Ymarfer Proffesiynol
- Cod y Modiwl
- AD10020
- Teitl y Modiwl
- Ymarfer Proffesiynol
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Mr Berian Lewis
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Mrs Annabel Latham
- Mr Berian Lewis
- Mr Prysor Davies
- Dr Rosemary Cann
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Aseiniad Myfyriol: Aseiniad myfyriol yn canolbwyntio ar ymddygiad proffesiynol 900 o eiriau | 30% |
| Asesiad Semester | Portffolio: 2100 o eiriau | 70% |
| Asesiad Ailsefyll | Aseiniad Myfyriol: Aseiniad myfyriol yn canolbwyntio ar ymddygiad proffesiynol 900 o eiriau | 30% |
| Asesiad Ailsefyll | Portffolio: 2100 o eiriau | 70% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth i weithio'n effeithiol fel ymarferydd blynyddoedd cynnar.
- Trafod yn feirniadol ddulliau addysgeg a ffyrdd o weithio gyda phlant ifanc .
- Deall a gwerthuso'r prif egwyddorion sy'n sail i arweinyddiaeth blynyddoedd cynnar a gweithio mewn partneriaeth.
- Egluro rôl ymarfer myfyriol mewn cyd-destunau Blynyddoedd cynnar a gwerthuso modelau ymchwil priodol o ymarfer myfyriol.
- Datblygu dealltwriaeth o effaith yr iaith a'r diwylliant Cymraeg ar leoliadau'r blynyddoedd cynnar a'r gweithlu.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn dechrau datblygu sgiliau proffesiynol ac ymarferol myfyrwyr i weithio fel ymarferwyr effeithiol o fewn y blynyddoedd cynnar. Bydd myfyrwyr yn caffael gwybodaeth am y cysyniadau allweddol sy'n ganolog i weithio gyda phlant ifanc, gan gynnwys archwilio egwyddorion gweithio mewn partneriaeth, cyflwyniad i'r dulliau damcaniaethol o arwain ac ystyried gwahanol ddulliau addysgeg o weithio gyda phlant ifanc.
Elfen graidd o'r modiwl fydd datblygu ymarfer myfyriol a bydd myfyrwyr yn dechrau datblygu eu sgiliau myfyrio beirniadol. Bydd myfyrwyr yn archwilio'n feirniadol ddulliau ymchwil a swyddi moesegol sy'n ymwneud â gweithio gyda phlant. Mae'r modiwl yn pwysleisio pwysigrwydd effaith yr iaith a'r diwylliant Cymraeg ar weithle'r blynyddoedd cynnar. I gynorthwyo ymarfer myfyriol, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â lleoliad 50 awr mewn lleoliad blynyddoedd cynnar fel rhan o'r modiwl hwn.
Cynnwys
Bydd cynnwys gweithdai a seminarau yn canolbwyntio ar y themâu canlynol:
Swyddi, cyfrifoldebau ac atebolrwydd yn y gweithle blynyddoedd cynnar
Ymarfer myfyriol
Dulliau ymchwil a moeseg
Dulliau a moddau o weithio gyda phlant ifanc
Creu amgylchedd dysgu
Gweithio mewn partneriaeth
Iaith a diwylliant Cymraeg yn y gweithle
Dulliau damcaniaethol o arwain a rheoli
Bydd y pythefnos diwethaf yn lleoliad mewn lleoliad blynyddoedd cynnar.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Addasrwydd a gwydnwch | Datblygiad Personol a Chynllunio Gyrfa - Bydd myfyrwyr yn dechrau datblygu'r sgiliau i weithio fel gweithiwr proffesiynol. |
| Cydlynu ag erail | Drwy gydol y modiwl, bydd myfyrwyr yn archwilio pwysigrwydd gweithio gydag eraill. |
| Cyfathrebu proffesiynol | Drwy gydol y modiwl, bydd myfyrwyr yn archwilio pwysigrwydd cyfathrebu'n broffesiynol. |
| Datrys Problemau Creadigol | Bydd angen i fyfyrwyr edrych ar ffyrdd creadigol o ddelio â phroblemau neu sefyllfaoedd anodd. Bydd y cynllun ymchwil yn caniatáu i fyfyrwyr feddwl am sut y gall ymchwil helpu i ddatrys cwestiynau penodol. |
| Gallu digidol | Bydd myfyrwyr yn edrych ar y rhan y gall technoleg ei chwarae wrth gefnogi ymarfer proffesiynol. |
| Meddwl beirniadol a dadansoddol | Bydd myfyrwyr yn dechrau archwilio pwysigrwydd ymchwil gweithredol mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar. |
| Myfyrdod | Gwella Dysgu a Pherfformiad: Bydd myfyrwyr yn archwilio pwysigrwydd myfyrio ar eu sgiliau a defnyddio adborth i wella. |
| Sgiliau Pwnc-benodol | Bydd ymarfer myfyriol yn agwedd allweddol ar y modiwl, o ystyried pwysigrwydd hyn yn ymarferol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
Education,Aberystwyth University, Penbryn 5, Penglais Campus, Aberystwyth, Ceredigion,
01970 622103 : +44 : +44 (0)1970 622021
add-ed@aber.ac.uk: add-ed@aber.ac.uk
