Sêl bendith newydd gan y diwydiant i fathau o gnydau IBERS

Ceirch gaeaf aeddfed ar dir IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

Ceirch gaeaf aeddfed ar dir IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

09 Rhagfyr 2025

Mae dau fath o gnwd a fridiwyd yn athrofa ymchwil IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cael sêl bendith dau gorff masnach amaethyddol blaenllaw.

Rannoch oedd yr unig ychwanegiad newydd i geirch gaeaf ar Restrau a Argymhellir 2026-27 ar gyfer grawnfwydydd a hadau olew, a gyhoeddwyd ar-lein gan y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) ym mis Rhagfyr 2025. Mae Rannoch yn cyfuno cynnyrch uchel, ansawdd grawn rhagorol ac ymwrthedd gwych i glefydau, gan gynnwys sgorio’n uwch am rwd coron nag unrhyw fath arall ar y Rhestrau a Argymhellir.

Ar yr un pryd, ychwanegwyd ffa gaeaf Hepworth at y Rhestr Ddisgrifiadol Codlysiau ar gyfer 2026 sy’n cael ei gyhoeddi gan Sefydliad Ymchwil y Proseswyr a’r Tyfwyr (PGRO) i helpu tyfwyr i ddewis y mathau mwyaf addas at eu dibenion nhw.

Mae ceirch gaeaf Rannoch a ffa gaeaf Hepworth yn ymuno ag o ddeutu 70 o fathau o gnydau a ddatblygwyd yn IBERS sydd wedi'u cynnwys ar restrau mathau a rhestrau a argymhellir yn y Deyrnas Unedig.

Yn ogystal, mae ceirch gaeaf Maunsell a fridiwyd yn IBERS newydd ennill statws Rhestr Amrywiadau ac wedi’i gynnwys yn y Plant Varieties and Seeds Gazette, cyhoeddiad statudol y llywodraeth o fathau a gymeradwywyd i’w marchnata yn y Deyrnas Unedig. Mae Maunsell wedi’i hau mewn treialon Rhestr a Argymhellir am yr ail flwyddyn ac mae’n amlwg ei fod yn aeddfedu’n gynharach na cheirch gaeaf eraill gan roi opsiynau newydd i ffermwyr.

Dywedodd Dr Catherine Howarth, Pennaeth Bridio Ceirch a Chodlysiau IBERS:

“Gall gymryd hyd at 15 mlynedd i ddatblygu mathau newydd o geirch wrth i ni fynd drwy’r camau amrywiol o ymchwil, bridio, plannu arbrofol, treialon a phrosesau cymeradwyo trwyadl. Mae ennill cydnabyddiaeth gan sefydliadau blaenllaw’r DU sy’n cynghori ffermwyr, tyfwyr a garddwriaethwyr yn dipyn o gamp ac yn dyst i ymroddiad ein tîm bridio planhigion yma yn IBERS. Mae’r mathau newydd yma yn cynnig manteision cyffrous i dyfwyr planhigion a phroseswyr fel ei gilydd.”

Mae mwy na 95% o’r ceirch gaeaf sy’n cael eu tyfu yn y DU ar hyn o bryd wedi’u datblygu yn IBERS, ynghyd â 75% o ffa gaeaf a 35% o laswellt porthiant.

Dywedodd yr Athro Iain Donnison, Pennaeth IBERS:

“Mae IBERS yn darparu gallu cenedlaethol i’r DU mewn gwyddor bridio tir gals a phlanhigion, ac yn datblygu mathau arloesol o laswelltau gwydn, ceirch, ffa, biomas a chnydau eraill i fynd i’r afael â heriau dybryd megis diogelwch bwyd, newid yn yr hinsawdd ac iechyd dietegol. Mae cynnwys ein mathau ni o gnydau ar restrau a argymhellir yn y DU a’r tu hwnt nid yn unig yn dynode ansawdd ond mae hefyd yn fodd pellach o sicrhau bod ein hymchwil yn ymestyn y tu hwnt i’n labordai a’n lleiniau tyfu arbrofol i sicrhau buddion go iawn i’r sector ffermio a chymdeithas yn ehangach.”

Mae IBERS yn un o wyth sefydliad ymchwil sy’n cael eu hariannu’n strategol gan Gyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol UKRI (BBSRC), gyda chenhadaeth i ddarparu gallu cenedlaethol i’r DU mewn gwyddor bridio tir glas a phlanhigion, gan gefnogi amcanion cynaliadwyedd strategol a thargedau sero net.

Ym mis Gorffennaf 2025, cafodd Cwpan Amrywiaeth y Sefydliad Cenedlaethol Botaneg Amaethyddol (NIAB) ei ddyfarnu i geirch gaeaf Mascani a fridiwyd yn IBERS. Fe’i disgrifiwyd fel “math eithriadol” a’i ganmol am “ei ansawdd a’i ddibynadwyedd heb ei ail”.