Celf a Gwyddoniaeth yn Cwrdd ar Lan y Môr

10 Tachwedd 2025

Bydd arddangosfa o weithiau celf wedi'u hysbrydoli gan ymchwil i wymon yn cael ei hagor yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth am 6pm ar 15 Tachwedd 2025 gan Gyfarwyddwr IBERS, yr Athro Iain Donnison.

Mae arddangosfa Ar Lan y Môr / On the Seashore yn dathlu gwaith cydweithredol creadigol rhwng Argraffwyr Aberystwyth a Dr Jessica Adams, Uwch Wyddonydd Ymchwil yn IBERS, ac mae’n dwyn ynghyd waith gan dros ddeugain o gyfranwyr a ysbrydolwyd gan amgylchedd yr arfordir.

Mae ymchwil Dr Adams yn edrych ar amrywiol ffyrdd o ddefnyddio gwymon – o ddatblygu ffilmiau plastig bioddiraddadwy o gyfansoddion gwymon i ystyried echdynion gwymon fel cynhwysion mewn bwydydd a gwrtaith naturiol. Mae ei gwaith hefyd yn edrych ar ensymau sy'n gallu cael gwared â gordyfiant algâu niweidiol.

"Yn ogystal â'm hymchwil sylfaenol ar ddatblygu manteision gwymon a sut y gellir ei ddefnyddio, roeddwn i’n awyddus i bobl allu dod i gyswllt â’m gwaith mewn ffyrdd newydd a chyffrous," meddai Dr Adams.

 “Trwy gydweithio ag Argraffwyr Aberystwyth, rwy’n gobeithio ein bod wedi agor ffyrdd newydd o edrych ar y byd naturiol o’n cwmpas, yn enwedig yma ar arfordir hardd gorllewin Cymru.”

Mae Dr Adams yn aelod gweithgar o Gymdeithas Wymonegol Prydain, ac yn Ddarpar Lywydd arni, cymdeithas sy’n dod â gwyddonwyr sy’n ymddiddori mewn gwymon ac algâu at ei gilydd.  Ar hyn o bryd, mae hi’n trefnu cyfarfod blynyddol y Gymdeithas, a gynhelir yn Aberystwyth, am y tro cyntaf erioed, yn 2026.

Deillio y mae arddangosfa Ar Lan y Môr / On the Seashore o sgyrsiau a gafwyd eleni ag Argraffwyr Aberystwyth, sy’n gweithio ar gampws Gogerddan. Nhw a awgrymodd greu casgliad o brintiau wedi’u hysbrydoli gan yr arfordir lleol i gyd-fynd â’r gynhadledd.

Mae’n dod yn sgil cydweithrediad tebyg rhwng gwyddonwyr IBERS ac Argraffwyr Aberystwyth yn 2023 pan grëwyd gweithiau celf gan ddefnyddio papur wedi’i wneud o fiscanthws – cnwd biomas sy’n cael ei fridio yn IBERS ac sy’n gallu dal allyriadau carbon o’r atmosffer, gan helpu i fynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd.

Ychwanegodd Dr Adams: "Mae rhai o’m cyd-wyddonwyr yn IBERS wedi creu gweithiau celf gyda'r Argraffwyr o'r blaen ac wedi ymuno eto â’r prosiect cydweithredol hwn. Fe wnes i gwrdd â grŵp o argraffwyr ar draeth y Borth dros yr haf i edrych yn fanylach ar beth sydd ar ein glannau.  Roedd yn brynhawn hyfryd o gwrdd ag academyddion, haneswyr ac artistiaid eraill. Mae llawer o’r delweddau wedi’u hargraffu ar bapur gwymon a wnaethom ni ein hunain, gan adeiladu ar dechnegau a ddatblygwyd yn ystod y prosiect miscanthws.”

Mae catalog o’r gweithiau celf yn cyd-fynd â’r arddangosfa, a bydd y prosiect cydweithredol hefyd yn cynnwys darlith gyhoeddus gan yr Athro Saul Purton, Llywydd Cymdeithas Wymonegol Prydain, am 4yp ar ddydd Mawrth 6 Ionawr 2026 yn Adeilad Hugh Owen Prifysgol Aberystwyth ar Gampws Penglais.

Gellir gweld arddangosfa Ar Lan y Môr / On the Seashore yn rhad ac am ddim yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth rhwng 10 Tachwedd 2025 a 8 Chwefror 2026.