Ymchwil
Mae ein staff addysgu'n weithgar ym maes ymchwil ac yn gweithio ar lefel fyd-eang. Mae eu gwaith wedi cael ei ariannu gan yr Academi Brydeinig, Cyngor Ymchwil yn y Celfyddydau a'r Dyniaethau, a'r Wellcome Trust, ymhlith eraill. Cyhoeddwyd y canlyniadau gyda rhai o'r prif gyhoeddwyr ac yn rhai o'r prif gyfnodolion ysgolheigaidd.
Mae'r ymchwil hon yn sail i'n haddysgu ac mae ein diddordebau ymchwil yn eang ac yn ddeinamig. Rydym yn manteisio ar rwydwaith eang o gysylltiadau a phrosiectau ar y cyd, ar lefel genedlaethol a byd-eang, gan weithio gydag academyddion ac ymarferwyr creadigol o bedwar ban byd ar brosiectau cyffrous ac arloesol. Mae hyn yn golygu eich bod chi, ein myfyrwyr, yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn ystod eich cwrs gradd.
Cliciwch ar y tabiau isod i ddarllen am rai o'n prosiectau ymchwil diweddaraf.
