Hyfforddiant

Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn cynnig nifer o gyfleoedd hyfforddiant i staff a myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau a gwneud defnydd effeithiol o’r amrywiol wasanaethau y mae’r GG yn eu cynnig.

Mae ein sesiynau hyfforddiant yn gyfuniad o sesiynau ar-lein (byw), ar-lein (ar eich liwt eich hun), ac wyneb yn wyneb.  

Archebu sesiwn

Mae sesiynau byw wyneb yn wyneb ac ar-lein ar gael trwy dudalen y Brifysgol ar we er mwyn archebu cyrsiau. Yma cewch amlinelliad o’r sesiwn a gallwch gofrestru i fod yn bresennol trwy roi eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair Aberystwyth. Os yw’r sesiwn yn cael ei chynnal ar-lein, anfonir gwahoddiad Teams atoch.  

Rhowch wybod inni os nad yw’r hyfforddiant y mae arnoch ei angen wedi’i restru.