Gall darganfyddiad myfyriwr hybu datblygiad cnydau sy’n gwrthsefyll llifogydd

Caeau dan lifogydd a phlanhigyn codlys
16 Ebrill 2026
Mae myfyriwr o Brifysgol Aberystwyth wedi datgelu sut mae gwahanol fathau o blanhigion yn ymateb i lifogydd, gan gynnig mewnwelediadau a allai helpu cnydau i ymdopi â thywydd eithafol.
Canolbwyntiodd yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y Journal of Agronomy and Crop Science, ar Lotus japonicus, codlys o’r teulu sy'n cynnwys pys a ffa. Fe'i defnyddir yn eang fel organeb fodel mewn ymchwil ar amaethyddiaeth gynaliadwy.
Canfu'r ymchwil fod mathau o blanhigion o wahanol leoliadau yn Japan yn mabwysiadu strategaethau gwahanol i oroesi llifogydd. Gall rhai oroesi cyfnodau byr o dan ddŵr drwy arafu eu twf i arbed egni, tra bod eraill yn parhau i dyfu i gyrraedd uwchben wyneb y dŵr.
Dangosodd yr astudiaeth fod ymatebion blodeuo yn wahanol rhwng mathau o ranbarthau daearyddol gwahanol. Y canfyddiad a synnodd yr ymchwilwyr fwyaf oedd bod rhai wedi blodeuo o fewn ychydig ddyddiau ar ôl i'r llifogydd ddod i ben, tra bod eraill wedi'u gohirio hyd at dair wythnos. Mae'r amrywiaeth hon o ymatebion i lifogydd yn dangos amrywiaeth enetig fawr ac yn gwneud Lotus japonicus yn ymgeisydd delfrydol i astudio llifogydd mewn codlysiau.
Cynhaliwyd y prosiect gyda gwyddonwyr yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dywedodd yr Athro John Doonan, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol:
“Drwy ddeall sut mae mathau unigol o blanhigion yn ymdopi â llifogydd, rydym ni’n gallu nodi nodweddion a allai lywio rhaglenni bridio yn y dyfodol i ddatblygu cnydau sy'n gallu goroesi tywydd eithafol. Mae'r canfyddiadau hyn yn cynnig cyfleoedd newydd i ddatblygu cnydau mwy gwydn, gan helpu i sicrhau diogelwch bwyd mewn hinsawdd sy'n newid. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer codlysiau, sy'n chwarae rhan ganolog mewn systemau ffermio cynaliadwy a gwydn ledled y byd.”
Dywedodd Eamon Durkan, arweinydd y prosiect a myfyriwr israddedig yn yr Adran Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Roedd datblygu’r prosiect ymchwil hwn gyda’r Athro Doonan a Dr. Corke yn gyfle unwaith mewn oes. Gyda’u cefnogaeth, llwyddais i fynd i’r afael ag un o faterion allweddol ein hoes: newid hinsawdd. Ar ben hynny, roeddwn wrth fy modd y gellid defnyddio canlyniadau fy nhraethawd hir a’m cyhoeddiad i ddatblygu codlysiau sy’n gwrthsefyll newid hinsawdd.”
Ychwanegodd Gordon Allison, Darlithydd yn yr Adran Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae prosiect traethawd hir y flwyddyn olaf israddedig yn goron ar radd Baglor. Rydym yn ymfalchïo mewn cynnig prosiectau labordy ymarferol ac yn y maes i fyfyrwyr fel y gallan nhw ddatblygu arbenigedd mewn dylunio a chynnal ymchwil, dadansoddi data, meddwl beirniadol a sgiliau proffesiynol i’w cario ymlaen i’w gyrfaoedd yn y dyfodol.
“Mae prosiect Eamon ar straen boddi yn Lotus japonicus yn enghraifft ardderchog o waith a wnaed yn bosibl drwy gydweithio ag IBERS. Mae cyhoeddi draethawd hir israddedig a adolygwyd gan gymheiriaid yn gamp enfawr, i Eamon a'i fentoriaid. Mae'n sicr yn arwydd o ddechrau gyrfa lwyddiannus yn y gwyddorau biolegol.”
