Oriau Agor
Gwasanaethau Llyfrgell
Dim Cerdyn Aber, dim mynediad
- Rydym yn atgoffa holl ddefnyddwyr y llyfrgell bod angen eu Cerdyn Aber i gael mynediad i’r llyfrgell ac i gofio cadw’r Cerdyn Aber gyda nhw wrth fynd allan.
- Rhowch wybod i Gwasanaethau Gwybodaeth ar unwaith os ydych yn colli eich cerdyn.
- Os cewch neges ‘nam’ wrth sganio eich Cerdyn Aber ar y peiriannau hunan-wasanaeth (er enghraifft 'cerdyn annilys/invalid card'), ni fydd staff Gwasanaethau'r Campws yn gallu cynorthwyo. Rhaid ichi wirio eich cyfrif llyfrgell ar-lein; os oes gennych dros £5.00 o ddirwyon, bydd hyn yn eich rhwystro rhag benthyg neu adnewyddu eitemau ac fe gynigir dewis ichi dalu’r rhain ar-lein gyda cherdyn debyd neu gredyd. Os oes gennych eitemau hwyr, gall hyn rwystro eich cyfrif a bydd angen ichi ddod â nhw nôl i’r Llyfrgell cyn benthyg neu adnewyddu eitemau eraill. Edrychwch ar ein gweddalen ynglŷn â chyfnodau benthyca a thaliadau i gael rhagor o fanylion.
- Os bydd llyfr rydych yn ei gario yn gwneud i larwm y giat seinio, bydd staff yn eich galw’n ôl. Gwiriwch eich derbynneb benthyciadau i wneud yn sicr fod pob un wedi mynd trwy’r peiriant yn iawn; os na, rhowch dro arall arni. Os bydd a larwm yn seinio eto bydd rhaid ichi adael y llyfr gyda’r staff sydd ar ddyletswydd.
- Fe wnawn yn sicr fod digon o bapur ym mheiriannau argraffu’r llyfrgell cyn i staff Gwasanaethau Gwybodaeth adael bob dydd. Yn ystod yr oriau hunan-wasanaeth ni fydd modd trwsio peiriannau argraffu/copïo os yw’r papur yn dod i ben neu’n mynd yn sownd.
Os ydych yn dal i gael trafferthion er ichi ddilyn y camau hyn, cysylltwch â ni.
Gofod Astudio
- Byddwch yn ystyriol tuag at ddefnyddwyr eraill a gwnewch yn sicr fod y man lle’r ydych yn gweithio yn glir a thaclus wrth ddefnyddio’r Llyfrgell. Cofiwch beidio â gadael eiddo personol yn y Llyfrgell wrth adael yr adeilad gan nad ydyn ni’n derbyn cyfrifoldeb am eitemau sy’n cael eu gadael heb neb i ofalu amdanynt.
- Yn ystod tymor yr arholiadau, mae gofod i astudio yn werthfawr. Defnyddiwch locer Llyfrgell i gadw eich eiddo’n ddiogel ac i storio llyfrau (a fenthycir gennych) os ydych yn gorfod symud o’r man lle’r ydych yn astudio am gyfnod. Rydym yn ddiolchgar am eich cydweithrediad yn rhannu gofod astudio.
Bwyd a Diod
- Ein nod yw gweithio gyda chi i ddarparu amgylchedd gwaith cyfforddus a thawel ar gyfer astudio. I gael rhagor o wybodaeth am reoliadau ynglŷn â sŵn / diod yn y llyfrgelloedd ewch i http://www.aber.ac.uk/cy/is/library/study-zones/
- Fe ofynnir i unrhyw rai sy’n anwybyddu’r rheoliadau i adael y llyfrgell.
Iechyd a Diogelwch
- Lles: Trwy agor y Llyfrgell am 24-awr yn ystod y tymor gallwn gynorthwyo eich astudiaethau, pa oriau bynnag y byddwch yn astudio. Serch hynny, nid yw’r ffaith fod yr Llyfrgell ar agor i chi dros nos yn golygu y dylech fod yn astudio bob awr o’r dydd. Cofiwch gymryd egwyl yn rheolaidd a chael digon o gwsg.
- Teithio adref yn y nos: Os ydych yn gadael y Llyfrgell yn hwyr y nos, cofiwch fod yn ymwybodol o’ch diogelwch eich hun wrth deithio adref.
Glanhau
- Yn y cefndir, bydd staff glanhau’r Llyfrgell yn gweithio’n galed i gadw’r Llyfrgell yn lle glan a thaclus ichi weithio ynddo. Mae rhan fwyaf y gwaith glanhau yn cael ei wneud yn gynnar yn y bore bob dydd, ar adeg y mae’r Llyfrgell ar gau fel arfer. Yn y cyfnodau agor 24-awr, bydd y Llyfrgell ar agor ar yr adegau hyn ac efallai y bydd y glanhau yn tarfu ychydig ar ddefnyddwyr; byddwch yn amyneddgar oherwydd mae’r gwaith hwn yn angenrheidiol i wneud y Llyfrgell yn lle braf ar gyfer holl aelodau’r Brifysgol a chofiwch fod yn ofalus o wifrau’r peiriannau glanhau.
Adborth
- Dewch i siarad â ni’n bersonol
- Llenwch ein ffurflen awgrymiadau: http://www.aber.ac.uk/cy/is/feedback/
- Cysylltwch â ni ar Facebook
- Cysylltwch â ni trwy drydar @prfysgolaber_gg
- neu ebostiwch ni: is-feedback@aber.ac.uk