Charles Jeremiah Wells, Joseph and his Brethren, Llundain, 1876
Charles Jeremiah Wells, Joseph and his Brethren, Llundain, 1876
Cofir yn bennaf am Charles Jeremiah Wells (1800-79) oherwydd ei gysylltiad â beirdd eraill. Yn ei laslencyndod roedd yn gyfeillgar gyda John Keats, a gyflwynodd soned iddo ac oddi wrth yr hwn y deilliodd ei frwdfrydedd ynglŷn â gwaith beirdd oes Elisabeth. Ychydig iawn o sylw a gafodd Joseph and his Brethren, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1823, hyd nes i Dante Gabriel Rossetti ei darllen yn frwdfrydig. Roedd Swinburne wedi bod â diddordeb yn y ddrama am rai blynyddoedd cyn iddo ysgrifennu’r erthygl a ymddangosodd yn ddiweddarach fel y Traethawd Rhagarweiniol i’r argraffiad hwn. Mae’r portread o Wells ar y dudalen deitl wedi ei gymryd o finiatur a beintiwyd tua 1825.
