Newyddion

Gwirfoddolwyr i brofi rhai o systemau'r llyfrgell - gweithdy UX byr

15/05/2025

Yn eisiau: gwirfoddolwyr i brofi rhai o systemau ar-lein y llyfrgell yr wythnos nesaf (19 - 21 Mai). Byddwn yn gofyn ichi roi tro ar gwblhau ambell dasg ar-lein i brofi systemau. Cewch gymryd rhan arlein neu yn y llyfrgell. 

Os oes gennych hanner awr yn sbâr ac am ennill taleb £5 o'ch dewis, llenwch y ffurflen: https://forms.office.com/r/Bj4e3GUFke

Diweddariad Blackboard fis Mai

02/05/2025

Hoffai’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu dynnu sylw at welliannau i Hyfforddwyr yn niweddariad Blackboard fis Mai: 

  • Newydd: Creu Sgyrsiau DA yn awtomatig gyda’r Cynorthwyydd Dylunio DA
  • Cyfarwyddyd Ansoddol
  • Gwelliannau i’r Llyfr Graddau a Phrofion

Am fanylion pellach, gweller ein blog:

Beth sy’n newydd yn Blackboard Mai 2025

Y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol: Higher Education Partners

01/05/2025

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein siaradwyr allanol olaf yn y 13eg gynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol.

Bydd Kate Lindsay o Higher Education Partners (HEP) yn rhoi cyflwyniad ac yn arwain trafodaeth bord gron. Mae'r Brifysgol wedi partneru â HEP ar gyfer cyfres o gyrsiau newydd. Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth am sut i archebu’ch lle, ar gael ar ein blog.

Cyhoeddi Siaradwr Gwadd ar gyfer y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol

17/04/2025

Mae'n bleser gennym gyhoeddi y bydd yr Athro Lee Elliot Major OBE FAcSS, Athro mewn Symudedd Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerwysg, a'i gydweithiwr Beth Brooks, Swyddog Gweithredol gyda Chomisiwn Symudedd Cymdeithasol De-orllewin Lloegr, yn ymuno â ni yn y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol ddydd Mawrth 8 Gorffennaf.

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth am sut i archebu’ch lle, ar gael ar ein blog.

Cynhadledd Fer: Deunyddiau ar gael

16/04/2025

Mae deunyddiau o'n Cynhadledd Fer ddiweddaraf, Cyflogadwyedd a'r Cwricwlwm Cynhwysol, bellach ar gael ar ein tudalennau gwe.

Diolch i'n siaradwyr am sesiynau mor ddiddorol ac i'r rhai a fynychodd y digwyddiad.

Gweler ein blog am grynodeb o’r digwyddiad.

Eich adborth SgiliauAber

10/04/2025

Diolch yn fawr i'r rheiny ohonoch a gymerodd amser i rannu'ch adborth ar y safle SgiliauAber yn ddiweddar. 

Dyma gyhoeddi crynodeb o'r hyn roedd ganddoch chi i'w ddweud a'n camau gweithredu yn sgil eich adborth: https://www.aber.ac.uk/cy/is/feedback/response/issugharv/

Diolch am ein helpu i barhau i ddatblygu ein gwasanaethau llyfrgell a dysgu

Gweld adnoddau Llyfrgell ar-lein o'ch dyfais eich hun: effaith newidiadau preifatrwydd porwyr byd-eang

14/03/2025

Yn ystod 2025 bydd porwyr gwe megis Chrome, Firefox, Safari ac Edge yn gweithredu swyddogaeth preifatrwydd newydd a fydd yn rhwystro gwefannau rhag gwybod cyfeiriad IP y defnyddiwr. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar-lein am y newidiadau hyn a sut i barhau i weld adnoddau ar-lein, ar y campws ac oddi arno.

Tanysgrifiwch ar gyfer e-bost wythnosol newydd SgiliauAber

26/02/2025

Dysgwch am y gweithdai SgiliauAber diweddaraf, newyddion sgiliau, awgrymiadau ac adnoddau defnyddiol heb adael eich mewnflwch. 

Beth sy'n cael ei gynnig?

  • Cael gwybod: Derbyn manylion am y gweithdai sydd ar ddod yn ystod yr wythnos. Mae’r gweithdai yn cwmpasu sgiliau hanfodol fel ysgrifennu academaidd, cyflogadwyedd, a datblygiad personol.
  • Darganfod adnoddau i ddatblygu’ch sgiliau: Dysgwch am adnoddau amrywiol a all eich helpu yn eich astudiaethau, eich addysgu a'ch gyrfa.

Mae eich dos wythnosol o sgiliau a llwyddiant yn dechrau yma! Cliciwch i danysgrifio

Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.

Cwestiynau am gyfeirnodi?

17/02/2025

Gall cyfeirnodi fod yn anodd, ond does dim rhaid iddo fod yn frwydr! Os oes gennych chi gwestiynau, mae gennym atebion ichi.  

Cewch y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i lwyddo o’r llyfrgell heddiw.

Microsoft Office

15/01/2025

Gall staff a myfyrwyr lawrlwytho Microsoft Office yn rhad ac am ddim ar hyd at 15 dyfais.

Mae’n cynnwys y rhaglenni:

  • Word
  • Excel
  • PowerPoint
  • Outlook
  • OneNote
  • Teams
  • Publisher
  • Access
  • Skype

Mae canllaw cam wrth gam ar gyfer lawrlwytho MS Office ar eich dyfais ar gael yma: https://faqs.aber.ac.uk/cy/1391 

Gwasanaethau Gwybodaeth: Canllawiau DA i chi

13/01/2025

Mae gan y Gwasanaethau Gwybodaeth dudalen gymorth a gwybodaeth newydd ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial: https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/ai/

Mae'r dudalen hon yn dwyn ynghyd bolisïau a chyngor ar ddiogelwch yn ogystal â chanllawiau ar gyfer defnyddio Dyn eich astudiaethau, eich addysgu, eich ymchwil a'ch gwaith gweinyddol.