Blackboard yw amgylchedd dysgu ar-lein Prifysgol Aberystwyth. Mae gan Blackboard amrywiaeth o offer ar gyfer cyfathrebu, cydweithio, asesu, rhoi adborth, myfyrio a rheoli cynnwys, ac mae'n darparu gofod ar-lein ar gyfer gweithgareddau i gynorthwyo dysgu ac addysgu. Gallwch gael mynediad i Blackboard drwy http://blackboard.aber.ac.uk a defnyddio eich enw defnyddiwr a chyfrinair Aberystwyth.

Rydym yn darparu nifer o gyrsiau hyfforddi, Cwestiynau Cyffredin a Chanllawiau i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich modiwlau yn Blackboard:

Isafswm Presenoldeb Gofynnol (IPG)

Mae’n rhaid i’r holl fodiwlau israddedig ac uwchraddedig a addysgir gadw at Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboard PA. Caiff yr IPG ei ategu gan arferion da a gydnabyddir yn y sector yn ogystal ag adborth gan fyfyrwyr PA.

Hyfforddiant a Chymorth

Hyfforddiant a Chymorth

Rydym yn cynnal rhaglen o sesiynau hyfforddi i'ch helpu i fanteisio i'r eithaf ar Blackboard. Mae'r rhain yn cynnwys popeth o hanfodion dechrau arni i ganllawiau ar sut i wella'r defnydd o Blackboard wrth addysgu.

Gallwch archebu lle ar unrhyw un o’n sesiynau o’r dudalen archebu cwrs. I hidlo'r Sesiynau sydd ar gael i weld ein rhaglen, gallwch ddefnyddio'r categorïau canlynol:

  • E-ddysgu Uwch:   
  • Hanfodion E-Ddysgu
  • Rhagoriaeth E-Ddysgu:

 

Rydym hefyd yn cynnig sesiynau hyfforddi penodol ar gyfer staff unigol ac adrannau academaidd, ac ymgynghoriadau os oes mater penodol yr hoffech gael cymorth ag ef. I holi am y rhain neu i drefnu un, cysylltwch â ni yn eddysgu@aber.ac.uk.

 

Cymorth a Chwestiynau Pellach

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, e-bostiwch ni ar eddysgu@aber.ac.uk.