Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
GW12620
Teitl y Modiwl
Y Tu ôl i'r Penawdau
Blwyddyn Academaidd
2014/2015
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 15 Hours (15 x 1 awr)
Seminarau / Tiwtorialau 20 Hours (10 x 2 awr)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Briffio pennawd 1,500 e Neu 2 Erthygl yn mynegi Barn 750 e  25%
Asesiad Ailsefyll Papur Briffio pennawd (1,500 o eiriau)  25%
Asesiad Ailsefyll Dyddiadur myfyriol (3000 o eiriau)  50%
Asesiad Semester Briffio pennawd 1,500 e Neu 2 Erthygl yn mynegi Barn 750 e  OR two (2) Opinion Articles (750 words each)  25%
Asesiad Semester Papur Briffio pennawd (1,500 o eiriau)  25%
Asesiad Semester Dyddiadur myfyriol (3000 o eiriau)  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Adnabod ac egluro goblygiadau gwleidyddiaeth ryngwladol digwyddiadau diweddar yn y byd sy'n cael eu hadrodd yn y cyfryngau.

Dangos gwybodaeth empiraidd o ystod o bynciau datblygol neu sy'n digwydd yn fynych ac sydd yn berthnasol i wleidyddiaeth ryngwladol.

Adnabod ac egluro cryfderau a gwendidau adroddiadau yn y cyfryngau ac erthyglau barn, o ran eu cynnwys a'u rhesymeg.

Dadansoddi a beirniadu'r rhagdybiaethau sy'n sail i adroddiadau a barn sy'n ymddangos yn y cyfryngau.

Gwerthuso a llunio syniadau ar gyfer gwella'r modd y mae digwyddiadau yn y byd yn cael eu hadrodd a'u dadansoddi mewn gwahanol gyfryngau.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyfle i ystyried datblygiadau gwleidyddiaeth ryngwladol mewn amser go iawn. Mae'r maes llafur yn unigryw gan mai digwyddiadau'r byd fel y'u hadroddir gan y cyfryngau sydd o reidrwydd yn ei bennu. Canolbwyntir ar newyddion a barn sy'n ymddangos o wythnos i wythnos yn ystod y semester, a bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau fel ymchwilwyr, meddylwyr beirniadol, cyflwynwyr ac ysgrifenwyr yn ogystal â dod yn fwy ymwybodol o'r cyfryngau. Yn y darlithoedd, dangosir y ffyrdd y mae amrywiol ymchwilwyr academaidd a deallusion o blith y cyhoedd yn ymateb i ddigwyddiadau yn y byd, a bydd gweithdai trylwyr yn help i ddatblygu'r sgiliau fydd yn cael eu hasesu yn y modiwl.

Cynnwys

Rhowch amlinelliad o'r cynnwys, fesul wythnos, gan nodi'r darlithoedd, y seminarau a/neu unrhyw ddulliau cyflwyno eraill.
Wythnos Yn Dechrau Darlith(oedd) Gweithdy
1 26 Ionawr 1 Cyflwyniad -
2 2 Chwefror 2 Darlithydd Gwleidyddiaeth 1
3 9 Chwefror 3 Darlithydd Gwleidyddiaeth 2
4 Sgiliau meddwl beirniadol
4 16 Chwefror 5 Darlithydd Gwleidyddiaeth 3
5 23 Chwefror 6 Darlithydd Gwleidyddiaeth 4
7 Darlithydd allanol
6 2 Mawrth 8 Darlithydd Gwleidyddiaeth 5
7 9 Mawrth 9 Darlithydd Gwleidyddiaeth 6
10 Darlithydd allanol
8 16 Mawrth 11 Darlithydd Gwleidyddiaeth 7
9 13 Ebrill 12 Darlithydd Gwleidyddiaeth 8
13 Darlithydd allanol
10 20 Ebrill 14 Darlithydd Gwleidyddiaeth 9
11 27 Ebrill 15 Myfyrio, ystyried a thrafod 10

Nod

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno i raglen ddysgu'r Adran brofiad go iawn o'r berthynas rhwng digwyddiadau yn y byd, adroddiadau'r cyfryngau, ac astudio gwleidyddiaeth ryngwladol yn academaidd. Mae'r modiwl yn defnyddio amrywiaeth o safbwyntiau o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a thu hwnt, wrth i straeon yn y cyfryngau ddatblygu a chael eu hasesu'n feirniadol gan arbenigwyr mewn astudiaethau newyddiaduraeth, damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol, llywodraethiant byd-eang, moeseg fyd-eang, economi wleidyddol ryngwladol, diplomyddiaeth a pholisi tramor, astudiaethau cudd-wybodaeth, astudiaethau diogelwch, a hanes milwrol. Yn y gweithdai ac wrth gwblhau'r tasgau asesu, bydd gan fyfyrwyr ryddid i ddewis a thrafod pynciau o'u dewis. Mae'r gweithgareddau dysgu wedi'u cynllunio i annog ymreolaeth ddeallusol, a nod gyffredinol y modiwl yw hyfforddi ac annog myfyrwyr gwleidyddiaeth i ymgysylltu'n gyson ac yn feirniadol â'r cyfryngau.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig a sut i gyflwyno eu dadleuon yn fwyaf effeithiol. Byddant yn dysgu am bwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu'n eglur a sut i wneud y gorau ohonynt. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio'r lliaws ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael a sut i ddefnyddio'r ffurf gyfathrebu fwyaf priodol. Byddant yn dysgu bod yn eglur wrth ysgrifennu a siarad ac i fod yn uniongyrchol o ran nodau ac amcanion. Byddant yn dysgu i ystyried yr hyn sy'n berthnasol i’r pwnc yn unig, a chanolbwynt ac amcanion y ddadl neu'r drafodaeth. Gofynnir i fyfyrwyr hefyd gyflwyno'r asesiadau ysgrifenedig wedi'u geirbrosesu a dylai'r modd y byddant yn cyflwyno'r gwaith adlewyrchu mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith er mwyn sicrhau eglurder, cydlyniant a chyfathrebu effeithiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae'r modiwl hwn wedi'i gynllunio i fireinio a phrofi sgiliau fydd o ddefnydd i fyfyrwyr yn ystod eu bywyd gwaith, yn arbennig wrth siarad â grwpiau bychain, gwrando, meddwl ac ymateb i ddatganiadau eraill. Ar ben hynny, mae'r gwaith ysgrifenedig yn cynnwys ysgrifennu’n glir a chryno, sy'n dasg gyffredin yn y gweithle. Anogir myfyrwyr drwy gydol y modiwl i ystyried eu perfformiad ac i ystyried gwersi i'w defnyddio yn y dyfodol.
Datrys Problemau Bydd gweithio'n annibynnol a datrys problemau yn amcan canolog o'r modiwl; bydd cyflwyno ystod o asesiadau sgiliau astudio yn gofyn i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwilio annibynnol yn ogystal â sgiliau datrys problemau. Datblygir ac asesir gallu myfyrwyr i ddatrys problemau drwy ofyn iddynt: fabwysiadu gwahanol safbwyntiau; trefnu data a llunio ateb i'r broblem; rhesymu’n rhesymegol; llunio dadleuon damcaniaethol; rhannu pynciau yn broblemau llai.
Gwaith Tim Bydd myfyrwyr yn gwneud ymarferion tîm yn y seminarau. Ar gyfer nifer o bynciau'r modiwl hwn, bydd seminarau yn cynnwys trafodaethau mewn grwpiau bychain lle gofynnir i fyfyrwyr drafod fel grŵp y pynciau craidd sy'n ymwneud â phwnc y seminar. Mae'r trafodaethau a'r dadleuon hyn yn y dosbarth yn ffurfio rhan sylweddol o’r modiwl, a byddant yn galluogi'r myfyrwyr i drafod ac archwilio pwnc penodol drwy waith tîm.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Nod y modiwl yw hybu hunanreolaeth ond o fewn i gyd-destun y mae cefnogaeth a chymorth ar gael gan gydgysylltydd y modiwl a chyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu a'u perfformiad eu hunain drwy wneud eu gwaith ymchwil eu hunain a dangos menter, gan gynnwys chwilio am ffynonellau a phenderfynu (dan gyfarwyddyd) ar gyfeiriad y gwaith cwrs a phynciau'r cyflwyniadau.
Rhifedd Amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Bydd gan fyfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi amrywiaeth eang o sgiliau penodol i'r pwnc sy'n eu helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau am y modiwl. Bydd y sgiliau penodol i'r pwnc yn cynnwys: • Casglu a deall amrywiaeth eang o ddata sy'n berthnasol i'r modiwl • Gwerthuso safbwyntiau sy’n cystadlu â'i gilydd
Sgiliau ymchwil Gofynnir i fyfyrwyr wneud gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer elfennau o'r gwaith i'w asesu. Bydd hyn yn cynnwys defnyddio amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth, yn enwedig ffynonellau cyfryngau cyfredol.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi'i eirbrosesu, drwy'r llwyfan ar-lein Blackboard. Hefyd, anogir myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal â chwilio am ffynonellau drwy ffynonellau gwybodaeth electronig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4