Academydd o Aberystwyth wedi'i phenodi'n Llywydd cymdeithas algâu

Dr Jessica Adams

Dr Jessica Adams

08 Ionawr 2026

Mae Dr Jessica Adams, academydd ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi'i phenodi'n Llywydd Cymdeithas Algâu Prydain, prif gymdeithas y Deyrnas Gyfunol sy'n ymroddedig i astudio algâu.

Wedi'i sefydlu ym 1952, mae'r Gymdeithas yn sefydliad aelodaeth ac elusen gofrestredig sy’n ceisio hyrwyddo addysg ac ymchwil ym mhob agwedd ar astudiaeth algâu. Mae'n cyhoeddi ymchwil yn y ‘European Journal of Applied Phycology’ ac mewn cyhoeddiadau eraill, gan wneud yr ymchwil ar gael yn eang.

Un o'r cymdeithasau cyntaf yn y byd sy'n ymroddedig i ymchwil i algâu a'r mwyaf yn Ewrop, mae hefyd yn darparu cyllid i gefnogi myfyrwyr ac ymchwilwyr i gynnal prosiectau a mynychu cynadleddau a chyrsiau maes ledled y Deyrnas Gyfunol.

Mae Dr Adams yn Uwch Wyddonydd Ymchwil mewn Biodrosi a Bioburo yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth, gyda diddordeb arbenigol mewn gwymon, ceirch a phlanhigion dyfrol.

Mae ei hymchwil yn defnyddio algâu ar gyfer bwyd cynaliadwy, cynhyrchion ecogyfeillgar ac mewn sefyllfaoedd ymarferol eraill. Mae hi wedi arwain nifer o brosiectau ymchwil nodedig, wedi cyhoeddi'n helaeth ac wedi cyfrannu at fentrau cenedlaethol a diwydiannol mewn ymchwil algâu a bio-drosi.

Wrth sôn am ei phenodiad, dywedodd Dr Adams:

“Mae’n anrhydedd cael fy mhenodi. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gefnogi aelodau’r Gymdeithas, hyrwyddo astudiaeth algâu a helpu i feithrin y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr sy’n astudio algâu. Mae ymchwil yn y maes hwn yn bwysig yn y byd go iawn, o fwyd cynaliadwy i gynhyrchion ecogyfeillgar, ac rwy’n falch o allu helpu’r Gymdeithas i barhau i wella ein dealltwriaeth a throsi hynny’n fesurau ymarferol i newid bywydau er gwell.”

“Wrth i bwysau amgylcheddol byd-eang gynyddu, mae ymchwil i algâu yn cael ei chydnabod yn gynyddol am ei photensial i fynd i’r afael â newid hinsawdd a defnyddio adnoddau naturiol yn fwy cynaliadwy. Ym Mhrifysgol Aberystwyth, rydym wedi ymrwymo i ymchwil sy’n mynd i’r afael â heriau amgylcheddol byd-eang ac yn cynnig atebion ymarferol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth.”

Cymerodd Dr Adams yr awenau gan yr Athro Saul Purton, Coleg Prifysgol Llundain, yng Nghyfarfod Blynyddol Cymdeithas Algâu Prydain, a gynhaliwyd gan IBERS, Prifysgol Aberystwyth yr wythnos hon.