Ymchwil arloesol IBERS yn y Ffair Aeaf

20 Tachwedd 2025

Bydd yr ymchwil diweddaraf ar ddatblygu cnydau yfory a gwneud amaethyddiaeth yn fwy cynaliadwy i’w weld yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn Llanelwedd ar 24-25 Tachwedd.

Bydd arbenigwyr o Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth yno i siarad am eu gwaith ar wella amaethyddiaeth glaswelltir, troi planhigion yn gynhyrchion megis deunydd gorwedd da byw, a datblygu offer a thechnolegau i gefnogi ffermio clyfar. 

Ar eu stondin ar y balconi uwchben Neuadd Arddangos 1, bydd gwyddonwyr IBERS yn awyddus nid yn unig i rannu eu canfyddiadau diweddaraf ond hefyd i ganfod mwy am yr heriau sy’n wynebu ffermwyr ac eraill yn y diwydiant amaeth.

Dywedodd yr Athro Iain Donnison, Pennaeth IBERS:

“Mae gwella cynhyrchiant amaethyddol a chynaliadwyedd yn allweddol i’n gwaith fel sefydliad ymchwil ac rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r diwydiant yn ogystal â llunwyr polisi i ddod o hyd i atebion arloesol ond ymarferol i’r heriau niferus sy’n ein hwynebu fel cymdeithas. Wrth i ni weithio ar fridio cnydau’r dyfodol, ryn ni am sicrhau bod ein harbenigedd mewn gwyddor glaswelltir a bridio planhigion yn parhau i gynnig manteision ymarferol i Gymru a’r byd ehangach. Edrychwyn ymlaen at gwrdd â ffermwyr a rhanddeiliaid eraill yn y Ffair Aeaf felly dewch heibio ein stondin i gael sgwrs â rhai o staff IBERS.”

Ymhlith timau IBERS yn y digwyddiad bydd staff o’n grŵp Systemau Amaethyddol sy’n edrych ar y defnydd o godlysiau porthiant newydd ar ffermydd, gan gynnwys mathau newydd o feillion. Mae’r cnydau yma’n gallu gosod nitrogen yn y pridd ac mae ganddyn nhw’r potensial i leihau'r defnydd o wrtaith nitrogen, fyddai’n fuddiol o ran cynhyrchiant a’r amgylchedd.

Bydd tîm Cyswllt Biomas o IBERS yn rhannu gwybodaeth am blannu porthiant biomas, sut gall biomas gyfrannu at amaethyddiaeth adfywiol, a sut y gellir defnyddio cnydau fel miscanthus a helyg, er enghraifft, fel deunydd gorwedd cynaliadwy ar gyfer anifeiliaid.

Gall ymwelwyr gael gwybodaeth hefyd am yr ystod o gyrsiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ac ôl-raddedig a gynigir ar-lein gan dîm Dysgu o Bell IBERS – o faeth da byw, gwyddor pridd a bridio planhigion i reoli adnoddau gwastraff a chadwyni cyflenwi cynaliadwy. Gall nifer o’r cyrsiau DPP yma gyfrif tuag at ofyniad dysgu y Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru neu grynhoi pwyntiau BASIS. Bydd manylion cyrsiau gradd israddedig ac ôl-raddedig mewn amaethyddiaeth a phynciau eraill yn Adran Gwyddorau Bywyd y Brifysgol hefyd ar gael.

Arolwg Busnes Fferm

Bydd staff o’r Arolwg Busnes Fferm, sy’n casglu data blynyddol ar sefyllfa ariannol a pherfformiad busnesau fferm yng Nghymru, yn y Ffair Aeaf i drafod eu gwaith, canlyniadau eleni a’r posibilrwydd o ymuno â’r arolwg.

Mae’r arolwg cyfrinachol gwirfoddol wedi’i gynnal gan Brifysgol Aberystwyth ers bron i 90 mlynedd ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth gan nifer o sefydliadau ffermio.

Mae’n rhoi gwybodaeth i lunwyr polisi ac ymchwilwyr am amodau economaidd ffermydd o wahanol fath a gwahanol maint yng Nghymru, yn ogystal â darparu gwybodaeth gymharol i ffermwyr, cynghorwyr amaeth ac eraill, sy’n hanfodol ar gyfer asesu perfformiad unedau fferm unigol.

Mae canlyniadau’r arolwg diweddaraf ar gael ar-lein, gyda’r ffigurau ar gyfer 2024-25 i’w cyhoeddi ddiwedd mis Tachwedd 2025: aber.ac.uk/cy/ibers/outreach-and-impact/fbs.

IBERS

Mae IBERS yn rhan o Brifysgol Aberystwyth ac mae wedi’i lleoli ar gampws Gogerddan, ochr yn ochr ag ArloesiAber. Mae’n un o wyth sefydliad ymchwil yn unig sy’n cael eu hariannu’n strategol gan Gyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol UKRI (BBSRC) i ddarparu gallu cenedlaethol i’r DU mewn gwyddor glaswelltir a bridio planhigion, gan gefnogi amcanion cynaliadwyedd strategol a thargedau sero net.