Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
DA10810
Teitl y Modiwl
Newid Hinsawdd
Blwyddyn Academaidd
2017/2018
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminar 3 x Seminarau 1 Awr
Darlith 11 x Darlithoedd 2 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 1.5 Awr   Arholiad ar-lein QMP  Traethawd 1500 o eiriau gan ymchwilio i thema un or darlithiau yn fwy manwl. Rhoddir dewis o gwestiynau i fyfyrwyr iddynt eu trafod yn y traethawd. Er mair myfyrwyr fydd yn gosod cyflymder y gwaith, gosodir dyddiadau cau terfynol i bob elfen. Bydd polisi safonol y Sefydliad Daearyddiaeth a wyddorau Daear mewn grym. Rhaid cwblau ddwy elfen yr asesiad er mwyn cael marc pasio yn seiliedig ar y perfformiad cyfansawdd.  Arholiad arlein QMP, Computer room needed  100%
Asesiad Ailsefyll 1.5 Awr   Arholiad ar-lein QMP  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Amlinellu cyd-destunau hanesyddol, ffisegol a dynol (cymdeithasol, gwleidyddol) y ddadl newid hinsawdd gyfredol, a disgrifio'r gwahaniaethau rhanbarthol a byd-eang yn sgil effeithiau'r newidiadau hinsoddol rhagweledig;

2. Gwerthuso'r gwahanol gynrychioliadau’r ddadl newid hinsawdd (e.e. yn y cyfryngau gwyddonol a phoblogaidd) yn feirniadol;

3. Asesu manteision ac anfanteision y gwahanol gynlluniau arfaethedig er gyfer addasu at newidiadau hinsoddol rhagweledig y dyfodol.

Disgrifiad cryno

Dyluniwyd y modiwl er mwyn i fyfyrwyr allu datblygu dealltwriaeth ffeithiol a chysyniadol am agweddau daearyddol rhai o'r pynciau llosg sydd ynghlwm â 'dadl newid hinsawdd'. Ystyria'r modiwl safbwyntiau ffisegol a gwleidyddol/cymdeithasol y dadleuon yn fwriadol, gan roi pwyslais penodol ar 'gynhesu byd-eang'.

Cynnwys

Gorolwg o bynciau'r darlithoedd: 1) Newid hinsawdd: trawiadau (6 awr) Cefndir hanesyddol ac ymddangosiad ‘dadl newid hinsawdd', a safle daearyddiaeth fel disgyblaeth ynddi; cefndir ffisegol dadl newid hinsawdd; gwyddor cynhesu byd-eang (e.e. dealltwriaethau modeli a chynrychioli ansicrwydd); effeithiau cynhesu byd-eang ar wahanol sfferau systemau daearol (e.e. yr atmosffer, yr hydrosffer, cryosffer, geosffer, biosffer) a gwahanol ranbarthau bydol, yn enwedig parthed geo-beryglon a bioamrywiaeth. 2) Newid hinsawdd: canfyddiadau (6 awr) Cefndir cymdeithasol a gwleidyddol dadl newid hinsawdd, ac ymddangosiad y ddadl ar yr agenda gwleidyddol; canfyddiadau gwyddonol o'r cynrychioliadau newid hinsawdd, gyda phwyslais penodol ar adroddiadau asesu'r Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC); canfyddiadau a chynrychiolaethau llywodraethau, diwydiant, a'r cyhoedd o newid hinsawdd, a rôl y cyfryngau. 3) Newid hinsawdd – addasiadau (6 awr) Cyllidebu carbon a chynlluniau gwrthbwyso carbon (carbon offsetting): manteision ac anfanteision; Ffyrdd eraill o leddfu ac addasu tuag at economi carbon isel a chynaliadwy (e.e. safbwynt 'triongl sefydlogi'); addasiadau unigol: beth fedrwch wneud? Goblygiadau ffordd o fyw carbon isel.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae asesu gwahanol gyfryngau cyfathrebu wrth galon dadl newid hinsawdd, gyda gwahanol garfannau'n cynhyrchu gwahanol cynrychioliadau ysgrifenedig, gweladwy, ac ar lafar. Canolbwyntia'r modiwl ar ddarparu sgiliau angenrheidiol i fyfyrwyr er mwyn iddynt allu gwerthuso'r honiadau a rhagolygon am newid hinsawdd sy'n cystadlu â'i gilydd, yn enwedig drwy bwysleisio arwyddocâd gwahanol ffyrdd o gyfathrebu mewn gwahanol gyd-destunau.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Newid hinsawdd yw un o'r pynciau llosg byd-eang mwyaf pwysig; daeth yn eitem sefydlog ar yr agenda gwyddonol, cymdeithasol, a gwleidyddol yn gyflym. Fel ymhelaethir ar ddechrau a thrwy gydol y modiwl, mae angen graddedigion sydd yn hyddysg yn natur amlochrog dadl newid hinsawdd, boed yn y gwyddorau, llywodraeth, diwydiant, neu yng nghymdeithas. Yn benodol, mae yna alw am rai â medrau adnabod, asesu, a gwerthuso honiadau a chynrychioliadau newid hinsawdd sy'n cystadlu a'i gilydd. Wrth gwblhau'r modiwl yn llwyddiannus, bydd gan fyfyrwyr cefndir cadarn ar gyfer Na dilyn modiwlau mwy arbenigol yn naearyddiaeth ddynol a/neu ffisegol sy'n ymhelaethu ar themâu newid hinsawdd. Byddant yn medru cystadlu am ystod o yrfaoedd sy'n ymwneud â'r amgylchedd ar sail eu sylfaen gwybodaeth.
Datrys Problemau Newid hinsawdd yw un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r byd, ond, ar hyn o bryd, ni cheir unrhyw atebion a dderbyniwyd yn unfrydol neu'n eang ar sut i leddfu a/neu addasu i newidiadau hinsoddol y dyfodol. Mae gan bob strategaeth ar gyfer lleddfu/addasu fanteision ac anfanteision, yn enwedig wrth ystyried gwahanol gyd-destunau daearyddol. Yn sgil hyn mae medrau datrys problemau yn rhan allweddol o'r ddadl newid hinsawdd.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Cyflwynir asesu ffurfiadol cyflym (yn debyg i'r rhai yn yr arholiad QMP terfynol) yn y darlithoedd/ar y Porth er mwyn creu meincnodau a fydd yn sail i fyfyrwyr nodi'u cynnydd.
Rhifedd Mae'r gallu i ddadansoddi a dehongli gwahanol ddata rhifiadol a graffigol yn elfennau canolog i'r ddadl newid hinsawdd.
Sgiliau pwnc penodol Deall yr amrywiaeth lleol, rhanbarthol a byd-eang agweddau dynol a ffisegol system y Ddaear, yn arbennig yng nghyd-destun y ddadl newid hinsawdd.
Sgiliau ymchwil Er na fydd myfyrwyr yn cynllunio na chynnal ymchwil eu hunain yn y modiwl, mae gwerthuso gwahanol ddulliau, dyluniadau, a threfniadau ymchwil yn rhan allweddol o’r ddadl newid hinsawdd.
Technoleg Gwybodaeth Mae adnabod a gwerthuso gwahanol ffynonellau gwybodaeth ar y we (dibynadwyedd, geirwiredd, ac ati) yn elfen hollbwysig o’r ddadl newid hinsawdd.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4