Cyfleoedd y Flwyddyn Dramor

Astudio neu Weithio Dramor
Fel Adran, rydyn ni wedi meithrin nifer o bartneriaethau gyda phrifysgolion dramor, sy'n golygu bod cyfleoedd i chi astudio yn rhai o ddinasoedd mwyaf eiconig Ewrop a ledled y byd. Gall myfyrwyr astudio mewn prifysgolion ym Mharis, Vienna, Berlin, Seville a Padova yn ogystal â llawer o lefydd eraill ledled Ewrop. Ceir cyfleoedd i fynd ar leoliad i lefydd pellach i ffwrdd hefyd, megis America Ladin, Quebec, y Pasifig Ffrengig ac Affrica.
Fel Adran, rydyn ni wedi datblygu nifer o bartneriaethau gyda phrifysgolion dramor. Mae hyn yn golygu y bydd cyfle gennych i astudio yn rhai o ddinasoedd mwyaf eiconig Ewrop yn ogystal â ledled y byd. Mae ein myfyrwyr ni wedi astudio ym Mharis, Vienna, Berlin, Barcelona a Padova yn ogystal â llawer o leoedd eraill ar draws Ewrop. Ceir cyfleoedd i fynd ar leoliadau i ardaloedd sydd ymhellach i ffwrdd hefyd, megis America Ladin neu Quebec.
Os ydych yn dewis y cwrs BA Ieithoedd Modern (lle gallwch chi gyfuno dwy neu dair iaith) neu un o'n cyrsiau cyfun ble astudir dwy iaith fodern, byddwch yn rhannu'ch amser rhwng y gwledydd lle siaredir yr ieithoedd hynny - er enghraifft hanner yn Ffrainc, hanner yn Sbaen.
Ceir cyfleoedd hefyd i wneud cais am un o leoliadau'r Cyngor Prydeinig. Mae myfyrwyr sy'n cael eu derbyn ar gynllun cynorthwyydd iaith y Cyngor Prydeinig yn dod o hyd i waith fel cynorthwywyr dosbarth mewn cyrchfannau ledled y byd. Mae'r opsiwn hwn yn cynnig profiad gwych ac yn eich galluogi i ennill cyflog wrth gael eich trwytho yn niwylliant eich dewis iaith. Dau yn unig o'r amrywiol opsiynau sydd ar gael yw rhain.
Canfod ble gallwch chi fynd yn fyfyriwr yn yr Adran Ieithoedd Modern