Rheoli Deunydd Gwastraff
- Cod y Modiwl
- BBM1220
- Teitl y Modiwl
- Rheoli Deunydd Gwastraff
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Dysgu o Bell
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Sarah Watson-Jones
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Ifat Shah
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Profion byr: (tua 3 awr - drwy gydol y modiwl) | 0% |
| Asesiad Semester | Fforymau ar-lein: Isafswm 1,200 o eiriau | 25% |
| Asesiad Semester | Cyflwyniad: (20 munud) | 35% |
| Asesiad Semester | Astudiaeth Achos: (2,500 o eiriau) | 40% |
| Asesiad Ailsefyll | Aseiniad 1: Gall myfyrwyrail-eistedd elfennau asesu sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethu'r modiwl | 25% |
| Asesiad Ailsefyll | Aseiniad 2: | 35% |
| Asesiad Ailsefyll | Aseiniad 3: | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- 1. Esbonio'r heriau cyfredol ac y dyfodol sy'n gysylltiedig â rheoli gwastraff yn y gadwyn cyflenwi bwyd
- 2. Gwerthuso cyfleoedd ar gyfer gweithredu systemau rheoli gwastraff gwell ar draws cadwyni cyflenwi bwyd
- 3. Gwerthuso dulliau newydd ar gyfer datrysiadau rheoli gwastraff bwyd cynaliadwy
- 4. Dadansoddi effeithiolrwydd gwahanol systemau rheoli gwastraff bwyd yn feirniadol
- 5. Cymharu a chyferbynnu fframweithiau gwneud penderfyniadau ar gyfer gwneud y gorau o reoli gwastraff
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn rhan o gyrsiau BioArloesedd Cymru. Bydd myfyrwyr yn dysgu am y datblygiadau diweddaraf mewn technoleg rheoli gwastraff, gan ystyried strategaethau rheoli gwastraff o bob rhan o'r sbectrwm o fathau o fusnesau o fewn cadwyni cyflenwi bwyd.
Bydd yn ymdrin â buddion rheoli gwastraff yn effeithiol, yn tynnu sylw at ymchwil berthnasol ac yn cynnwys astudiaethau achos sy'n berthnasol i'r sectorau cynhyrchu, prosesu a manwerthu bwyd
Cynnwys
Bydd y pynciau a drafodir yn y modiwl hwn yn benodol i reoli adnoddau yn y sector bwyd gan dynnu sylw at yr ymchwil berthnasol ddiweddaraf ym maes cynhyrchu, prosesu a manwerthu bwyd. Bydd yn cwmpasu'r canlynol:
1. Pwysigrwydd rheoli gwastraff yn effeithiol (effeithlonrwydd adnoddau, deddfwriaeth, effeithiau amgylcheddol)
2. Trosolwg o'r economi gylchol; ACB; ac atal/lleihau, ailddefnyddio, ailgylchu, prisio
3. Fframweithiau gwneud penderfyniadau ar gyfer rheoli adnoddau
4. Atal/lleihau gwastraff (rheoli adnoddau dros ben, mapio'r cyflenwad i'r galw)
• Astudiaethau achos o gynhyrchu, prosesu a manwerthu e.e. datrysiadau amaeth-dechnoleg - 3G yn mapio cynnyrch yn ôl y galw, Llofiad rhwydwaith/ailddosbarthu,
5. Ailddefnyddio adnoddau dros ben -
• Astudiaethau achos, e.e. cynlluniau adneuo, ailgyflenwi
6. Ailgylchu - Astudiaethau achos, e.e. deunydd lapio silwair
7. Prisio llif gwastraff -
• Astudiaethau achos o gynhyrchu, prosesu a manwerthu, e.e. caroten, gwrthocsidyddion, porthiant anifeiliaid
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Disgwylir i fyfyrwyr allu mynegi eu hunain yn briodol yn eu haseiniadau a thrafod pynciau perthnasol â'i gilydd yn y fforymau. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y modiwl hwn yn darparu'r ymchwil ddiweddaraf i'r myfyrwyr o anghenion a thechnolegau rheoli gwastraff i'w helpu i ddarparu'r wybodaeth / cyngor diweddaraf i'w cydweithwyr / cleientiaid yn y diwydiannau bio-seiliedig; cânt eu hasesu ar sail eu dealltwriaeth o'r wybodaeth hon ond ni fyddant yn cael eu hasesu'n benodol ar ddatblygiad personol a chynllunio gyrfa |
| Datrys Problemau | Defnyddir postiadau fforwm ar-lein i helpu i ddatblygu a gwella sgiliau datrys problemau myfyrwyr, trwy ddefnyddio cwestiynau sy’n cyflwyno problemau damcaniaethol i’r myfyrwyr eu datrys. Bydd yr astudiaeth achos hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr gynnig ffyrdd i newid a gwella ffrydiau gwastraff presennol. |
| Gwaith Tim | Bydd fforymau ar-lein yn ei wneud yn ofynnol i fyfyrwyr drafod ymysg ei gilydd i ddatblygu consensws barn. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Rhoddir adborth manwl o waith aseiniad i fyfyrwyr weld lle y gellid gwneud gwelliannau cyn aseiniadau dilynol. Bydd asesiad ffurfiannol ysgrifenedig yn rhoi cyfle di-risg cynnar i gael adborth a bydd 3 fforwm wedi'u hasesu yn olynol a fydd yn cael eu marcio a bydd adborth yn cael ei ddarparu mewn pryd i gynorthwyo perfformiad yn y fforwm nesaf. Bydd CADd ffurfiannol yn galluogi myfyrwyr i weld lle mae angen iddynt ganolbwyntio eu hastudiaeth hunangyfeiriedig |
| Rhifedd | Bydd gofyn i fyfyrwyr archwilio a syntheseiddio data meintiol o ystod o gyhoeddiadau a chronfeydd data yn eu haseiniadau a bydd disgwyl iddynt egluro neu ddangos tystiolaeth i gefnogi honiadau o enillion ariannol, lleihau gwastraff, ac ati yn yr astudiaeth achos. |
| Sgiliau pwnc penodol | Pwysigrwydd a dulliau rheoli gwastraff yn effeithiol. Gwerthuso'r gwahanol ddulliau |
| Sgiliau ymchwil | Bydd gofyn i fyfyrwyr ymgymryd â hunan-astudio dan gyfarwyddyd, felly byddant yn datblygu eu sgiliau ymchwil llenyddiaeth. Bydd adborth o aseiniadau yn cynnig cyngor ar synthesis gwybodaeth |
| Technoleg Gwybodaeth | Bydd gofyn i fyfyrwyr ddod o hyd i wybodaeth o amrywiaeth o gronfeydd data cyhoeddi gwyddonol a defnyddio Blackboard ar gyfer pob agwedd ar y modiwl |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7
Life Sciences,Aberystwyth University, Edward Llwyd Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622315 : +44 : +44 (0)1970 622021
ibtstaff@aber.ac.uk: ibtstaff@aber.ac.uk
