Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
TC10720
Teitl y Modiwl
Prosiect Cynhyrchu Cyfryngau
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Gweithdy 10 x Gweithdai 3 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Prosiect Ymarferol  50%
Asesiad Semester Portffolio  50%
Asesiad Ailsefyll Prosiect Ymarferol Unigol  50%
Asesiad Ailsefyll Ffolio  50%

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl hwn yn galluogi'r myfyrwyr i gydweithio'n greadigol wrth ddatblygu a chyflwyno naill ai un prosiect ymarferol aml-gyfryngol ochr yn ochr gyda'r myfyrwyr theatr, neu prosiectau ffilm unigol.

Disgwylir i'r myfyrwyr weithio mewn grŵp, ac i ystyried y math o gyfleon, manteision a chyfrifoldebau sy'n codi o ganlyniad i gydweithio fel tîm. Amcangyfrifir y bydd y cynhyrchiad terfynol a gyflwynir ganddynt yn arddangos eu gallu i asio gwahanol agweddau ar y cyfryngau.
Asesir y prosiect yn uniongyrchol trwy farcio (i) cyrhaeddiad y grŵp yn y prosiect terfynol, a (ii) thrwy gyflwyniad o bortffolio unigol o ddeunyddiau a syniadau paratoadol, gwaith ymchwil a archwiliad o ddeunydd cyd-destunol priodol.

Nod

Bwriad y modiwl hwn fydd rhoi cyfle i'r myfyrwyr arddel a chymhwyso'r sgiliau a'r profiadau ymarferol a theoretig a gyflwynwyd iddynt ac a ddatblygwyd ganddynt yn ystod y modiwlau Semester 1. Fe fydd yn gofyn i'r myfyrwyr ddysgu cydweithio'n greadigol ar brosiect aml-gyfryngol a fydd yn dyst i'w gallu i symbylu, strwythuro a saernïo gweledigaeth gelfyddydol dan gyfarwyddyd aelod o staff.

Fe fydd y modiwl hwn hefyd yn gyfle i'r myfyrwyr i geisio dygymod â'r math o waith cynhyrchu a fedrir ei greu trwy gyfuniad o gyfryngau gan gynnwys gwaith cyfryngol yn ymwneud â pherfformio byw e.e. Fe fydd yn baratoad pwysig ar gyfer gwaith creadigol pellach yn ystod Rhan 2 o'u cwrs gradd.

Cynnwys

Sesiynau dysgu:
10 x 3 awr Dosbarth Ymarferol


Seilir cynnwys y modiwl ar gyfle neilltuol i weithio fel grwp tuag at gynyrch terfynol a fydd yn waith cyfryngol sydd o bosib wedi ei gyd-ddyfeisio gyda'r grwp prosiect cynyrchu theatr ond nid o reidrwydd. Gan bod y modiwl yn cynnig cyfle posib i gyd-weithio ar brosiect aml-gyfrwng fe fydd y deunydd yn cael ei gyflwyno yn y modd mwyaf priodol (perfformiad byw cyhoeddus, dangosiad fideo cyhoeddus, ei bostio ar youtube.com, sesh.tv a.y.b.). At hynny fydd y sesiynnau ymarferol a'r gwaith tuag at yr adfyfyriad ysgrifenedig yn cynnwys cyfeiriadau a thrafodaethau ar waith ymarferwyr allweddol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4