Gallai deall anghymaredd paill helpu i wella’r gwaith o gynhyrchu hadau hybrid

Blodau Papaver rhoeas & Arabidopsis
01 Ebrill 2026
Mae ymchwilwyr yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth, ynghyd â chydweithwyr cenedlaethol a rhyngwladol, wedi darganfod sut mae planhigion yn atal twf tiwbiau paill yn gyflym fel rhan o’u hymateb hunan-anghymaredd – sef mecanwaith naturiol sy’n rhwystro mewnfridio ac yn hyrwyddo amrywiaeth genetig. Mae deall y broses hon yn cynnig posibiliadau newydd i wella’r gwaith o gynhyrchu hadau hybrid, cynyddu cnydau a diogelu bwyd.
Mae’r astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn The Plant Cell, yn dangos bod yr ynni a gynhyrchir mewn paill yn cael ei atal yn gyflym pan sylweddolir ei fod yn anghymharus yn enetig. Mae'r ymchwil yn dangos bod yr ymateb hwn yn cynnwys:
- tarfu yn gynnar ar waith y mitocondria,
- cynhyrchu signalau rhywogaethau ocsigen adweithiol penodol. Moleciwlau yw’r rhain sy’n anfon signalau i’r celloedd i’w helpu i droi prosesau megis cynhyrchu ynni ymlaen neu eu diffodd yn gyflym.
- chwalu’r llwybrau metabolig allweddol sydd fel arfer yn pweru twf y tiwbiau paill.
Trwy nodi sut mae celloedd paill anghymharus yn gyflym golli’r egni sydd ei angen i gynnal y broses ffrwythloni, mae'r gwaith yn taflu goleuni newydd ar sut mae atgenhedlu planhigion yn cael ei reoleiddio ar lefel y celloedd.
Er bod hunan-anghymaredd yn hanfodol ym myd natur, gall gyflwyno heriau ym maes bridio cnydau, lle mae rheoli ffrwythloni yn hanfodol ar gyfer cynhyrchu mathau hybrid sy’n perfformio i lefel uchel. Yn y tymor hwy, gallai dealltwriaeth ddyfnach o’r mannau lle gwneir y penderfyniadau cynnar hyn yn y celloedd gynorthwyo bridwyr planhigion wrth iddynt ddatblygu strategaethau gwell i reoli peillio a chynhyrchu hadau hybrid.
Mae'r ymchwil hon yn tynnu sylw at gryfder IBERS ym maes gwyddor planhigion sylfaenol a gydnabyddir yn fyd-eang a’r llwybrau clir at greu effaith mewn amaethyddiaeth - gan hybu gwelliant mewn cynnyrch cnydau, gwytnwch a diogelwch bwyd hirdymor.
Cewch ddarllen mwy yma: https://academic.oup.com/plcell/article/38/3/koag031/8490586