Polisi Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol Prifysgol Aberystwyth

Mae'r defnydd o DA, gan gynnwys DA Cynhyrchiol, ym Mhrifysgol Aberystwyth yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol:

  1. Offer a Chymorth: Mae PA wedi ymrwymo i ddarparu offer a hyfforddiant priodol i'r holl staff a myfyrwyr, gan gynnwys canllawiau ar y defnydd moesegol o DA
  2. Diogelu Data a Diogelwch Gwybodaeth: Rhaid i unrhyw wybodaeth sy’n cael ei huwchlwytho i adnodd DA fod yn unol â’r canllawiau diogelu data a diogelwch gwybodaeth
  3. Bod yn agored: Bydd staff a myfyrwyr yn agored am eu defnydd o DA ym mhob agwedd ar eu gwaith
  4. Cywirdeb a rhagfarn: Bydd staff a myfyrwyr bob amser yn gwirio allbynnau am gywirdeb a rhagfarn
  5. Uniondeb academaidd: Bydd staff a myfyrwyr yn sicrhau bod uniondeb academaidd yn cael ei gynnal
  6. Adrodd: Bydd unrhyw un sy'n ymwybodol o dor diogelwch data yn rhoi gwybod am hyn ar unwaith
  1. Mae'r canllaw hwn wedi'i seilio ar Egwyddorion Grŵp Russell ar ddefnyddio DA yn ogystal â Chanllawiau i Staff ar y defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial gan Brifysgol Leeds.

Mae gennym y canllawiau canlynol ar gyfer pob egwyddor i'ch helpu i weithio'n foesegol ac yn ddiogel.

Egwyddor 1: Offer a Chymorth

Mae Prifysgol Aberystwyth (PA) yn darparu Microsoft Copilot i staff a myfyrwyr. Mae angen cymeradwyo’r defnydd o offer DA trydydd parti eraill gan ddefnyddio'r gweithdrefnau cliriad diogelwch sefydledig a nodir yn y Polisi Diogelwch Gwasanaeth Cwmwl.

Mae llythrennedd DA yn rhan allweddol o annog defnydd effeithiol a moesegol o DA ar draws y sefydliad, ac mae PA wedi ymrwymo i addysgu staff a myfyrwyr i ddefnyddio DA Cynhyrchiol a chymwysiadau DA yn ehangach yn gyfrifol a chyfreithlon, gan gynnal cywirdeb ac uniondeb academaidd.

Mae PA yn darparu ystod o opsiynau hyfforddi i staff a myfyrwyr ar y defnydd o DA. Oherwydd natur chwim y maes, bydd llawer o'r hyfforddiant hwn yn seiliedig ar egwyddorion yn hytrach na defnyddio offer penodol. Gellir dod o hyd i fanylion am yr opsiynau sydd ar gael ar dudalen we Digwyddiadau a Hyfforddiant PA.

Mae offer DA yn cael eu cynnwys fwyfwy mewn meddalwedd presennol a ddarperir gan PA. Mae staff sy'n cefnogi'r defnydd o becynnau meddalwedd ('perchnogion meddalwedd') yn gyfrifol am fonitro unrhyw newidiadau i'r pecyn gan gynnwys telerau ac amodau'r drwydded. Pan fo DA yn cael ei gyflwyno neu'i ddatblygu'n sylweddol o fewn pecyn meddalwedd, dylai'r perchennog meddalwedd ddefnyddio'r gweithdrefnau cliriad diogelwch sefydledig a nodir yn y Polisi Diogelwch Gwasanaeth Cwmwl.

Egwyddor 2: Diogelu Data a Diogelwch Gwybodaeth

Rydych chi'n gyfrifol am sicrhau bod unrhyw ddefnydd o DA yn gyfreithlon, yn foesegol ac yn cydymffurfio â pholisïau, rheoliadau a safonau proffesiynol y Brifysgol.  Os ydych chi'n goruchwylio staff, myfyrwyr, ymchwilwyr, neu gydweithwyr, dylech sicrhau eu bod yn deall ac yn dilyn y canllawiau ar y defnydd priodol o DA. 

Oni bai bod y Gwasanaethau TG yn gwneud cais penodol, ac yn awdurdodi hyn, yn rhan o amgylchedd DA diogel a reolir gan PA, ni ddylech chi fyth fewnbynnu’r wybodaeth hon i systemau DA: 

  • Enwau defnyddwyr, cyfrineiriau, manylion dilysu, neu wybodaeth ddiogelwch. 
  • Gwybodaeth y Gellid Adnabod Rhywun Ohoni (Gwybodaeth Bersonol Adnabyddadwy) neu wybodaeth bersonol, gyfrinachol, sensitif neu warchodedig arall, ni waeth beth fo'r sail gyfreithlon ar gyfer ei rhannu. 
  • Data nad yw’n gwbl ddienw ac a allai o bosibl adnabod unigolyn. 
  • Gwybodaeth nad yw'n cydymffurfio'n llawn â pholisïau'r Brifysgol sy'n ymwneud â Diogelu Data, Prosesu Data, GDPR, Deddf Diogelu Data 2018, Uniondeb Academaidd, Priodoliad neu Foeseg. 
  • Deunydd a ddiogelir gan hawlfraint oni bai bod gennych ganiatâd cyfreithiol i’w ddefnyddio trwy delerau trwydded, eithriadau addysgol, darpariaethau ymdriniaeth deg, neu ganiatâd penodol gan ddeiliad yr hawlfraint. 
  • Ysgogiadau neu ddata a allai greu risgiau enw da, cyfreithiol, ariannol neu weithredol i Brifysgol Aberystwyth. 
  • Data trydydd parti lle nad yw'r unigolyn wedi cydsynio'n benodol i'r data gael ei ddefnyddio gyda systemau DA, oni bai bod y wybodaeth eisoes ar gael yn gyfreithlon yn y parth cyhoeddus.
  • Gwaith a asesir a gyflwynir gan fyfyrwyr oni bai eu bod wedi rhoi caniatâd penodol.

Egwyddor 3: Bod yn agored

Rhaid cydnabod unrhyw gynnwys sydd wedi'i gynhyrchu'n gyfan gwbl neu'n sylweddol gan adnodd DA yn glir yn y ddogfen, adroddiad, cyflwyniad, cyhoeddiad, neu ddeunydd arall, p'un a yw wedi'i fwriadu ar gyfer cynulleidfaoedd mewnol neu allanol. 

Mae cydlynwyr modiwlau yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth i fyfyrwyr ynghylch pryd a sut y gellir defnyddio DA mewn aseiniadau. Rhaid i'r wybodaeth hon gael ei chynnwys yn y cwrs Blackboard perthnasol.  Mae'r Llawlyfr Ansawdd Academaidd hefyd yn cynnwys canllawiau ynghylch Ymddygiad Academaidd Annerbyniol a DA Cynhyrchiol.

Mae canllawiau penodol ar DA mewn ymchwil, gan gynnwys gwybodaeth am Baneli Moeseg, ar gael ar y dudalen we Canllawiau DA. Rhaid i waith a gynhyrchir gan ddefnyddio DA ar gyfer cynadleddau, cyhoeddiadau, cyflwyniadau, ceisiadau am gyllid, neu gyfathrebiadau allanol gydymffurfio â gofynion y cyhoeddwr, trefnydd cynhadledd, neu gorff cyllido perthnasol. 

Egwyddor 4: Cywirdeb a rhagfarn

Mae systemau DA wedi'u cynllunio i gynhyrchu ymatebion credadwy yn seiliedig ar batrymau mewn data hyfforddi. Er y gall allbynnau ymddangos yn awdurdodol ac argyhoeddiadol, gallant gynnwys anghywirdebau, gwybodaeth ffug, cynnwys sydd wedi dyddio, neu gasgliadau camarweiniol. 

Am y rheswm hwn: 

  • Rhaid adolygu'r holl gynnwys a gynhyrchir gan DA yn feirniadol.
  • Dylai staff a myfyrwyr fonitro a lliniaru rhagfarnau yn yr holl gynnwys a gynhyrchir gan DA. Mae gan y Brifysgol gwrs hyfforddi ar-lein i staff sy'n ymdrin â Rhagfarn ddiarwybod ac anogir staff i ymgysylltu â’r cwrs, neu unrhyw hyfforddiant tebyg arall cyn defnyddio offer DA Cynhyrchiol.
  • Dylid gwirio ffeithiau, cyfeiriadau, dyfyniadau a data yn annibynnol. 
  • Mae defnyddwyr yn parhau i fod yn gyfrifol am gywirdeb a dibynadwyedd unrhyw waith sy'n ymgorffori deunydd a gynhyrchir gan DA. 

Wrth ddefnyddio DA Cynhyrchiol, ni ddylai defnyddwyr greu na defnyddio allbynnau sy'n gwahaniaethu rhwng unigolion neu grwpiau yn seiliedig ar nodweddion gwarchodedig.

Gan mai Saesneg Americanaidd yw iaith ddiofyn DA, gall problemau godi gydag allbynnau modelau DA yn y Gymraeg. Mae gan Ganolfan Gwasanaethau’r Gymraeg wybodaeth am gyfieithiadau a gynhyrchir gan DA yn eu Canllaw ar ddefnyddio Cyfieithu Peirianyddol.

Egwyddor 5: Uniondeb academaidd

Mae polisïau'r brifysgol sy'n ymdrin â llên-ladrad, cydgynllwynio, ffugio, a mathau eraill o gamymddwyn academaidd yn berthnasol yn yr un modd i waith a gynhyrchir gyda chymorth offer DA. 

Egwyddor 6: Adrodd

Rhaid i chi roi gwybod am unrhyw amheuaeth o gamddefnydd o dechnoleg DA neu unrhyw ganlyniadau o offer DA a allai dorri rheolau'r Brifysgol neu ddeddfwriaeth y DU.

Cosbau

Mae gan Brifysgol Aberystwyth brosesau ffurfiol ar gyfer ymdrin ag achosion o dor uniondeb academaidd posibl, ar gyfer arferion academaidd annheg, esgeulustod staff, camymddwyn a thor cytundeb. Gellir defnyddio'r prosesau hyn, fel y bo'n briodol, pan ystyrir bod yr Egwyddorion uchod wedi'u torri a gellir gosod cosbau yn unol â hynny.

Wedi cymeradwyo Hydref 2026. Angen adolygu Medi 2027