Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd 1 - 1 x traethawd 2,500 o eiriau | 50% |
Asesiad Semester | Traethawd 2 - 1 x traethawd 2,500 o eiriau | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 1-1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 2,500 o eiriau | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 2-1 x traethawd atodol (ail-sefyll) 2,500 o eiriau | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Dangos cynefindra trylwyr â chorff sylweddol o wybodaeth hanesyddol mewn perthynas â’r datblygiad o’r gymdeithas Gymreig yn y cyfnod 1868-1950.
2. Meddwl yn feirniadol am y berthynas rhwng newid cymdeithasol ac economaidd sylfaenol ac arferion cymdeithasol ehangach, a ffurfio hunaniaethau cymdeithasol a gwleidyddol newydd.
3. Dangos cynefindra ag ystod eang o dechnegau hanesyddol sy’n berthnasol i hanes cymdeithasol Cymru fodern.
4. Datblygu’r gallu i werthuso cryfderau a gwendidau dadleuon hanesyddol penodol, a lle bo’n briodol eu herio.
Nod
Mae’r modiwl yn rhan pwysig o ddarpariaeth hanes Cymru yn yr Adran ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr datblygu dealltwriaeth o gyfnod pwysig yn hanes Cymru. Bydd o ddiddordeb i’r rheiny sy’n awyddus i astudio hanes Cymru ond, yn ogystal, i’r myfyrwyr sydd â diddordeb yn y cyfnod modern
Disgrifiad cryno
Amcan y modiwl hwn yw bwrw golwg dros brif newidiadau cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol yng Nghymru o’r 1860au ymlaen. Ymhlith y themâu a ystyrir fydd twf a chwymp Cymru Anghydffurfiol Rhyddfrydol; effaith y ddau rhyfel byd ar gymdeithas Cymru; y newidiadau a ddaeth oherwydd y dirwasgiad economaidd rhwng y rhyfeloedd; a thwf y mudiad llafur.
Cynnwys
1. Rhagarweiniad
2. Pobl a'u Cynefin
3. Tensiynau'r Gymdeithas Wledig
4. Cymru ac Economi yr Iwerydd
5. Merched a'r Gymdeithas
6. Crefydd a Chymdeithas
7. Addysg, Iaith a Diwylliant
8. Yr Oruchafiaeth Ryddfrydol
9. Twf Gwleidyddiaeth Llafur, 1900-1914
10. Yr Aflonyddwch Mawr
11. Cymru a’r Rhyfel Byd Cyntaf
12. Y Byd ar ôl y Rhyfel
13. Aflonyddwch Diwydiannol
14. Y Dirwasgiad
15. Y Gymdeithas Wledig rhwng y Rhyfeloedd
16. Cenedlaetholdeb a’r Gymdeithas, 1925-1939
17. Llafur a Chomiwnyddiaeth yn y 1930au
18. Yr Ail Ryfel Byd a Chymru
Seminarau
1. Cyflwyniad
2. Y Gymdeithas Wledig, 1868-1914
3. Merched a Dynion yng Nghymru
4. Chwaraeon a Chymdeithas
5. Cymru a Rhyfel Byd
6. Casgliadau
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Trwy drafodaeth mewn seminar a throsglwyddo gwybodaeth mewn traethawd. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a sgiliau dadansoddi |
Datrys Problemau | Disgwylir i fyfyrwyr fedru trin a thrafod problemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol wrth baratoi ar gyfer seminarau a gwaith ysgrifenedig |
Gwaith Tim | Cymryd rhan mewn gweithgareddau seminar a deall sut i weithredu ar y cyd gydag aelodau eraill o’r grŵp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Datblygu sgiliau trefnu drwy reoli amser a chyflwyno gwaith yn brydlon. Gwneud defnydd o adborth ar waith a gyflwynir er mwyn gwella’r perfformiad. |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygu’r gallu i werthuso ffynonellau perthnasol i’r cyfnod a’r maes ynghyd â’r gallu i ymdrin yn feirniadaol â’r llenyddiaeth eilaidd. |
Sgiliau ymchwil | Defnyddio amryw o gyfryngau gwahanol er mwyn ffurfio barn feirniadol. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd defnydd o adnoddau arlein yn rhan hanfodol o ddulliau dysgu’r modiwl hwn a bydd felly’n rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau wrth, er enghraifft, gwneud defnydd o fyrddau trafod ar Blackboard. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6