Gwybodaeth Modiwlau

Module Identifier
TR30120
Module Title
Traethawd Estynedig
Academic Year
2017/2018
Co-ordinator
Semester
Semester 2 (Taught over 2 semesters)
Pre-Requisite
CR12130 and CR12430
Other Staff

Course Delivery

Delivery Type Delivery length / details
Lecture 1 x Darlith 1 Awr
Lecture 5 x Darlithoedd 1 Awr
Workshop 1 x Gweithdy 2 Awr
 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Traethawd Estynedig  8000-10000 o eiriau i’w cyflwyno ar ddiwedd semester 2. Gofynnir i adroddiad ymchwil gael ei gyflwyno yn wythnos 8 y semester perthnasol. Gall methu cyflwyno adroddiad ymchwil boddhaol olygu y bydd 5 marc yn cael eu tynnu o’r marc ar gyfer y traethawd terfynol. Cyflwyno Poster yn ystod y gweithdy yn semester 2. Gall methu mynychu’r gweithdy olygu y bydd 5 marc yn cael eu tynnu o’r marc ar gyfer y traethawd terfynol.   100%
Supplementary Assessment Traethawd Estynedig  8000-10000 o eiriau. Os bydd myfyriwr yn methu’r asesiad ac yn dymuno ailgyflwyno, rhaid cyflwyno traethawd ar bwnc sydd yr un yn ei hanfod ag y cyflwynwyd yn wreiddiol. Darperir adborth gan y cyfarwyddwr gwreiddiol, neu oni bydd hynny’n bosibl, gan gydgysylltydd y modiwl. Ni ddarperir rhagor o oruchwyliaeth. Nid oes angen cyflwyno cynllun ymchwil pellach nac adroddiad. Gall myfyrwyr fynychu darlithoedd ar y traethawd  100%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Ennill y sgiliau angenrheidiol er mwyn ymchwilio i faes troseddeg o ddewis ac ysgrifennu canlyniadau’r ymchwil mewn modd clir, trefnus a dealladwy er mwyn hyrwyddo’r wybodaeth a’r syniadau a gyflwynir yn y gwaith ymchwil.
2. Cymhwyso’r sgiliau a enillwyd yn y modiwlau Sgiliau Ymchwil at eu dewis faes troseddeg neu seicoleg gymhwysol.
Gellir crynhoi canlyniadau hyfforddiant y modiwl hwn fel a ganlyn:
(a) datblygu gwerthfawrogiad o botensial ymchwil pynciau trwy ddewis pwnc hyfyw i ymchwilio iddo;
(b) adolygu, gwerthuso a blaenoriaethu arwyddocâd y deunyddiau a gasglwyd a’r pynciau a nodwyd
(c) datblygu’r sgiliau sy’n gysylltiedig â chynllunio, trefnu ac amserlennu darn o waith ymchwil parhaus dros gyfnod o rai misoedd;
(d) datblygu’r gallu i drefnu syniadau a rhoi trefn ar ddeunydd er mwyn cyflwyno’r ddadl a’r data yn effeithiol;
(e) datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd ar gyfer cyflwyno adroddiad eglur, rhugl a darllenadwy o’r pwnc dan sylw ar ffurf ysgrifenedig sylweddol o 8000-10000 o eiriau.

Brief description

Mae’r modiwl hwn yn cynnwys ymarfer ymchwilio troseddegol parhaus ac ysgrifennu am bwnc arbennig yn hytrach nag wedi ei seilio ar gwrs astudio sydd wedi’i bennu. Y myfyriwr, gyda chymeradwyaeth yr Adran, fydd yn dewis pwnc i ymchwilio iddo’n fanwl ac yn symud ymlaen i’r camau ymchwilio ac ysgrifennu dan gyfarwyddyd aelod staff sy’n gyfarwydd â’r maes y mae pwnc y traethawd yn perthyn iddo. Bydd yr ymarfer cyffredinol o ymchwilio ac ysgrifennu’r traethawd yn adeiladu ar wybodaeth o, a hyfforddiant wrth ddefnyddio, adnoddau’r llyfrgell a ddarperir yn y modiwlau Darlleniadau mewn Troseddeg / Darlleniadau mewn Seicoleg ac Elfennau o Droseddeg. Mae’n adeiladu hefyd ar yr hyfforddiant yn y modiwlau Darlleniadau mewn Troseddeg/Seicoleg a gafwyd yn y flwyddyn gyntaf ac yn gwneud defnydd ymarferol o’r gallu i ddeall methodolegau gwyddor gymdeithasol fel a ddysgir yn y modiwl Sgiliau Ymchwil Troseddeg. Mae gwaith ymchwil llwyddiannus yn rhagdybio’r gallu i ddefnyddio ystod o ddeunyddiau llyfrgell ac i olrhain ffynonellau trwy gronfeydd data a chymorthyddion llyfryddiaethol. Bydd y goruchwyliwr a bennir yn darparu cyfarwyddyd trwy gyfres o gyfarfodydd lle bydd y myfyriwr yn adrodd ar ei gynnydd ac yn cyflwyno drafft neu ddrafftiau ysgrifenedig i gael sylwadau arno/arnynt. Rôl y goruchwyliwr yw cynghori ynghylch methodoleg ymchwil a chyflwyno’r ymchwil yn y traethawd ei hun.

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number Bydd rhai o’r testunau yn cynnwys dadansoddi ystadegol cymhleth i’w ddeall a’i gloriannu.
Communication Anogir cyfathrebu llafar trwy drafod syniadau a mynegi problemau sy’n gysylltiedig â’r ymchwil mewn cyfarfodydd gyda’r goruchwyliwr, yn ogystal â chyflwyno poster sy’n ofynnol yn y gweithdy yn ystod semester 2. Datblygir cyfathrebu ysgrifenedig trwy’r angen i fynegi adroddiad darllenadwy o’r pwnc dan sylw ar ffurf ysgrifenedig sylweddol.
Improving own Learning and Performance Trwy ddatblygu corff sylweddol o wybodaeth a’r angen i leoli a threfnu deunydd perthnasol, bydd y myfyriwr yn dysgu sut i ddatblygu technegau academaidd mwy effeithiol.
Information Technology Dod o hyd i ddeunydd perthnasol, yn arbennig trwy ddefnyddio canllawiau llyfryddiaethol a chronfeydd data pwnc; Paratoi’r aseiniad yn electronig
Personal Development and Career planning Gwell gallu ar gyfer meddwl annibynnol a beirniadol. Sgiliau rheoli amser da wrth baratoi ar gyfer cyfarfodydd goruchwylio dros ddau semester, a chyflwyno.
Problem solving Mae gosod pwnc hyfyw i ymchwilio iddo, gosod cwestiwn ymchwil a gweithio tuag at ei ateb yn defnyddio sgiliau datrys problemau a fydd yn gwella ac yn defnyddio sgiliau a ddefnyddiwyd eisoes.
Research skills (a) datblygu gwerthfawrogiad o botensial ymchwil pynciau trwy ddewis pwnc hyfyw i ymchwilio iddo; (b) datblygu sgiliau ymchwil o ran lleoli’r deunydd perthnasol, yn arbennig trwy ddefnyddio canllawiau llyfryddiaethol a chronfeydd data pwnc; (c) datblygu’r sgiliau sy’n gysylltiedig â chynllunio, trefnu ac amserlennu darn o waith ymchwil parhaus dros gyfnod o rai misoedd; (d) datblygu’r sgiliau sy’n gysylltiedig â chynllunio, trefnu ac amserlennu darn o waith ymchwil parhaus dros gyfnod o ddau semester; (e) datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd ar gyfer cyflwyno adroddiad eglur, rhugl a darllenadwy o’r pwnc dan sylw ar ffurf ysgrifenedig sylweddol o 8000 – 10000 o eiriau.
Subject Specific Skills
Team work Cynhelir nifer o gyfarfodydydd lle gall myfyrwyr, dan gyfarwyddyd, drafod a chymharu problemau a wynebwyd a’r atebion posibl iddynt.

Notes

This module is at CQFW Level 6