Canllaw ar ddefnyddio Cyfieithu Peirianyddol

Dyma ganllaw i staff ar ddefnyddio adnoddau cyfieithu peirianyddol (CP):

Canllaw Cyfieithu Peirianyddol

Mae’r canllaw yn ymdrin â’r materion isod:

  • Os ydych yn defnyddio CP – Microsoft Translate yw’r adnodd y byddem yn ei argymell.
  • Deallusrwydd Artiffisial (DA) – Nid yw adnoddau DA gystal â Microsoft Translate o ran cyfieithu i’r Gymraeg. Ni ddylid defnyddio adnoddau DA (e.e. ChatGPT/Microsoft CoPilot) i gyfieithu.
  • Ni ddylid anfon gwaith CP i’w brawf ddarllen os nad ydych wedi ei adolygu yn gyntaf, nid yw hyn yn arbed amser. 
  • Yn bennaf, adnodd i gynorthwyo staff Cymraeg i weithio’n ddwyieithog yw cyfieithu peirianyddol.

Beth yw Cyfieithu Peirianyddol?

Cyfieithu peirianyddol yw’r broses o ddefnyddio system neu feddalwedd i gyfieithu testun o un iaith i’r llall yn awtomatig heb gyfieithydd dynol. Mae Microsoft Translate neu Google Translate yn enghreifftiau o adnoddau cyfieithu peirianyddol.

Pa adnodd Cyfieithu Peirianyddol ddylid defnyddio?

Mae gan staff y Brifysgol fynediad i Microsoft Translate sydd wedi ei integreiddio i raglenni Microsoft Office (e.e. Word). Datblygodd Microsoft Translate (yn Gymraeg) yn wreiddiol drwy bartneriaeth rhwng Cynulliad Cymru ar y pryd a Microsoft dros ddegawd yn ôl, ac mae’r safon wedi gwella ar y cyfan dros amser. Mae Uned Gyfieithu’r Brifysgol yn ei ddefnyddio fel adnodd, ac mae trefniadau cyfrinachedd a diogelu data Microsoft yn rhai cadarn (gweler ‘Cyfrinachedd’ isod). Microsoft Translate yw’r pecyn y byddem yn ei argymell i staff ei ddefnyddio yn hytrach nag adnoddau eraill megis Google Translate neu adnoddau DA megis ChatGPT ar gyfer defnydd gwaith yn y Brifysgol.

Pa mor ddibynadwy yw Cyfieithu Peirianyddol?

Gall fod yn adnodd defnyddiol iawn er mwyn cael cyfieithiad bras awtomatig sydyn. Mae llawer o ffactorau yn dylanwadu ar ba mor llwyddiannus yw cynnig y cyfieithu peirianyddol, gan gynnwys cyd-destun a geiriad y testun gwreiddiol. Fel unrhyw adnodd megis deallusrwydd artiffisial (DA), rhaid prawf-ddarllen cyfieithiadau awtomatig yn ofalus iawn. Ein bwriad yw cyhoeddi canllawiau erbyn haf 2026 i staff sy’n siarad Cymraeg ar sut i olygu cyfieithiadau CP yn effeithiol, a rhai o’r prif wallau a welir o fewn cyfieithiadau peirianyddol.

Yn gyffredinol, ceir y cyfieithiadau peirianyddol mwyaf llwyddiannus os oes digon o gyd-destun ac os yw’r iaith yn niwtral neu’n gorfforaethol/swyddogol. Yn aml, mae cyfieithu peirianyddol yn cael trafferthion gydag arwyddion er enghraifft gan nad oes digon o gyd-destun.

Beth am Ddeallusrwydd Artiffisial (DA) megis CoPilot neu ChatGPT?

O’n profiad ni, nid yw adnoddau deallusrwydd artiffisial megis CoPilot neu ChatGPT yn well na Microsoft Translate. Mae’r cyfieithiadau hyn yn dueddol o fod o safon is yn ein profiad ni ac yn gallu cynnwys geiriau annealladwy. Gwelir hyn yn aml gydag DA, sef yr hyn a elwir yn ‘rhithwelediad’ (hallucination).

Nid yw anfon cyfieithiadau DA i’r tîm cyfieithu i’w prawf-ddarllen yn arbed amser i ni. Fel arfer mae’n haws i’r tîm cyfieithu gael y testun gwreiddiol i’w gyfieithu o’r newydd gan ddefnyddio ein meddalwedd ‘cof cyfieithu’ sy’n cynnwys Microsoft Translate. Gallwch ddefnyddio rhaglenni DA megis CoPilot yn Gymraeg fel rhan o’ch gwaith yn unol â chanllawiau’r Brifysgol, ond o ran cyfieithu mae Microsoft Translate o ansawdd gwell.

Pwy all ddefnyddio Cyfieithu Peirianyddol?

Staff sy’n siaradwyr Cymraeg (â sgiliau Cymraeg ar lefelau tua B2+) Gellid defnyddio cyfieithu peirianyddol i hwyluso drafftio cynnwys dwyieithog e.e.

  • E-byst mewnol.
  • Ymateb i ymholiadau.
  • Cyfarwyddiadau neu ganllawiau i staff.
  • Cynnwys i’r wefan.
  • Cylchlythyron mewnol neu flogiau.

Yn unol â rheoliadau diogelu data ni ddylid cynnwys manylion personol (gweler yr adran ‘Cyfrinachedd’ isod) a rhaid prawf-ddarllen y cyfieithiad yn ofalus. Bron yn ddieithriad, bydd yna frawddegau fydd angen eu golygu gydag unrhyw gyfieithiad peirianyddol.

Mae natur y testun hefyd yn dylanwadu’n fawr ar ba mor llwyddiannus yw’r cyfieithiad e.e. nid yw’n cynhyrchu cyfieithiadau gystal gyda darnau creadigol neu naturiol eu hiaith. Ar gyfer gohebiaeth fewnol, cylchlythyron, blogiau, ffurflenni neu dudalennau gwe er enghraifft, gall CP fod yn adnodd defnyddiol i’r rheini sy’n gweithio’n ddwyieithog ac sy’n hyderus yn prawf-ddarllen yn Gymraeg. Bydd angen gofal o ran enwau adrannau/prosiectau ayyb.

Staff â rhywfaint o sgiliau Cymraeg (e.e. A1-B1)

Gellid ei ddefnyddio i gael syniad bras o’r testun Cymraeg os ydych yn ansicr neu i’ch cynorthwyo os ydych yn drafftio cynnwys yn Gymraeg. Dylech sicrhau fod y testun wedi ei brawf-ddarllen yn ofalus (gweler uchod)

Staff di-gymraeg (e.e A0)

Gellid ei ddefnyddio i gael syniad bras o’r testun Cymraeg e.e. er mwyn adnabod at ba adran/wasanaeth/staff i gyfeirio ymholiad. Ni ddylid defnyddio CP i lunio ymatebion Cymraeg os nad ydych yn hyderus yn prawf-ddarllen y cyfieithiadau.

Pryd na ddylid defnyddio Cyfieithu Peirianyddol?

Ni ddylid ei ddefnyddio gyda thestun cyfrinachol neu destun sy’n cynnwys data personol, sensitif neu arbennig. Yn yr un modd ni fyddem yn cynghori defnyddio CP wrth gyfieithu asesiadau ac arholiadau i fyfyrwyr.

Ni ddylid ei ddefnyddio ar gyfer llunio a chyhoeddi testun Cymraeg os nad ydych yn hyderus yn prawf-ddarllen a golygu’r testun eich hun.

Cymorth gan y Gwasanaeth Cyfieithu

Mae gan y Brifysgol uned gyfieithu sy’n darparu gwasanaeth cyfieithu a phrawf-ddarllen i adrannau’r Brifysgol.

Croeso i chi anfon testun i ni ei brawf-ddarllen ond ni ddylid anfon cyfieithiadau peirianyddol os nad oes siaradwr Cymraeg wedi bwrw golwg ar y cyfieithiad yn gyntaf. Mae gan y tîm cyfieithu hefyd fynediad i CP ac nid yw’n arbed amser i gyflwyno cais ‘prawf-ddarllen’ os nad oes siaradwr Cymraeg eisoes wedi bwrw golwg ar y testun.

Peidiwch ag anfon cyfieithiadau gan adnoddau DA megis Microsoft CoPilot neu ChatGPT i’w prawf-ddarllen, mae’r cyfieithiadau hyn yn dueddol o fod o safon is yn ein profiad ni ac yn gallu cynnwys geiriau annealladwy. Gwelir hyn yn aml gydag DA, sef yr hyn a elwir yn ‘rhithwelediad’ (hallucination)

Sut i ddefnyddio Microsoft Translate?

Mae Microsoft Translate wedi ei integreiddio i nifer o raglenni Microsoft megis Word neu Outlook.

I ddefnyddio CP o fewn y rhaglenni hyn (drwy eich cyfrif prifysgol) ewch i

Adolygu > Iaith > Cyfieithu > Dewis i gyfieithu ‘detholiad’ neu’r ‘ddogfen gyfan’

Bydd rhaid dewis yr ieithoedd cyn clicio ar ‘Cyfieithu’

Cyfrinachedd (Microsoft Translate)

Mae gwefan Microsoft yn nodi:

"Customer data submitted for translation to Azure Cognitive Services Translator (both standard and custom models), Speech service, the Microsoft Translator Speech API, and the text translation features in Microsoft Office products are not written to persistent storage. There will be no record of the submitted text or voice, or any portion thereof, in any Microsoft data center. The audio and text will not be used for training purposes either." Microsoft

Mae trefniadau diogelu data Microsoft yn rhai cadarn iawn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau o ran defnyddio Microsoft Translate mewn cyd-destun penodol, cysylltwch â llywodraethugwyb@aber.ac.uk am gyngor pellach.

Defnyddio CP yn llwyddiannus / Enghreifftiau o wallau cyffredin

Ein bwriad yw cyhoeddi canllaw i staff Cymraeg ar ddefnyddio CP yn llwyddiannus erbyn haf 2026. Bydd y canllaw yma’n nodi materion i’w cadw mewn cof wrth ddefnyddio cyfieithu peirianyddol ac yn rhoi trosolwg o rai o’r gwallau mwyaf cyffredin. Bydd y canllaw yn rhoi enghreifftiau penodol a chyngor ar sut i greu cyfieithiadau o safon drwy ddefnyddio CP.