Isafswm y Cynnwys Gofynnol ar Blackboard
Ffeiliau Canllaw
Isod mae dolenni ar gyfer copïau y gellir eu hargraffu o Ganllaw RMP Blackboard ar gyfer staff:
Canllaw IPG
Blackboard yw amgylchedd dysgu ar-lein Prifysgol Aberystwyth (PA). Mae gan bob modiwl PA ei safle cwrs ei hun ar Blackboard. Mae'r Isafswm Presenoldeb Gofynnol (IPG) yn rhoi cysondeb er mwyn i fyfyrwyr allu dod o hyd i'r cynnwys y mae arnynt ei angen.
Nid yw'r IPG yn berthnasol i gyrsiau Aber Ar-lein sydd â'u safonau a'u gofynion eu hunain.I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Aber Ar-lein, cysylltwch ag aberarlein@aber.ac.uk.
I gael cymorth i ddefnyddio Blackboard, gweler ein canllaw staff ar gyfer Blackboard. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Blackboard, cysylltwch â’r Tîm Addysg Ddigidol (eddysgu@aber.ac.uk).
Hygyrchedd
Dylai'r holl gynnwys a uwchlwythir ac a gynhyrchir ar Blackboard fod mor hygyrch â phosib i sicrhau bod pob myfyriwr yn gallu ei ddefnyddio. Gweler Cyfarwyddyd PA ar Greu Deunyddiau Dysgu Hygyrch PA i gael rhagor o wybodaeth. Mae Blackboard Ally ar gael ym mhob cwrs a dylai staff gynnal safle’r cwrs drwy ddefnyddio’r adroddiad cwrs a thrwy ddatrys unrhyw broblemau sy’n codi.
Sgôr Ally o 70% neu uwch yw’r IPG safonol ym mhob cwrs.
Templed
Mae pob un o safleoedd cyrsiau PA Blackboard yn defnyddio templed y cytunwyd arno sydd â lle ar gyfer gwybodaeth graidd ynghyd â chynnwys y cytunwyd arno ar gyfer polisïau ar lefel Prifysgol. Cytunir ar y templed ar gyfer cyrsiau bob blwyddyn gan y Pwyllgor Ansawdd a Safonau. Cydlynwyr y Modiwlau sy’n gyfrifol am drefn y deunyddiau yn eu cyrsiau. Ni ddylai staff ddileu cynnwys templed.
Ardal Gwybodaeth Modiwl
Dylai’r ardal gwybodaeth am y modiwl gynnwys y canlynol:
- Amlinelliad o'r modiwl, nodau a deilliannau dysgu. Gellir darparu llawlyfr modiwl y gellir ei lawrlwytho ar wahân sy'n cynnwys yr wybodaeth hon.
- Deunyddiau cyflwyno i helpu myfyrwyr i ymgyfarwyddo â gofynion y modiwl, wedi'u trefnu mewn un ffolder. Darparwch gyfarwyddiadau clir i fyfyrwyr ar sut i ymgymryd â'r modiwl a'r gweithgareddau dysgu.
- Dolen i unrhyw wybodaeth iechyd a diogelwch berthnasol ar gyfer astudio'r modiwl, gan gynnwys asesiadau risg lle bo hynny'n berthnasol.
- Gwybodaeth am staff sy'n dysgu'r cwrs gan gynnwys manylion cyswllt ac phryd maent ar gael, sut i drefnu cyfarfod (yn bersonol neu ar-lein) a pha bryd y dylai myfyrwyr ddisgwyl cael ateb i ymholiad.
- Manylion am sut y gall myfyrwyr roi adborth ar y modiwl, a gofyn cwestiynau am y modiwl.
- Dolen i offer Cwrs Holl Fideos Panopto.
- Uwchlwytho cynllun gweithredu’r ABM (gweler Polisi Cloriannu Modiwlau).
Lleoliad trefnus ar gyfer Deunyddiau Dysgu
Dylid creu strwythur ffolder neu Fodiwl Dysgu ar gyfer Deunyddiau Dysgu. Er mwyn i staff gael bod yn gyfrifol am y ffordd y trefnir y cynnwys, nid ydym wedi pennu strwythur penodol.
Dylai'r staff sicrhau:
- Bod y cynnwys wedi’i drefnu'n glir gyda ffolderi /Modiwlau Dysgu yn ôl wythnosau neu bynciau (gweler y canllawiau ar greu cynnwys i gael rhagor o wybodaeth).
- Bod yr holl gynnwys, gan gynnwys ffolderi / Modiwlau Dysgu, yn cael eu henwi'n glir ac yn gyson.
- Bod yr holl ddeunyddiau dysgu perthnasol yn cael eu huwchlwytho i safle'r cwrs ar Blackboard – mae hyn yn cynnwys sleidiau PowerPoint, taflenni, nodiadau neu ddeunyddiau ategol eraill.
- Bod yr holl ddeunyddiau perthnasol i sesiwn ddysgu yn cael eu huwchlwytho 1 diwrnod gwaith cyn i’r sesiwn ddigwydd. Noder y bydd gan rai myfyrwyr gofnod o ddarpariaeth cymorth sy'n gofyn am uwchlwytho deunyddiau yn gynharach – bydd yr amserlen a nodir gan y cofnod bob amser yn cael blaenoriaeth.
- Bod y deunydd yn parhau i fod ar gael ar ôl i fyfyrwyr eu gweld.Dylid cuddio deunyddiau i sicrhau uniondeb asesu’n unig a dylid eu gwneud ar gael eto ar ôl i'r broses asesu gael ei gwblhau.
- Bod y gweithgareddau dysgu'n cael eu hychwanegu ochr yn ochr â'r deunyddiau ategol perthnasol (adnoddau dysgu).
- Cyfarwyddiadau clir i fyfyrwyr ar beth i'w wneud gyda phob adnodd.
- Rhaid i'r holl ddeunyddiau dysgu fod mor hygyrch â phosib. Os na ellir gwneud rhai eitemau yn gwbl hygyrch, eglurwch pam a chyfeiriwch at y canllaw ar ddefnyddio Blackboard Ally. Gweler y Cyfarwyddyd ar Greu Deunyddiau Dysgu Hygyrch i gael mwy o wybodaeth.
- Bod dolenni i recordiadau Panopto unigol yn cael eu cynnwys ochr yn ochr â’r deunyddiau/gweithgareddau dysgu. I gael arweiniad ar recordio darlithoedd byw, gweler Polisi Cipio Darlithoedd PA. I gael arweiniad ar ddarlithoedd a recordiwyd ymlaen llaw, gweler Sut i sicrhau bod recordiadau anghydamserol yn ennyn brwdfrydedd ac yn rhyngweithiol.
- Bod yr holl gynnwys a ddefnyddir yn cydymffurfio â deddfwriaeth hawlfraint.
Ardal Asesu ac Adborth
Dylai'r ffolder asesu ac adborth gynnwys:
- Cyfarwyddiadau am yr aseiniad cyn dechrau'r addysgu.Dylai'r rhain gynnwys disgrifiad o'r aseiniad, meini prawf marcio, a dyddiadau cau.
- Datganiad ar lefel y defnydd derbyniol ar gyfer DA Cynhyrchiol ym mhob aseiniad.Gellir copïo'r rhain o'r Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu neu eu creu gan gydweithwyr.
- Mannau cyflwyno aseiniadau gyda gwybodaeth lawn gan gynnwys y dyddiad a’r amser hwyraf y ceir cyflwyno’r aseiniad.
- Pwy y dylid cysylltu â hwy os yw myfyrwyr yn cael trafferth yn cyflwyno aseiniadau. Cyfeiriwch y myfyrwyr at y Tîm Addysg Ddigidol i gael cymorth technegol ( eddysgu@aber.ac.uk).
Ardal (gudd) Arholwyr Allanol
Dylai'r ffolder hon gynnwys:
- Eitemau yr hoffech i'r Arholwr Allanol eu gweld.
- Aseiniadau wedi'u marcio a lawrlwythwyd ar gyfer eu safoni.
- Tystiolaeth o brosesau safoni.
- Ni ddylai'r ffolder hon fyth fod yn weladwy i fyfyrwyr.
- Copi o ganllawiau Turnitin (ar gyfer staff y Gofrestrfa sy’n gosod mannau cyflwyno estyniad).
Rhestr Ddarllen Aspire
Dylid ychwanegu’r rhestr ddarllen Aspire fel eitem ar wahân (yn hytrach nag mewn ffolder) a’i gosod ar y tab Cynnwys fel un o'r chwe eitem uchaf (gweler Polisi Rhestr Ddarllen).
Cyrsiau wedi’u Cyfuno
Pan fo cyrsiau Saesneg a Chymraeg wedi'u cyfuno gyda’r cwrs Saesneg yn brif gwrs, dylid uwchlwytho'r canlynol yn Gymraeg:
- Llawlyfr modiwl (os defnyddir llawlyfr modiwlau Saesneg).
- Cyfarwyddiadau am yr aseiniad, gan gynnwys disgrifiad o’r aseiniad, meini prawf marcio, dyddiadau cyflwyno a datganiad ar lefel y defnydd derbyniol o DA Cynhyrchiol.
- Dolen i'r rhestr ddarllen ar gyfer y cwrs Cymraeg (neu defnyddiwch y rhestr Saesneg ar gyfer adnoddau Cymraeg gweler y Cwestiwn Cyffredin am arweiniad). Gweler canllawiau'r Coleg Cymraeg ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i gael gwybodaeth am ofynion ar gyfer Cyrsiau cyfrwng Cymraeg.
Dylid uwchlwytho unrhyw adnoddau dysgu cyfrwng Cymraeg a gynhyrchir ar gyfer y cwrs. Anogir staff i ddefnyddio'r templed Cymraeg dwyieithog ar gyfer cyrsiau Cymraeg / Saesneg wedi’u cyfuno.
Mae'r Polisi hwn yn cael ei gynnal gan y Gwasanaethau Gwybodaeth. Fe'i adolygwyd ddiwethaf ym mis Chwefror 2026 gan y Pwyllgor Ansawdd a Safonau a bydd yn cael ei adolygu eto ym mis Chwefror 2027. / This Policy is maintained by Information Services, was last reviewed by Quality and Standards Committee in February 2026 and is due for review in February 2027.
