Gweithio Gyda Phlant
- Cod y Modiwl
- AD20600
- Teitl y Modiwl
- Gweithio Gyda Phlant
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 1 Dysgwyd dros 2 semester
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Mr Gwilym Ap Gruffudd
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
ED20620 neu ED20620
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Lucy Trotter
- Mrs Annabel Latham
- Mr Prysor Davies
- Dr Rosemary Cann
- Dr Susan Chapman
Dulliau Asesu
|
Math o Assesiad |
Manylion Assesiad |
Hyd Assesiad |
Cyfran |
|---|---|---|---|
| Asesiad Ailsefyll | Portffolio wedi'u seilio ar leoliad (au) 2400 o eiriau | 60% | |
| Asesiad Ailsefyll | Llyfryddiaeth wedi'i anodi sydd yn defnyddio o leiaf 10 eitem ar bwnc penodol 1600 o eiriau | 40% | |
| Asesiad Semester | Portffolio wedi'u seilio ar leoliad (au) 2400 o eiriau | 60% | |
| Asesiad Semester | Llyfryddiaeth wedi'i anodi sydd yn defnyddio o leiaf 10 eitem ar bwnc penodol 1600 o eiriau | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- 1. Gwerthuso'n feirniadol y dulliau o weithio gyda phlant ac ymarferwyr.
- 2. Trafod yn feirniadol ddulliau o weithio gyda phlant.
- 3. Archwilio'n feirniadol safbwyntiau moesegol ynghylch gweithio gyda phlant.
- 4. Gwerthuso adnoddau sydd ar gael i ymarferwyr er mwyn cefnogi dysgu proffesiynol.
Disgrifiad cryno
Nod y modiwl hwn yw rhoi i fyfyrwyr amrywiaeth o fewnwelediadau i agweddau perthnasol ac angenrheidiol ar weithio gyda phlant. Bydd disgwyl i fyfyrwyr feithrin gwybodaeth am y cysyniadau allweddol sy'n ganolog i weithio gyda phlant a bydd disgwyl iddynt archwilio ystod o ddulliau o astudio arferion mewn gwahanol leoliadau addysgol. Bydd yn ofynnol i bob myfyriwr sy'n dewis cymryd y modiwl hwn dalu am wiriad DBS.
Cynnwys
Darlith a seminar 1: Cyfathrebu effeithiol
Darlith a seminar 2: Ymgysylltu a phlant
Darlith a seminar 3: Gweithio gyda theuluoedd
Darlith a seminar 4: Arweinyddiaeth a gwaith tim
Darlith a seminar 5: Creu amgylchedd dysgu
Darlith a seminar 6: Dulliau ymchwil a moeseg ymchwil
Darlith a seminar 7: Amrywiaeth ddiwylliannol
Darlith a seminar 8: Dulliau'r cwricwlwm
Darlith a seminar 9: Adnabod a defnyddio strwythurau cymorth cymunedol
Darlith a seminar 10: TGCh: offer ar gyfer dysgu effeithiol mewn lleoliadau plentyndod
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Mae technegau cyfathrebu yn elfen hanfodol yn y darlithoedd a’r seminarau. Cyfathrebu llafar drwy gydol gweithgareddau seminar. Cyfathrebu ysgrifenedig drwy gydol asesiadau ysgrifenedig. Mae angen cymhwyso safonau uchel o lythrennedd ar leoliadau. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Cyfleoedd i weithio mewn lleoliad addysgol. |
| Datrys Problemau | Elfen hanfodol yn y broses o asesu beirniadol. |
| Gwaith Tim | Mae gweithgareddau'r seminar yn rhoi llawer o gyfleoedd i weithio fel tîm, gan gynnwys cyflwyniadau a thrafodaethau grŵp. Mae angen gwaith tîm hefyd ar leoliad. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae adborth o aseiniad ysgrifenedig a myfyrdod personol yn ystod tasgau seminar yn annog perfformiad gwell. Mae angen myfyrio ar brofiad lleoliad ar gyfer asesiad. |
| Rhifedd | Ystadegau disgrifiadol achlysurol mewn darlithoedd a ffynonellau. Cymhwyso rhif yn ofynnol ar leoliad. |
| Sgiliau pwnc penodol | 1. Cynllunio gweithgareddau dysgu a gofal. 2. Myfyrio ar ymarfer. |
| Sgiliau ymchwil | Mae angen ymchwil ar gyfer y prif asesiadau a rhai o dasgau'r seminar. |
| Technoleg Gwybodaeth | Dylai aseiniadau ysgrifenedig gael eu cyflwyno’n electronig ac mae un o dasgau'r seminar yn gofyn am ddatblygu cyflwyniad PowerPoint. Mae angen cymhwyso technoleg ar leoliad. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
Education,Aberystwyth University, Penbryn 5, Penglais Campus, Aberystwyth, Ceredigion,
01970 622103 : +44 : +44 (0)1970 622021
add-ed@aber.ac.uk: add-ed@aber.ac.uk
