Esther Prytherch
IBERS Institute Stakeholder & Public Engagement Manager
IBERS Institute Stakeholder & Public Engagement Manager
Manylion Cyswllt
- Ebost: ejp14@aber.ac.uk
- Swyddfa: 2.23 Adeilad Stapledon
- Ffôn: +44 (0) 1970 622197
Ymunodd Esther ag Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym mis Medi 2019, gan symud o Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi (YBA) y Brifysgol lle bu'n gweithio ers 2019 fel Swyddog Cyfathrebu Ymchwil rhan-amser. Cyn hynny, bu'n Bennaeth Adran Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus y Brifysgol (2016–2019). Mae ganddi brofiad eang hefyd ym maes newyddiaduraeth a chynhyrchu rhaglenni dogfen a rhaglenni newyddion ar gyfer BBC Cymru a darlledwyr eraill.
Dechreuodd Esther ar ei gyrfa ym maes newyddiaduraeth, gan hyfforddi ar bapur newyddion lleol y Cambrian News (1983–1985) cyn symud i weithio i'r BBC. Wedi cyfnod yng Nghanolfan Ddarlledu'r BBC yn Llundain, bu'n gweithio am dros ugain mlynedd mewn ystod eang o swyddi yn Adran Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru, yn cynnwys fel gohebydd, cynhyrchydd rhaglenni newyddion teledu a radio, cydlynydd etholiadau, cyflwynydd a chynhyrchydd gwefannau. Yn ei swydd gyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth, bu Esther yn gweithio fel Darlithydd yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu lle bu'n cydlynu gradd Meistr mewn Cynhyrchu Radio yn ogystal ag yn dysgu modiwlau israddedig. Rhwng 2016 a 2019, hi oedd Pennaeth Cyfathrebu'r Brifysgol yn gyfrifol am arwain gweithgareddau cyfathrebu'r sefydliad yn fewnol ac allanol. Mae Esther hefyd wedi gweithio'n llaw-rydd fel Ymgynghorydd Cyfathrebu a Chynhyrchydd Cyfryngau, wedi sefydlu a rhedeg busnes ei hun, ac mae ganddi radd BSc Econ (Anrh) yn Y Gyfraith a Gwleidyddiaeth o Brifysgol Caerdydd.
