Dathlu a chefnogi sgiliau staff technegol

Mae Jason Brook yn aelod o staff technegol IBERS ac fe’i welir yma yn rheoli drôn uwchlaw cae o gnydau ceirch ar dir y Brifysgol yng Ngogerddan ger Aberystwyth.

Mae Jason Brook yn aelod o staff technegol IBERS ac fe’i welir yma yn rheoli drôn uwchlaw cae o gnydau ceirch ar dir y Brifysgol yng Ngogerddan ger Aberystwyth.

26 Ionawr 2026

Mae cyfraniad gwerthfawr staff technegol i ddatblygiad ymchwil arloesol yn cael ei gydnabod yn ffurfiol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Fel cam cyntaf mewn cynllun ehangach, mae Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig y Brifysgol (IBERS) wedi datgan ei chefnogaeth i’r Ymrwymiad i Dechnegwyr, sy’n anelu at sicrhau gwelededd, cydnabyddiaeth, datblygiad gyrfa a chynaliadwyedd staff technegol sy’n gweithio yn y sector addysg uwch. Bydd y Brifysgol gyfan yn cymeradwyo’r ymrwymiad yn 2026.

Wedi’i leoli ar gampws Gogerddan, mae IBERS yn un o wyth athrofa ymchwil yn y DU sy’n derbyn cefnogaeth strategol gan Gyngor Ymchwil Biodechnoleg a Gwyddorau Biolegol UKRI (BBSRC), sydd hefyd wedi llofnodi’r Ymrwymiad i Dechnegwyr.

Caiff yr Ymrwymiad i Dechnegwyr ei arwain gan fwrdd llywio o uwch gynrychiolwyr o bob rhan o sector addysg uwch y DG ac fe’i lansiwyd yn 2017 gan Sefydliad Elusennol Gatsby, gyda chefnogaeth gan y Cyngor Gwyddoniaeth. Mae ei gartref bellach oddi mewn i Sefydliad Sgiliau Technegol a Strategaeth y DU.

Dywedodd Dr Clare Stevenson, Arweinydd Cyswllt, Ymrwymiad i Dechnegwyr:

“Mae’n ardderchog bod Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) wedi llofnodi’r Ymrwymiad i Dechnegwyr. Mae bob amser yn wych gweld sefydliadau a ariennir yn strategol gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) yn ymuno â’r fenter bwysig hon. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld eu cynllun gweithredu a chydweithio ar arferion gorau i godi amlygrwydd, cydnabyddiaeth a datblygiad gyrfa rolau technegol ymhellach.”

Mae IBERS yn cyflogi amrywiaeth o dechnegwyr ar eu campws yng Ngogerddan gydag ystod eang o sgiliau labordy, maes a chymorth.

Dywedodd yr Athro Iain Donnison, Pennaeth IBERS:

“Mae ein staff technegol yn rhan hanfodol o gymuned IBERS ac maen nhw’n gwneud cyfraniad enfawr at yr ymchwil bridio cnydau gwydn a’r rhaglenni arloesol eraill sydd gennym yn Aberystwyth. Rydyn ni’n falch iawn i amlygu’n ffurfiol ein gwerthfawrogiad cryf a’n cefnogaeth barhaus i’w gwaith trwy ddod yn llofnodwyr i’r Ymrwymiad i Dechnegwyr, ac i fod yn rhan o gam cyntaf o gynllun y Brifysgol i gyflwyno’r ymrwymiad pwysig hwn ar draws y sefydliad.”

Dywedodd yr Athro Alison Kingston-Smith, Cyfarwyddwr Ymchwil IBERS:

“Fel llofnodwyr newydd i’r Ymrwymiad i Dechnegwyr, rydyn ni wrthi’n llunio cynllun gweithredu manwl yn nodi sut y byddwn ni’n parhau i ddatblygu sgiliau a llwybrau gyrfaoedd ein technegwyr at y dyfodol, yn ogystal â chodi eu proffil nid yn unig o fewn IBERS ond ar draws gweddill y Brifysgol ac yn allanol fel rhan o’n strategaeth diwylliant ymchwil ehangach. Mae’n bwysig cydnabod a hyrwyddo rôl hanfodol ein staff technegol i lwyddiant ein hymchwil.”

Mae rhagor o wybodaeth am waith ac amcanion yr Ymrwymiad i Dechnegwyr ar gael ar wefan y sefydliad: techniciancommitment.org.uk.