Prosesu Cig
- Cod y Modiwl
- BBM8720
- Teitl y Modiwl
- Prosesu Cig
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester DL
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Micael De Andrade-Lima
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Ifat Shah
Dulliau Asesu
|
Math o Assesiad |
Manylion Assesiad |
Hyd Assesiad |
Cyfran |
|---|---|---|---|
| Asesiad Ailsefyll | Gall myfyriwr ail-sefyll elfennau asesiad sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethiant y modiwl. | 100% | |
| Asesiad Semester | Astudiaeth Achos (2000 o eiriau) | 40% | |
| Asesiad Semester | Adolygiad Llenyddol (2500 o eiriau) | 35% | |
| Asesiad Semester | Fforwm Ar-lein (1200 o eiriau) | 25% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- 1. Esbonio'r heriau cyfredol a rhai'r dyfodol sy'n gysylltiedig â phrosesu cig yn y cadwyni cyflenwi bwyd a bioseiliedig.
- 2. Esbonio'r newidiadau biocemegol post-mortem mewn cyhyrau a'u harwyddocâd ar ansawdd cig.
- 3. Gwerthuso'r ystod o fethodolegau a thechnolegau a ddefnyddir i fesur carcas ac ansawdd cig.
- 4. Archwilio rol cynhwysion wrth ddatblygu cynnyrch cig.
- 5. Cynnig dulliau posibl ar gyfer datblygu cynhyrchion cig diogel, iach a maethlon.
- 6. Gwerthuso rol technolegau newydd ar gyfer prosesu a chynhyrchu cig cynaliadwy.
Disgrifiad cryno
Gyda thueddiadau'r farchnad gystadleuol yn y sector cig a'r galw cynyddol am gig oen a chig eidion o Gymru y tu allan i'r DU, yn ogystal a sector cig gwyn sy'n tyfu; mae diwydiant cig Cymru yn edrych yn gyson am ddulliau arloesol ac effeithlon i sicrhau twf cynaliadwy. Bydd y modiwl hwn yn cael ei gyflwyno trwy gyfuniad o ddysgu ar-lein a gweithdai, gan ganolbwyntio ar wahanol agweddau o brosesu cig ar gyfer cynnyrch diogel, iach a maethlon. Mae'r modiwl yn gwneud cydbwysedd perffaith rhwng gwyddoniaeth prosesu cig a datblygu cynnyrch cig. Bydd o werth i broseswyr cig, manwerthwyr neu unrhyw un sy'n dechrau busnes newydd yn y sector cig.
Cynnwys
Bydd y cwrs yn gyfres o ddarlithoedd a dysgu dan arweiniad gyda phwyslais ar:
Cyflwyniad i brosesu cig: mathau o gig a chategorïau, cyfansoddiad carcas, bileg cynhyrau, strwythur a nodweddion cyhyrau, prosesu cig diwydiannol
Prosesu sylfaenol ar gyfer cig coch: gweithredau ladd, newidiadau biocemegol ol-mortem a'u harwyddocâd ar ansawdd cig coch, graddio carcasau a mesur ansawdd cig
Prosesu sylfaenol ar gyfer dofednod: prosesu sylfaenol dofednod, newidiadau biocemegol ol-mortem a'u harwyddocâd ar ansawdd cig gwyn, graddio carcasau a mesur ansawdd cig
Diogelwch microbiolegol, ansawdd ac ymestyn bywyd silff cig ffres: microbioleg cig a difetha, egwyddorion cadw cig
Technoleg arloesol mewn prosesu cig: dulliau breuo newydd, awtomeiddio a roboteg
Cig iach: cig fel bwyd swyddogaethol posibl, cynhyrchion probiotig, technegau ail-lunio
Datblygu cynnyrch cig: Cynhwysion a ddefnyddir, mathau o gynnyrch cig
Defnydd sgil-gynhyrchion a deunyddiau gwastraff gan y diwydiant cig
Cynaliadwyedd cig: rol gwyddoniaeth mewn amgylchedd byd-eang heriol
Bydd y modiwl hwn yn cynnwys ymweliad a Chanolfan Bwyd Cymru yn Horeb, (neu debyg) i gael profiad mewn cigyddiaeth a datblygu cynnyrch cig
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Disgwylir i fyfyrwyr gyfathrebu allbwn ymchwil cymhleth i'w cyfoedion yn y fforymau ar-lein a hefyd trwy aseiniadau eraill. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y modiwl hwn rhannu'r technoleg bresennol ac y dyfodol mewn prosesu cig gyda'r myfyrwyr i'w helpu i ddatblygu eu busnes neu ddarparu'r wybodaeth/cyngor mwyaf diweddar i'w cydweithwyr/cleientiaid yn y diwydiant cig. |
| Datrys Problemau | Bydd heriau dysgu yn seiliedig ar broblemau trwy astudiaeth achos ochr yn ochr a fforwm ar-lein yn cael eu defnyddio trwy gydol y modiwl i helpu i ddatblygu a gwella sgiliau datrys problemau myfyrwyr. |
| Gwaith Tim | Bydd fforymau ar-lein yn mynnu bod myfyrwyr yn dadlau ymhlith ei gilydd i ddatblygu consensws barn. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Rhoddir adborth manwl ar gyfer gwaith aseiniad. Bydd hwn yn cael ei fesur drwy’r adborth, sy'n darparu arweiniad cyffredinol tuag at aseiniad nesaf y myfyriwr. |
| Rhifedd | Defnyddir rhifedd wrth gyfrifo'r swm cywir o gynhwysion a ddefnyddir wrth ddatblygu cynnyrch. |
| Sgiliau pwnc penodol | Bydd cysyniadau pwnc penodol sy'n ymwneud â phrosesu cig yn cael eu datblygu a'u hasesu drwy gydol y modiwl. |
| Sgiliau ymchwil | Trwy'r modiwl, bydd gofyn i fyfyrwyr ymgymryd a hunanastudiaeth gyfeiriedig, gan wella eu medrau ymchwil llenyddiaeth. |
| Technoleg Gwybodaeth | Bydd gofyn i fyfyrwyr gyrchu gwybodaeth o amryw o ffynonellau gwyddonol ac i ddefnyddio Blackboard ar gyfer holl agweddau’r modiwl. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7
Life Sciences,Aberystwyth University, Edward Llwyd Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622315 : +44 : +44 (0)1970 622021
ibtstaff@aber.ac.uk: ibtstaff@aber.ac.uk
