Datganiad ar y defnydd o DA Cynhyrchiol

Cyflwyniad

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cydnabod bod Deallusrwydd Artiffisial (DA) yn faes sy'n datblygu'n gyflym ac sydd â'r potensial i drawsnewid pob agwedd ar addysg, ymchwil a gweinyddu ar draws y sector Addysg Uwch.

Gall DA Cynhyrchiol wella canlyniadau dysgu, gwella effeithlonrwydd, a meithrin arloesedd. Ond mae'r Brifysgol hefyd yn cydnabod y gall DA beri heriau a risgiau sylweddol, p'un a yw'r rhain yn ymwneud â chywirdeb data, moeseg ymchwil, preifatrwydd a diogelwch, llên-ladrad ac ymddygiad academaidd annerbyniol neu oruchwyliaeth ac atebolrwydd dynol. Felly, mae'n hanfodol sefydlu canllawiau clir ar y defnydd o DA Cynhyrchiol ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan nodi'r ffiniau gweithredol, ac eglurder o ran ble y dylid annog defnydd o DA a phryd y dylai Staff a Myfyrwyr fod yn fwy gofalus ac osgoi ei ddefnyddio. 

Mae'r datganiad hwn yn nodi, yn fras, y manteision a’r risgiau o ddefnyddio DA mewn dysgu ac addysgu, ymchwil a busnes Prifysgol arall ynghyd â’r egwyddorion y dylid cadw atynt. 

Mae gan y Brifysgol, gan gynnwys ei haelodau, gyfrifoldeb i esbonio i ddefnyddwyr gwasanaeth sut a phryd y mae DA wedi cael ei ddefnyddio.

Disgwylir y bydd dogfennaeth fwy penodol yn darparu canllawiau manwl ar yr hyn a ganiateir, ac ar arfer da. Oherwydd natur ddatblygol DA, bydd y Brifysgol yn adolygu a, lle bo angen, yn diweddaru dogfennaeth sy'n gysylltiedig â DA yn rheolaidd.

⁠Egwyddorion

Mae PA wedi mabwysiadu'r gyfres o Egwyddorion a gynigir gan Grŵp Russell ynghylch defnyddio DA Cynhyrchiol: 

  1. Bydd prifysgolion yn cefnogi myfyrwyr a staff i feithrin gwybodaeth dda am DA. 
  2. Dylai staff fod wedi’u harfogi i gefnogi myfyrwyr i ddefnyddio offer DA cynhyrchiol yn effeithiol ac yn briodol yn eu profiad dysgu. 
  3. Bydd prifysgolion yn addasu addysgu ac asesu i ymgorffori'r defnydd moesegol o DA cynhyrchiol a chefnogi mynediad cyfartal. 
  4. Bydd prifysgolion yn sicrhau bod cadernid ac uniondeb academaidd yn cael ei gynnal. 
  5. Bydd prifysgolion yn gweithio ar y cyd i rannu arfer da wrth i'r dechnoleg a'r dull o ddefnyddio’r dechnoleg wrth addysgu ddatblygu 

https://russellgroup.ac.uk/news/new-principles-on-use-of-ai-in-education/  

Llythrennedd DA i Staff a Myfyrwyr

Mae llythrennedd DA yn rhan allweddol o annog defnydd effeithiol a moesegol o DA ar draws y sefydliad, ac mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i addysgu Staff a Myfyrwyr i ddefnyddio DA Cynhyrchiol a chymwysiadau DA yn ehangach yn gyfrifol a chyfreithlon, gan gynnal cywirdeb ac uniondeb academaidd.

Preifatrwydd Data

Mae offer DA cynhyrchiol wedi'u hyfforddi ar gyfansymiau enfawr o ddata. Mae hyn yn cynnwys yr wybodaeth a gofnodwyd wrth ddefnyddio'r offer.  Mae rhannu data personol neu sensitif ag unrhyw lwyfan DA cynhyrchiol yn golygu y gallai fod ar gael i'r cyhoedd.  Mae ymwybyddiaeth o'r risgiau i ddata personol a data masnachol sensitif ac eiddo deallusol, yn hanfodol i gynnal dull moesegol a chyfreithiol o ddefnyddio DA. Dylai staff a myfyrwyr felly sicrhau eu bod yn ymgyfarwyddo â Pholisi Diogelu Data’r Brifysgol a chanllawiau'r Comisiynydd Gwybodaeth ar ddefnyddio DA (https://ico.org.uk/for-organisations/uk-gdpr-guidance-and-resources/artificial-intelligence/ ). Mae cyfraith diogelu data (gan gynnwys GDPR) yn berthnasol waeth beth fo'r math o dechnoleg a ddefnyddir, felly bydd ei egwyddorion cydymffurfio sylfaenol hefyd yn berthnasol i unrhyw systemau DA cynhyrchiol.

Cywirdeb

Ni all offer DA warantu cywirdeb, er gwaethaf cynhyrchu cynnwys a allai ymddangos wedi'i ysgrifennu'n dda ac yn gredadwy.  Maent wedi'u hyfforddi ar gyfansymiau mawr o ddata ond ni allant wirio'r data hwnnw am gywirdeb eu hunain. 

Efallai y bydd anghysondeb hefyd, er enghraifft, oherwydd hyd yn oed os yw rhagfynegiad data yn gywir o ran ei fetrigau a'i ddadansoddiad efallai na fydd yn cynrychioli 'gwirionedd' sefyllfa. Os yw systemau DA yn dibynnu ar ddata cywir ond anghyflawn yn unig, mae perygl iddynt atgyfnerthu rhagfarnau ac anwybyddu ffactorau dynol critigol, a thrwy hynny greu canlyniadau annheg neu aneffeithiol. Mae defnyddio systemau DA gyda’r ddealltwriaeth fanwl nad yw cywirdeb yn awgrymu gwirionedd yn hanfodol ar gyfer llywio tirwedd DA gymhleth.

Mae staff a myfyrwyr sy'n defnyddio allbynnau DA cynhyrchiol yn eu gwaith yn gyfrifol am sicrhau cywirdeb y cynnwys.

Uniondeb academaidd

Mae'n hanfodol bod PA yn cynnal uniondeb academaidd a moesegol yn ei defnydd o DA wrth ddysgu, addysgu ac ymchwilio, a hefyd mewn unrhyw weithgareddau ategol neu weinyddol cysylltiedig.

Mae sawl dull y dylid eu mabwysiadu i sicrhau bod uniondeb academaidd a moesegol yn cael ei gynnal.

  • Tryloywder – dylid nodi'n glir pan fo DA Cynhyrchiol wedi cael ei ddefnyddio a hefyd i ba raddau y mae wedi cael ei ddefnyddio. Ni ddylai staff a myfyrwyr gyflwyno gwaith a gwblhawyd gan gymwysiadau DA fel eu gwaith eu hunain a rhaid iddynt ddarparu cydnabyddiaeth briodol a chyfeirnodau cywir.
  • Rhagfarn – mae offer DA cynhyrchiol yn cynhyrchu atebion yn seiliedig ar wybodaeth a gynhyrchir gan bobl a allai gynnwys rhagfarnau. Pan fo’n bosibl, dylid monitro a lliniaru'r rhain.  Mae gan y Brifysgol gwrs hyfforddi ar-lein sy'n ymdrin â Rhagfarn ddiarwybod ac anogir defnyddwyr DA Cynhyrchiol i ymgysylltu â’r cwrs, neu unrhyw hyfforddiant tebyg arall cyn defnyddio offer DA Cynhyrchiol.
  • Gwahaniaethu – wrth ddefnyddio DA Cynhyrchiol, ni ddylai defnyddwyr ddefnyddio allbynnau sy'n gwahaniaethu rhwng unigolion neu grwpiau yn seiliedig ar nodweddion gwarchodedig.

Gallai peidio â bod yn ystyriol o’r ffactorau hyn effeithio ar ganlyniadau addysgol ac ymchwil a/neu gael eu hystyried yn gamymddwyn academaidd.

Moeseg

Ar wahân i'r agweddau uchod ar ddefnyddio DA, efallai y bydd materion moesegol perthnasol, ehangach eraill. Er enghraifft, mae DA Cynhyrchiol yn dibynnu ar ddeunydd heb ei gydnabod y mae modelau yn cael eu hyfforddi arno.   Gall modelau DA gael eu hadeiladu mewn ffyrdd anfoesol, e.e. gan ddefnyddio arferion llafur ymelwol, sy'n cynnwys torri hawlfraint posibl neu arferion sy'n niweidiol i'r amgylchedd. Ar ben hynny, efallai na fydd defnyddio DA i wneud penderfyniadau yn foesegol, yn arbennig pan fo’n ymwneud â lles, diogelwch neu swyddi o ymddiriedaeth.  Mae angen ystyried pob un o'r ffactorau hyn.

Casgliad

Mae'n bwysig bod holl Staff a Myfyrwyr PA yn cymryd cyfrifoldeb am ddefnyddio technolegau DA gyda gofal, diwydrwydd a pharch at breifatrwydd unigolion ac uniondeb academaidd. Trwy flaenoriaethu'r gwerthoedd hyn, gallwn fanteisio ar fanteision DA cynhyrchiol a chynnal ein hymroddiad i ddiogelu data, arferion ymchwil moesegol ac uniondeb academaidd, tra'n meddwl yn feirniadol am ein defnydd o DA.