blant 14 oed ac iau.Gellir prynu tocynnau oddi wrth: Alwyna Jenkins, Pantygwyfol, Llanilar, Aberystwyth, SY234NY. Dylai unrhyw un sy'n dymuno archebu lle ar y clinig ar Ddydd Sadwrn 20

Gellir prynu tocynnau oddi wrth: Alwyna Jenkins, Pantygwyfol, Llanilar, Aberystwyth, SY234NY. Dylai unrhyw un sy'n dymuno archebu lle ar y clinig ar Ddydd Sadwrn 20fed Chwefror a dysgu yn uniongyrchol oddi wrth Lucinda gysylltu Alwyna Jenkins 07773756431/alwyna@alwyna.orangehome.co.uk am fwy o fanylion ac am bris. Bydd gwersi grŵp ar gael mewn neidio ceffylau.