Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
SC11320
Teitl y Modiwl
Cyflwyniad i Seicoleg: Ymchwili a Chyfathrebiad
Blwyddyn Academaidd
2014/2015
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd DARLITHIAU (llwyth gwaith = 1 awr) 12 x 1 awr (6 semester UN a 6 semester DAU) i'w cynnal am yn ail wythnos a'r seminarau
Seminarau / Tiwtorialau SEMINARAU/DOSBARTHIADAU TIWTORIAL (llwyth gwaith = 2 awr) 10 x 2 awr (5 semester UN a 5 semester DAU) i'w cynnal am yn ail wythnos â'r darlithiau
Dadansoddi Llwyth Gwaith (Llwyth gwaith i fyfyrwyr o 100 awr ar gyfer pob 10 credyd) Nifer yr oriau o ddarlithoedd 10; Nifer yr oriau o baratoi ar gyfer darlithoedd (2 awr ar gyfer pob darlith) 20; Nifer yr oriau o sesiynau ymarferol 20; Nifer yr oriau o baratoi ar gyfer sesiynau ymarferol (3 awr ar gyfer pob awr o sesiwn ymarferol) 60; Nifer yr oriau a dreulir yn ysgrifennu gwaith cwrs 60; Nifer yr oriau a dreulir yn adolygu ar gyfer yr arholiad 30;
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester practical reports  50%
Asesiad Semester group poster  20%
Arholiad Semester 2 Awr   Written exam  30%
Asesiad Ailsefyll Practical Reports  50%
Asesiad Ailsefyll Group Poster  20%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Written Exam  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi iddynt gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Asesu'n feirniadol egwyddorion allweddol cynllunio ymchwil feintiol ac ansoddol fel ei gilydd.

2. Deall sut i ddefnyddio, a chyfrifo, profion disgrifiadol, amharametrig a pharametrig sylfaenol.

3. Canfod pryd i ddefnyddio gwahanol ddulliau ymchwil yn briodol.

4. Archwilio a gwerthuso'r angen am foeseg mewn seicoleg a'r defnydd ohoni.

5. Cyfathrebu ynghylch cynnyrch ymchwil mewn amrywiaeth o gyfryngau.

Disgrifiad cryno

Seicoleg fel gwyddor; y defnydd o ddulliau ansoddol a meintiol mewn seicoleg; egwyddorion moeseg wrth arbrofi; codau ymarfer moesegol. Cynllunio a rheoli arbrofion.

Nod

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno dulliau ymchwil ym maes seicoleg. Nid yw'n rhagdybio unrhyw wybodaeth flaenorol o seicoleg, ac mae'n rhoi i fyfyrwyr sylfaen o wybodaeth ar gyfer astudio yn y dyfodol. Mae'n rhoi golwg i fyfyrwyr ar derminoleg a chysyniadau sylfaenol dulliau ymchwil ansoddol a meintiol fel ei gilydd, ynghyd a chyflwyno moeseg ymchwil a chodau ymarfer.

Cynnwys

  • Dulliau ymchwil meintiol:
  • Cynllunio a rheoli arbrofion; graddfeydd data; dosraniadau; mesuriadau tuedd ganolog a gwasgariad; tebygolrwydd; lefelau arwyddocad a phrofi damcaniaethau; prawf ungynffon a phrawf dwygynffon; ystadegau parametrig ac amharametrig; prawf U Mann-Whitney; Prawf arwyddion graddedig Wilcoxon;. Profion-t perthynol ac annibynnol. Data amledd. Kruskal-Wallis; Friedman. Cyflwyniad i ANOVA a chydberthyniad. Rheoli newidynnau; gwrthbwyso.
  • Dulliau ymchwil ansoddol:
  • Cefndir ymchwil ansoddol; cynllunio ymchwil ansoddol; cyflwyniad i ddadansoddi thematig.
  • Moeseg:
  • Caniatad gwybodus; twyll; pynciau sensitif; cyfranogwyr sy'n agored i niwed; codau ymarfer.
  • Cyfathrebu:
  • Chwilio am lenyddiaeth; cyflwyno canfyddiadau; cyflwyniad i Excel; defnyddio tablau a ffigurau; datblygu dadleuon; cyfeirio.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd myfyrwyr yn deall pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i ddefnyddio'r rhain i'r eithaf. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio'r llu o ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael a sut i ddefnyddio'r ffurf fwyaf addas o gyfathrebu i sicrhau'r budd mwyaf. Byddant yn dysgu i fod yn glir ac yn uniongyrchol ynghylch eu nodau a'u hamcanion. Byddant yn dysgu sut i ystyried yr hyn sy'n berthnasol i'r pwnc yn unig, ac i ganolbwyntio ar amcanion eu dadl neu eu trafodaeth. Bydd seminarau'n cael eu cynnal mewn grwpiau lle mai trafodaeth lafar a chyflwyniadau fydd prif gyfrwng y dysgu. Bydd disgwyl i'r myfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi'i eirbrosesu a dylai'r modd y cyflwynir y gwaith adlewyrchu mynegiant effeithiol o syniadau a defnydd da o sgiliau iaith er mwyn sicrhau eglurder, cysondeb a chyfathrebu effeithiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y trafodaethau yn enwedig yn helpu i ddatblygu sgiliau llafar a sgiliau cyflwyno y myfyrwyr. Bydd dysgu am y broses o gynllunio prosiectau, fframio ffiniau'r prosiect, mireinio a datblygu'r prosiectau a gweld y cyfan drwyddo i'w ddiwedd yn cyfrannu tuag at eu portffolio o sgiliau trosglwyddadwy.
Datrys Problemau Bydd gwaith prosiect a datrys problemau yn annibynnol yn un o amcanion canolog y modiwl; bydd gofyn cyflwyno 3 adroddiad ymarferol ac felly bydd angen i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau ymchwilio annibynnol yn ogystal a sgiliau datrys problemau. Bydd gallu myfyrwyr i ddatrys problemau yn cael ei ddatblygu a'i asesu drwy ofyn iddynt: gymryd gwahanol safbwyntiau; trefnu data a rhoi amcan o ateb i'r broblem; ystyried astudiaethau achos; rhesymu mewn modd rhesymegol; defnyddio modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; edrych am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai. Bydd arholiad terfynol yn sicrhau y gellir gwneud asesiad o allu'r myfyriwr i weithio ar ei ben ei hun.
Gwaith Tim Un rhan o'r dosbarthiadau ymarferol fydd trafodaethau mewn grwpiau bach lle bydd yn rhaid i fyfyrwyr drafod fel gr'p y materion craidd sy'n berthnasol i bynciau ymchwil. Mae dadleuon a thrafodaethau o'r fath yn yr ystafell ddosbarth yn elfen hanfodol o'r modiwl.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Nod y modiwl yw hyrwyddo hunanreolaeth, ond o fewn cyd-destun o gymorth gan yr hwylusydd a chan gyd-fyfyrwyr fel ei gilydd. Bydd disgwyl i fyfyrwyr wella eu dysgu a'u perfformiad eu hun drwy wneud eu gwaith ymchwil eu hun a defnyddio eu menter eu hun, gan gynnwys chwilio am ffynonellau, llunio rhestrau darllen, a phenderfynu (dan gyfarwyddyd) ar gyfeiriad eu pynciau ymarferol. Bydd yr angen i gwrdd a therfynau amser ymarferol yn canolbwyntio sylw'r myfyrwyr ar yr angen i reoli eu hamser ac adnoddau cyfle yn dda. Bydd disgwyl i fyfyrwyr fyfyrio ar eu prosesau dysgu eu hun, a rhoi tystiolaeth o hyn drwy gyflwyno taflen fyfyrio gyda phob darn o waith cwrs.
Rhifedd Ymdrinnir a'r defnydd o rifau drwy gydol y modiwl (gweler B3 uchod).
Sgiliau pwnc penodol Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ddatblygu ystod eang o sgiliau sy'n benodol i'r pwnc a fydd yn gymorth iddynt ddeall, cysyniadoli a dewis dulliau ymchwil a phrofion ystadegol addas. Ymhlith y sgiliau hyn sy'n benodol i'r pwnc mae: *Asesu dulliau gwyddonol mewn seicoleg. *Gwahaniaethu rhwng dulliau ymchwil meintiol ac ansoddol. *Dangos eu bod yn gyfarwydd a'r technegau y mae gofyn eu cael wrth chwilio am lenyddiaeth. *Gwerthfawrogi natur ymchwil foesegol yn y gwyddorau cymdeithasol.
Sgiliau ymchwil Drwy gyflwyno pedwar adroddiad ymarferol bydd sgiliau ymchwilio annibynnol y myfyriwr yn cael eu hadlewyrchu. Bydd yr angen i ganfod adnoddau ymchwil addas ac ysgrifennu am y canlyniadau hefyd yn hwyluso sgiliau ymchwil. Bydd gwaith ymchwil paratoadol ar gyfer cyflwyniad poster hefyd yn galluogi i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Bydd arholiad terfynol yn sicrhau y gellir gwneud asesiad o allu'r myfyriwr i weithio ar ei ben ei hun.
Technoleg Gwybodaeth Bydd disgwyl i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi'i eirbrosesu. Hefyd, bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal a chwilio am ffynonellau drwy gyfrwng ffynonellau gwybodaeth electronig (megis y Web of Science a PsychLit; PsychInfo). Bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i sut i ddefnyddio Excel a Powerpoint. Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu ar eu gallu i ddefnyddio Excel o fewn meini prawf asesu yr adroddiad ymarferol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4