Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | Darlithiau 16 x 1 awr |
Seminarau / Tiwtorialau | Seminarau/ tiwtorialau 8 x 1 awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Supplementary Examination - 2hr closed exam | 60% |
Arholiad Semester | 2 Awr Semester Examination - 2hr closed exam | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Supplementary Assessment - 1 x 2,500-3,000 word essay | 40% |
Asesiad Semester | Semester Assessment - 1 x 2,500-3,000 word essay | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
dangos eu bod wedi datblygu dealltwriaeth gref o effaith y Rhyfel Mawr ar gymdeithas a diwylliant yng Nghymru
dangos dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o’r newidiadau a fu mewn dehongliad y Cymry o’r Rhyfel
deall y cysylltiad rhwng datblygiadau cymdeithasol yn y degawdau wedi’r Rhyfel, a’r newidiadau yn sut oedd y Cymry yn deall digwyddiadau 1914-18
asesu dogfennau hanesyddol gwahanol a’u defnyddio mewn modd gwrthrychol a beirniadol er mwyn asesu pa agweddau o ymateb y Cymry i’r Rhyfel a gafodd yr effeithiau mwyaf dwys
datblygu ac ymestyn eu sgiliau dadansoddol a beirniadol trwy ddefnyddio cyfryngau diwylliannol gwahanol: barddoniaeth, hunangofiannau, rhaglenni ffeithiol, delweddau gweledol a thystiolaeth gan lygad-dystion
casglu gwybodaeth o ffynonellau amrywiol, a lleoli ac ystyried y wybodaeth honno o fewn cyd-destun gwleidyddol, hanesyddol a chymdeithasol
Cynnwys
Darlith 1 - Adrodd hanes y Rhyfel: Sut mae’r ddealltwriaeth o’r Rhyfel Mawr wedi newid dros y degawdau
Seminar 1 - Trafodaeth o sut mae’r myfyrwyr yn edrych ar y Rhyfel, a’r delweddau sydd yn gyfarwydd i’r Cymry; gwylio rhaglen Y Rhwyg (1988), a gyflwynwyd gan Dr John Davies
(Wythnos 2) 1880-1914
Darlith 2 - Sôn am ryfel; poeni am ryfel; paratoi at ryfel; ysu am ryfel?
Darlith 3 - Gorffennaf i Awst 1914
(Wythnos 3) Gwleidyddiaeth: Lloyd George, y Rhyddfrydwyr a’r Sosialwyr
Darlith 4 - Cymeriad Lloyd George; Cyfraniad Lloyd George; Chwedl Lloyd George; Atgofion Lloyd George
Darlith 5 - Sosialwyr a’r Rhyfel
(Wythnos 4) Her i’r hen syniadau am wareiddiad
Darlith 6 - Gwrthwynebwyr Cydwybodol
Darlith 7 - Merched: newid byd - Merched yn y ffatrioedd arfau
Seminar 2 - Ymladd a gwrthod ymladd: Sosialwyr a’r Rhyfel / Gwrthwynebwyr Cydwybodol
(Wythnos 5) Ennill y Rhyfel; colli’r heddwch
Darlith 8 – Buddugoliaeth Lloyd George? Cytundeb Versailles
Darlith 9 – Dirwasgiad a Dadrithiad: y 1920au; Gwersi 1914 a’r ymgais i gymodi â Hitler: y 1930au
(Wythnos 6) Yn sgil y Dadrithio
Darlith 10 – Ymateb llenyddol: chwedl Hedd Wyn; All Quiet on the Western Front
Darlith 11 – Trafod y Rhyfel Mawr yn ystod yr Ail Ryfel Byd
Seminar 3 - David Davies a’r mudiad heddwch; Dyhuddiaeth a gwrthwynebiad i’r Ail Ryfel Byd
(Wythnos 7) Y Llewod a’r Asynnod
Darlith 12: Trafodaeth y 1960au: ‘Lions led by Donkeys’; pwysleisio ffolineb a gwastraff y rhyfel
Seminar 4 - Cyfres The Great War (1964) (i)
Seminar 5 - Cyfres The Great War (1964) (ii)
(Wythnos 8) Conundrum ‘y ddau Ffrynt Gorllewinol’
Darlith 13: Y gwahaniaeth rhwng maes y gad a fodolodd yn Ffrainc a Fflandrys rhwng 1914 a 1918 a’r un dychmygol sy’n gread y cenedlaethau a edrychai nôl mewn syndod a braw
Seminar 6 – Cofio brwydr Mametz; rhaglen Mametz (1987)
(Wythnos 9) Atgofion hen wŷr
Darlith 14 - Trafferthion gydag atgofion cyn-filwyr, er gwaethaf eu hatyniad amlwg
Darlith 15 – atgofion Griffith Williams, Bob Owen ac Ithel Davies
(Wythnos 10) Hanes Diwylliannol y Rhyfel
Darlith 16 - Cyd-destun diwylliannol y Rhyfel Mawr
Seminar 7 – Portreadu’r Rhyfel Mawr yn y Gymraeg heddiw: Lleisiau’r Rhyfel Mawr (2008)
Seminar 8 - Sesiwn ar gyfer cyflwyniadau’r myfyrwyr
Disgrifiad cryno
Bydd 'Y Rhyfel Mawr trwy lygaid y Cymry' yn cynnig arolwg eang o ddylanwad y Rhyfel Mawr ar bobl Cymru, ac ar ddiwylliant Cymreig a Chymraeg. Ni fydd yr astudiaeth yn cyfyngu ei hunan i ddigwyddiadau 1914-18, ond yn hytrach bydd yn trafod y cyfnod o 1880 i'r presennol. Byddwn yn cychwyn trwy edrych ar sut oedd y Cymry yn gweld eu safle yn y byd yn y degawdau cyn y Rhyfel, ac yn ystyried effaith yr ymladd ar feddylfryd y Cymry ar y pryd, ac yn y degawdau ers y cadoediad. Wrth astudio sut mae'r Rhyfel wedi cael ei bortreadu a'i gofio yn y Gymraeg byddwn yn dadansoddi sut mae’r newidiadau yn y coffáu yn adlewyrchu’r sefyllfa gyfredol yng Nghymru.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | |
Datrys Problemau | Disgwylir i fyfyrwyr fedru trin a thrafod problemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol wrth baratoi ar gyfer seminarau a gwaith ysgrifenedig |
Gwaith Tim | |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Defnyddio amryw o gyfryngau gwahanol er mwyn ffurfio barn feirniadol. |
Technoleg Gwybodaeth |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6