Dyfodol disglair: Myfyrwraig Israddedig Microbioleg, Sinmidele Ayodeji, yn cyfrannu at bapur cyhoeddedig

Sinmidele Ayodeji

Sinmidele Ayodeji

21 Gorffennaf 2017

A hithau wedi cyfrannu at bapur cyhoeddedig fel myfyrwraig israddedig ym maes Microbioleg yn Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae'r fyfyrwraig ryngwladol Sinmidele Ayodeji, yn graddio â BSc 2:1 mewn Microbioleg gyda dyfodol disglair o'i blaen.

Mae Sinmidele yn hanu o Nigeria yn wreiddiol, ac fe benderfynodd ddod i Brifysgol Aberystwyth ar ôl ymweld ar ddiwrnod agored. “Mae Aberystwyth yn lle gwych," meddai, "gyda llawer o gymdeithasau a chlybiau sy'n helpu myfyrwyr rhyngwladol i ymgartrefu. Mae'r tiwtoriaid a staff y swyddfa ryngwladol yn eich ysbrydoli, yn groesawgar ac yn gefnogol”.

Gan fanteisio ar bob cyfle i wneud y gorau o'i phrofiad dysgu yn ystod ei hamser yn Aberystwyth, gwnaeth Sinmidele gais llwyddiannus am leoliad gwaith y cynllun AberYmlaen fel 'Cynorthwyydd Ymchwil Parasitoleg' yn IBERS. Yn ystod ei lleoliad gwaith fe gyfrannodd at bapur ymchwil ym maes parasitoleg a gyhoeddwyd eleni. “Yn ystod fy lleoliad gwaith fe ddysgais sgiliau ymarferol a thechnegol sy'n werthfawr iawn, yn y maes ac yn y labordy. Gwnaeth y profiad hefyd danio fy niddordeb mewn parasitoleg,” meddai.   

Dywedodd Dr Hazel Davey, Darllenydd a chydlynydd cynllun gradd Microbioleg yn IBERS, “Myfyrwraig weithgar yw Sinmidele ac mae wedi gwneud yn rhagorol yn ei hastudiaethau. Mae hyd yn oed wedi cyfrannu at bapur cyhoeddedig cyn iddi raddio, sydd yn gyflawniad anarferol i fyfyrwraig israddedig. Rwy'n hollol ffyddiog bod y profiad a gafodd a'r dysgu mae hi'i wneud yn ystod ei hastudiaethau yn mynd i fod yn sylfaen i yrfa wyddonol lwyddiannus iawn”.

Ar ôl graddio, mae Sinmidele yn gobeithio cychwyn ar gwrs uwchraddedig neu interniaeth ym maes y Biowyddorau. Mae ei chynlluniau i'r tymor hir yn canolbwyntio ar yrfa yn y sector gofal iechyd clinigol / meddygol, ac mae'n ymddiddori'n bennaf ym meysydd salwch heintus a phaediatreg.