‘Cigoedd anghofiedig’ – bwyd maethlon y dyfodol?

Ffagots cig oen Cymreig

Ffagots cig oen Cymreig

05 Chwefror 2026

Gallai cigoedd anghofiedig fel yr afu, y galon a'r arennau ddychwelyd fel math newydd o fwyd llawn maeth, yn ôl gwyddonwyr.

Arferai cig offal fod yn rhan reolaidd o ddiet pobl yn y DU ond mae eu poblogrwydd wedi gostwng yn ystod y degawdau diwethaf, er eu bod yn gymharol rhad ac yn ffynhonnell gyfoethog o fitaminau a mwynau.

Mae ymchwilwyr o athrofa ymchwil IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi bod yn gweithio gyda Hybu Cig Cymru (HCC) i edrych ar y rhesymau dros y gostyngiad yn y galw am y cigoedd hyn yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o'u gwerth maethol uchel.

Dywedodd Dr Siân Mackintosh o Grŵp Ymchwil Systemau Amaethyddol IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Lle nad ydyn nhw’n yn cael eu defnyddio, mae’r “cigoedd anghofiedig” hyn, sy’n llawn maeth, yn cynrychioli colled sylweddol o faetholion o’n cadwyn fwyd a gellid eu defnyddio i gefnogi iechyd dietegol pobl pan maen nhw’n cael eu bwyta fel rhan o ddiet cytbwys. Gallai fod manteision amgylcheddol hefyd a llai o wastraff bwyd pe bai pobl yn bwyta’r cigoedd yma’n fwy aml.”

Gan weithio gyda gwyddonwyr IBERS, mae staff HCC wedi bod yn cynnal sesiynau blasu mewn digwyddiadau fel Sioe Frenhinol Cymru a’r Ffair Aeaf yn Llanelwedd i gael ymateb pobl i brydau a wnaed gydag afu cig oen Cymreig, megis stroganoff, ffagots a phaté.

Maen nhw hefyd wedi gofyn i sampl bach o bobl lenwi holiadur er mwyn canfod mwy am farn y cyhoedd ynghylch bwyta afu, calon, arennau neu dafod.

Dywedodd Dr Eleri Thomas, Swyddog Gweithredol Polisi a Datblygu Prosiectau’r Dyfodol yn HCC:

“Rydyn ni’n credu bod potensial sylweddol i’r cigoedd anghofiedig hyn gael eu hailgyflwyno i’n diet ni. Yn ystod sesiynau blasu a gynhaliwyd yn y Ffair Aeaf y llynedd, roedd defnyddwyr yn hoffi’r blas ac yn awyddus i ddysgu mwy am ryseitiau a dulliau coginio, yn ogystal â’r gwerth maen nhw’n ei gynnig.

“Drwy edrych ar ffyrdd o wneud y defnydd gorau o doriadau maethlon oen nad sy’n cael eu llawn gwerthfawrogi, y nod yw cynyddu cynaliadwyedd y gadwyn gyflenwi, cwtogi ar wastraff a chynnig cyfleoedd marchnata newydd.”

Gwnaed yr ymchwil fel rhan o brosiect ehangach Maetholion SMART Cymru, a ariennir gan gynllun Cymorth Arloesi Hyblyg SMART Llywodraeth Cymru.

Arweinir y prosiect gan Dr Christina Marley, Pennaeth y Grŵp Ymchwil Systemau Amaethyddol yn IBERS a Llywydd Cymdeithas Tir Glas Prydain:

“Nod prosiect SMART Nutrient Cymru yw edrych ar ffyrdd o ddal gafael ar faetholion sy’n cael eu colli o fewn systemau bwyd-amaeth sy’n seiliedig ar borthiant. Yn ogystal â gweithio gyda HCC, rydyn ni hefyd wedi bod yn gweithio gyda Gwlân Prydeinig i weld sut y gallwn ni ddatblygu defnyddiau newydd ar gyfer gwlân sy’n ychwanegu gwerth at y cynnyrch. Mae Dŵr Cymru yn bartner arall yn y prosiect a gyda nhw, rydyn ni’n edrych ar ffyrdd o amddiffyn a gwella ffynonellau dŵr trwy blannu porthiant amgen i weithredu fel byfferau naturiol yn gwahanu tir amaethyddol oddi wrth afonydd a chronfeydd dŵr.”

Mae IBERS yn un o wyth sefydliad ymchwil yn y DU a gefnogir yn strategol gan Gyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) UKRI ac mae’n darparu gallu cenedlaethol i’r DU mewn gwyddoniaeth glaswelltir a bridio planhigion.