Gweinidog Diogelwch y DU yn ymweld â Phrifysgol Aberystwyth

Gweinidog Diogelwch Llywodraeth y DU ac un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, Dan Jarvis MBE AS

Gweinidog Diogelwch Llywodraeth y DU ac un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, Dan Jarvis MBE AS

04 Mawrth 2026

Mae Gweinidog Diogelwch Llywodraeth y DU ac un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, Dan Jarvis MBE AS, wedi annerch myfyrwyr yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ystod ymweliad â'r Brifysgol.

Siaradodd y Gweinidog â thua 50 o staff a myfyrwyr am y tirlun diogelwch byd-eang a chartref, a chymerodd ran mewn trafodaeth ford gron gydag academyddion ynghylch sut mae gwleidyddiaeth ryngwladol, materion cyfreithiol ac arloesi technoleg yn llywio’r broses o lunio polisïau diogelwch.

Ymwelodd y Gweinidog Diogelwch hefyd ag Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), lle clywodd sut mae’r athrofa yn darparu gallu cenedlaethol i’r DU ym maes gwyddor cnydau a bridio planhigion, yn ogystal â chefnogi blaenoriaethau Llywodraeth y DU ar ddiogeledd bwyd.

Cafodd weld hefyd sut mae’r gwaith bridio yn y Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol yn cynhyrchu planhigion a chnydau gwydn ar gyfer hinsawdd y dyfodol, gan helpu i’w hamddiffyn rhag sychder, clefydau a heriau eraill.

Yn olaf, ymwelodd y Gweinidog â'r Bioburfa yn ArloesiAber, cyfleuster datblygu integredig ar raddfa beilot i gyflymu arloesedd ym meysydd bwyd a diod, yr economi gylchol a thechnoleg amaethyddol. Yno dysgodd sut mae prosesau eplesu datblygedig yn cael eu defnyddio i ddatblygu bwydydd amgen uchel eu protein sydd mewn llai o berygl o ddioddef effeithiau newid yn yr hinsawdd a heriau eraill. Dangoswyd iddo hefyd sut y gallai datblygu bio-olosg, sef technoleg lân sy'n cynnwys lefel uchel o garbon, helpu i ddarparu diogeledd ynni i'r diwydiant dur.

Dywedodd yr Athro Anwen Jones, Dirprwy Is-ganghellor dros Addysgu, Dysgu a Phrofiad y Myfyrwyr: “Roeddem yn falch iawn o groesawu’r Gweinidog yn ôl i Brifysgol Aberystwyth lle cafodd gyfle i annerch myfyrwyr a siarad â’n staff am eu meysydd arbenigedd sy’n berthnasol i’w bortffolio.

“Yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yw'r cyntaf o'i math yn y byd ac fe'i sefydlwyd dros 100 mlynedd yn ôl. Mae astudio gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol yn hanfodol er mwyn meithrin gwybodaeth a deall y byd cyfnewidiol sydd ohoni. Mae’r Brifysgol yn cyfrannu at greu Cymru lewyrchus sydd â chysylltiadau cryf ledled y byd, yn hyrwyddo hyfywedd y Gymraeg, ac yn dod â phobl at ei gilydd i ddysgu oddi wrth ei gilydd. Roedd cael mewnwelediad y Gweinidog i ddigwyddiadau byd-eang yn werthfawr iawn i’n myfyrwyr a’n staff.”

Dywedodd yr Athro Angela Hatton, Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi: "Mae’r ymchwil amrywiol a gynhelir ym Mhrifysgol Aberystwyth yn canolbwyntio ar newid bywydau er gwell. Mae diogeledd bwyd yn un enghraifft o hyn, ac mae’r gwaith a wneir yn IBERS ac ArloesiAber yn hollbwysig wrth ddatblygu planhigion a chnydau gwydn, bwydydd amgen uchel eu protein sydd mewn llai o berygl o ddioddef effeithiau newid hinsawdd, a thechnoleg lân i bweru diwydiannau hanfodol.

“Mae ein rôl wrth helpu i lywio datblygiad polisïau gyda llywodraethau a rhanddeiliaid eraill yn hynod bwysig i ni, felly roedd yn bleser dangos i’r Gweinidog rai enghreifftiau o sut rydym yn gwthio ffiniau arloesi a gwybodaeth.”

 

AU3526