Amdanom ni

Croeso gan Dr Guy Baron, Pennaeth Adran

Bu erioed gyfnod mor gyffrous i astudio ieithoedd. Gydag ieithoedd eraill yn cystadlu â Saesneg i fod ar y brig o ran iaith gyfathrebu byd-eang, mae mwy o resymau nag erioed i fod yn ddwyieithog neu'n aml-ieithog.

Yn yr Adran Ieithoedd Modern, rydym yn cynnig ystod o gyrsiau i astudio Ffrangeg, Sbaeneg, Almaeneg ac Eidaleg, fel gradd anrhydedd sengl neu gyfun yn achos Sbaeneg a Ffrangeg, neu radd anrhydedd gyfun yn achos Almaeneg ac Eidaleg. Rydym yn un o’r ychydig brifysgolion yn y DU sy’n cynnig y cyfle i gyfuno astudio tair iaith, a dwy o’r rheini ar lefel dechreuwyr. Gallwch hefyd gyfuno eich astudiaethau iaith gydag ystod eang o bynciau eraill yn cynnwys Hanes, Daearyddiaeth, Mathemateg, Saesneg, Drama, a llawer mwy.

Bydd Ieithoedd Modern yn Aberystwyth yn rhoi cyfle ichi ddatblygu fel ieithydd dros bedair blynedd o astudio am radd BA fel eich bod yn graddio â hyfedredd sy’n agos iawn at siaradwr brodorol yn eich dewis ieithoedd. Rydym yn canolbwyntio ar gyflogadwyedd a’r gwerth sydd gan sgiliau iaith ar gyfer bywyd proffesiynol. Yn Aberystwyth, byddwch yn astudio iaith mewn modd arbenigol, law yn llaw â datblygu eich dealltwriaeth o gymdeithasau a diwylliannau cenedlaethol a’u lle yn y byd. Wrth ichi wneud cynnydd yn eich astudiaethau, cewch gyfle i ddilyn nifer o fodiwlau arbenigol a fydd yn cyfoethogi’ch gwybodaeth o faterion cenedlaethol a rhyngwladol mewn cymdeithas a diwylliant.

Mae ein gwaith ymchwil o safon uchel, a’n dulliau arloesol o ysbrydoli ac ysgogi dysgu ieithoedd yn y dosbarth, i gyd yn cyfoethogi ein gwaith addysgu. Daeth yr Adran Ieithoedd Modern yn y 3ydd safle yn y DU yn gyffredinol ym maes Ieithoedd ac Ieithyddiaeth yn Nhabl Cynghrair Prifysgolion y Guardian 2024, yn 1af am Adborth ac yn 1af am roi Gwerth Ychwanegol. Rydym hefyd yn perfformio'n dda yn gyson yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr blynyddol. Yn yr Arolwg Cenedlathol o Fyfyrwyr 2023, cytunodd 100% o’r myfyrwyr bod staff yr Adran Ieithoedd Modern yn dda am egluro pethau.

Yn ogystal â’r profiad o fod yng nghanol yr ieithoedd yn yr Adran, bydd y flwyddyn dramor yn nhrydedd flwyddyn eich gradd yn golygu y byddwch yn cael eich trwytho yn niwylliant eich dewis iaith, a bydd hynny’n rhoi gwybodaeth werthfawr a hyder ichi.

Mae’r profiad a gaiff ein myfyrwyr yn ystod eu blwyddyn dramor (yn fyfyrwyr yn un o’r prifysgolion partner, yn athrawon iaith gyda’r Cyngor Prydeinig, neu mewn diwydiant) yn elfen ganolog o’n graddau ieithoedd modern. Mae’r flwyddyn dramor yn brofiad sy’n trawsnewid ac yn paratoi myfyrwyr yn effeithiol iawn ar gyfer dyfodol byd-eang. Rydym yn gweithio’n galed i’ch cefnogi wrth i ni eich paratoi ar gyfer eich cyfnod dramor, i’ch galluogi i fwynhau ac i fanteisio i’r eithaf ar y profiad.

Byddem wrth ein boddau yn eich croesawu ar ymweliad â’r Adran Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Aberystwyth, er mwyn rhoi mwy o wybodaeth ichi am ein graddau ac i’ch cyflwyno i’n cymuned fywiog o athrawon, ysgolheigion a myfyrwyr.

Ein cymuned a'n haddysgu

Yma yn yr Adran Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Aberystwyth, rydym yn ymfalchïo yn ein cymuned glòs, amrywiol a chosmopolitaidd o fyfyrwyr a staff. Fe glywch chi ystod o ieithoedd yn yr adran, gan gynnwys Almaeneg, Eidaleg, Ffrangeg a Sbaeneg, a bydd myfyrwyr yn disgrifio'r amgylchedd fel un sydd â naws gyfeillgar, teuluol yn aml. Mae'r holl fyfyrwyr yn ein hadran yn ffynnu yn ein hamgylchedd amlieithog.

Rydym yn cynnig dysg arloesol sy'n gwneud defnydd helaeth o'n platfform dysgu rhithwir, a thrwy ein amrywiaeth eang o fodiwlau, fe'ch ysgogir drwy gydol eich cwrs gradd a byddwch yn mynd o nerth i nerth. Dyma ddywedodd un cyn-fyfyrwraig, Chenay McKnight: 'Amrywiaeth y dysgu oedd y peth a oedd yn hollol amlwg i mi wrth ddewis Aberystwyth, a dyna beth sy wedi dal fy niddordeb drwy gydol y cwrs. Cefais y cyfle i ymweld â llawer o brifysgolion tra'n ymgeisio am y brifysgol, ond roedd y staff cyfeillgar yn Aberystwyth wedi dylanwadu'n fawr iawn ar fy mhenderfyniad i ddod yma. Teimlai fel bod gan bobl Aberystwyth ddigon o amser i'w roi i mi.' Yma yn yr adran Ieithoedd Modern, rydym yn hyderus y gallwn ryddhau eich potensial.

Rydym yn cynnig cyrsiau ar gyfer pob gallu, gan gynnwys llwybrau gradd i ddechreuwyr pur neu i'r rheini sy'n fwy profiadol (ôl-Safon Uwch neu gyfatebol), felly gallwch astudio ieithoedd hyd yn oed os nad ydych chi wedi cael y cyfle i astudio iaith ar lefel Safon Uwch neu gyfatebol.

Beth sy'n ein gosod ar wahân?

  • Fel myfyriwr yn ein hadran, byddwch yn cael eich addysgu gan siaradwyr brodorol sy’n arbenigwyr yn eu priod ieithoedd. Bydd hyn yn sicrhau cymaint o gysylltiad â phosibl â'ch dewis iaith yn ystod eich cyfnod yn Aberystwyth.
  • Bydd cyfleoedd gyrfaol gwych ar gael i chi, fel y mae'r ffigur o 95% o’n graddedigion mewn gwaith neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl graddio yn ei brofi; 1% yn uwch nag ar gyfer graddedigion ieithoedd yn genedlaethol (HESA* 2018).
  • Daethom yn 3ydd yn y DU am Fodlonrwydd Cyffredinol Myfyrwyr, yn 1af am Adborth ac yn 1af am Werth Ychwanegol ar gyfer pwnc Ieithoedd ac Ieithyddiaeth yn Nhabl Cynghrair y Guardian 2024.  Rydym yn cyrraedd safle uchel yn rheolaidd yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, yn cynnwys dod i’r brig yn y DU am Fodlonrwydd Myfyrwyr ym maes Astudiaethau Ffrengig yn 2022; ac yn y Complete University Guide 2024 cawsom ein rhoi yn 2il yn y DU am Fodlonrwydd Myfyrwyr am Ffrangeg ac yn y 5 uchaf yn y DU am Fodlonrwydd Myfyrwyr am Almaeneg.
  • Mae ein cynlluniau gradd yn hyblyg: yn annad dim, fe gewch chi'r cyfle i ychwanegu iaith arall, neu i ddisgyn iaith nad ydych yn dymuno ei hastudio ymhellach.
  • Mae ein hadran yn gymuned fach, gyfeillgar sy'n golygu ein bod yn dod i nabod ein gilydd yn dda. Rydym yn gallu cynnig cefnogaeth academaidd a bugeiliol personol a fydd yn sicrhau eich bod yn ffynnu, yn datblygu, ac yn rhagori yn eich dewis bynciau.
  • Rydym yn defnyddio BlackBoard - yr amgylchedd dysgu rhithwir – sy’n golygu bod gwybodaeth a deunyddiau ar flaenau’ch bysedd, gartref ac ar eich ffôn symudol.
  • Rydym yn cynnig cyfleusterau rhagorol - gweler y tab 'Ein cyfleusterau'.
  • Mae Aberystwyth yn dref fach a chanddi galon fawr a meddylfryd gosmopolitaidd. A ninnau'n Brifysgol fyrlymus a chyfeillgar, rydym yn denu myfyrwyr o bedwar ban byd, ac mae'r awyrgylch agos atoch yn ei gwneud yn lle gwych i ddod i nabod pobl. Yn ogystal â hynny, rydych yn siwr o gael eich ysbrydoli gan dirwedd odidog y dref a'r ardal.

*Cymerir ein ffigurau cyflogadwyedd o'r arolwg o ymadawyr ag addysg uwch 2016-17 a gyhoeddwyd gan Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) ym mis Mehefin 2018.

Ein cyfleusterau

Mae ein cyfleusterau yn cynnwys:

  • amgylchedd dysgu rhithwir soffistigedig
  • papurau newyddion a chylchgronau iaith dramor
  • ardal un pwrpas gyda llyfrau graddoledig yn llyfrgell y brifysgol
  • cymdeithasau undeb y myfyrwyr gweithredol ym mhob iaith
  • mannau astudio un pwrpas
  • dysgu wedi’i gynorthwyo gan gyfrifiadur
  • Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth - un o ganolfannau celfyddydol fwyaf Cymru - a leolir ar y campws ac sy’n dangos ffilmiau tramor yn rheolaidd
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru - un o ddim ond pum llyfrgell hawlfraint y DU sy'n adnodd gwych i fyfyrwyr - nepell o'r adran.

Ein Staff

Mae llawer o staff yr adran yn ymchwilwyr gweithredol ar raddfa fyd-eang ac mae'r ymchwil hon yn bwydo i mewn i'w dysgu. Mae pob un ohonynt yn frwd dros eu pwnc ac yn awyddus i rannu eu brwdfrydedd a'u gwybodaeth sydd wedi'i seilio ar ymchwil, ac mae eu harbenigedd yn rhychwantu amrywiaeth o bynciau. Golyga hyn eich bod chi, ein myfyrwyr, yn elwa o'r wybodaeth ddiweddaraf ym maes ieithoedd modern a bod gennych yr hyblygrwydd i arbenigo neu i ddewis a dethol o blith ein modiwlau dewisol. Yn ogystal â hynny, mae llawer o’n darlithwyr yn siaradwyr brodorol hefyd. Mae hyn yn golygu addysg gynhwysfawr ddiwylliannol ac ieithyddol o’r radd flaenaf.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein Proffiliau Staff.

Strwythur Addysgu / Meysydd Iaith

Mae ein dosbarthiadau'n fach ac yn meithrin ymagwedd ymarferol tuag at ddysgu, a hynny mewn darlithoedd, seminarau, a dosbarthiadau siarad a gwrando rheolaidd sy'n defnyddio ystod eang o ddeunyddiau clyweledol.

Bydd gradd o’r Adran Ieithoedd Modern yn eich galluogi i ganolbwyntio ar dri nod datblygu eang, sef:

  • lefel uchel o fedrusrwydd yn yr iaith neu’r ieithoedd a astudir
  • dealltwriaeth fanwl o ddiwylliant, cymdeithas, gwleidyddiaeth, economeg, hanes a llenyddiaeth o'r gwledydd lle siaredir yr iaith neu'r ieithoedd a astudir
  • sgiliau trosglwyddadwy ardderchog sy’n cynnwys y gallu i ddatrys problemau, cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sgiliau dadansoddi a fydd yn eich gwneud yn ddeniadol iawn i ddarpar gyflogwyr.

Caiff ein modiwlau eu haddysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a gweithdai ymarferol, a fydd yn rhoi ichi’r cysyniadau allweddol, a gwybodaeth berthnasol a chyfredol.

Mae ein seminarau’n rhoi’r cyfle ichi ofyn cwestiynau allweddol a thrafod syniadau pwysig mewn grwpiau bach. Rhennir y dosbarthiadau iaith i’r meysydd canlynol:

  • gwrando
  • gramadeg/ysgrifennu
  • cyfieithu
  • sgwrsio.

Mae’r dosbarthiadau iaith yn ddwys ac fe’u haddysgir mewn grwpiau bach, er mwyn sicrhau eich bod yn manteisio i’r eithaf ar ddatblygu’ch sgiliau ieithyddol yn ystod pedair blynedd eich cynllun gradd.

Ategir y ddarpariaeth iaith hefyd gan ein Cynorthwywyr Iaith sy'n gallu cynnig mwy o ymarfer sgwrsio, a cheir hefyd gyfleoedd i ymuno ag un o’n cymdeithasau iaith.

Ein Cyrsiau

Ein cyrsiau blaengar (Anrhydedd Sengl)

Modern Languages (R990) (Ieithoedd Modern)
Cyfle i astudio cyfuniad o dair iaith, a dwy ohonynt fel dechreuwyr. Gallwch ddewis o blith Almaeneg, Eidaleg, Ffrangeg a Sbaeneg yn dibynnu ar y llwybrau rydych yn dymuno eu dilyn.

French R120 (Ffrangeg)
Cyfle nid yn unig i astudio'r iaith Ffrangeg i lefel uchel, ond hefyd i feithrin dealltwriaeth drwyadl o lenyddiaeth, diwylliant a ieithyddeg Ffrengig a .


Spanish and Latin American Studies R401 (Sbaeneg ac Astudiaethau America Ladin)
Cyfle i feithrin dealltwriaeth ymarferol drwyadl o'r iaith Sbaeneg ac i ddysgu am lenyddiaeth gyfoes ac o'r gorffennol, cymdeithas, sinema, cyfieithu a gwleidyddiaeth yn Sbaen ac America Ladin.

Cyrsiau eraill

Rydym yn cynnig llawer o gyrsiau Cyfun hefyd lle gallwch gyfuno iaith â phwnc arall, er enghraifft Saesneg, Ysgrifennu Creadigol, Hanes, Drama, Busnes, y Gyfraith, a Chysylltiadau Rhyngwladol.

Mynnwch gip ar y tab 'Astudio gyda ni' i gael rhagor o wybodaeth am ein holl gyrsiau.

Ymweld â ni

Cyfleoedd

Bydd gradd Ieithoedd Modern yn Aberystwyth yn rhoi mantais sylweddol ichi dros raddedigion eraill o ran cyfleoedd gyrfaol yn y dyfodol, a hynny oherwydd y flwyddyn lle byddwch yn astudio neu’n gweithio dramor yn eich trydedd blwyddyn. Os ydych chi'n astudio dwy iaith neu fwy, cewch rannu'ch amser rhwng gwahanol wledydd. Mae hyn yn rhoi mantais enfawr ichi ar ôl gorffen yn y brifysgol oherwydd byddwch chi wedi dod yn annibynnol mewn dywylliant wahanol, wedi ennill profiad gwaith a defnyddio'ch sgiliau ieithyddol yng nghartref eich dewis iaith neu ieithoedd. Rydym yn hyderus y byddwch yn datblygu'ch arbenigedd i gychwyn ar ddyfodol llewyrchus ar ôl ichi raddio.

Dyma'r hyn sydd gan un o'n myfyrwyr cyfredol i'w ddweud am astudio gyda ni:

"Dewisais i Aberystwyth oherwydd bod llawer o bobl rhyngwladol yma ac roedd y brifysgol yn groesawgar iawn. Yn ogystal â hynny, mae'n brifysgol fach ac mae'r tiwtoriaid a'r darlithwyr yn trin pawb fel unigolyn, ac mae amser ganddynt i roi cymorth a chefnogaeth i'w myfyrwyr gydag unrhyw beth - ar lefel academaidd neu bersonol.

Roedd y cwrs yn ddwys iawn ar adegau - rhan yr iaith Sbaeneg o'r radd er enghraifft - ond mewn ffordd dda. Doeddwn i ddim yn teimlo fel mod i'n gwastraffu fy amser. Yn hytrach, roeddwn i'n dysgu llawer dros gyfnod byr. Ar y llaw arall, roedd modiwlau twristiaeth y cwrs dipyn yn llai dwys a rhoddodd hynny gyfle i mi fwynhau fy amser yn y brifysgol, diolch i amrywiol deithiau o gwmpas y Deyrnas Unedig yn ogystal â thramor, megis taith i Malta. At hynny, roeddwn i'n hoffi'r mannau astudio a'r ystod o ddeunydd ategol a gynigir gan y brifysgol.

Mae astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gyfuniad o fod mewn tref fach, heddychlon, a diogel, ac amrywiaeth o bobl rhyngwladol ac addysgu o safon da!"

Justyna Zdybel
Rheoli Twristiaeth gyda Sbaeneg