Gwyddor Cynhyrchu Da Byw

Cod y Modiwl
BG30820
Teitl y Modiwl
Gwyddor Cynhyrchu Da Byw
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 2 Dysgwyd dros 2 semester
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Manod Williams
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion
BG28020 neu BR28020
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
BR30820
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Manod Williams
Dr Ruth Wonfor
Dr Rhys Jones
Dr Ifat Shah

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Asesiad llafar semester: 10 Munud 40%
Arholiad Semester Arholiad ysgrifenedig: 2 Awr 2 Awr 60%
Asesiad Ailsefyll Asesiad llafar semester: 10 Munud 40%
Arholiad Ailsefyll Arholiad ysgrifenedig: 2 Awr 2 Awr 60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Arddangos gwybodaeth mewn cof o gydrannau systemau cynhyrchu da byw.
  2. Adolygu a gwerthuso llenyddiaeth wyddonol a gweithredu'r canlyniadau er mwyn datblygu systemau cynhyrchu da byw.
  3. Arddangos gwybodaeth mewn cof o sut mae gwyddoniaeth yn medru cael ei ddefnyddio i wella systemau atgenhedlu, llaetha, iechyd, tyfiant a datblygiad da byw.
  4. Trafod y materion moesegol a chymdeithasol sydd yn gysylltiedig gyda'r defnydd o wyddor anifeiliaid.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yma'n archwilio'r ffyrdd y mae ymchwil yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu systemau cynhyrchu da byw mwy effeithlon.

Cynnwys

Bydd themâu ar gyfer y modiwl hwn yn cynnwys:
- Cynhyrchu da byw yn gynaliadwy
- Gwyddor cynhyrchu cig
- Gwyddor cynhyrchu llaeth
- Rheoli ffrwythlondeb da byw
- Rheoli parasitiaid
- Ffermio da byw manwl gywir

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Yn cael ei ddatblygu mewn seminarau a gwaith ysgrifenedig.
Datrys Problemau Bydd darlithoedd a seminarau yn datblygu ymwybyddiaeth o'r cydberthnasau cymhleth rhwng cydrannau systemau cynhyrchu anifeiliaid. Bydd hyn yn galluogi myfyrwyr i adnabod a dadansoddi problemau, a bydd gwerthusiad o'r llenyddiaeth gwyddonol a'i defnydd yn darparu astudiaethau achos i arddangos sut mae gwyddoniaeth gymhwysol yn medru cael ei ddefnyddio i ddatrys problemau. Asesir mewn seminarau ag arholiad.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Yn datblygu sgiliau darllen a dehongli cyhoeddiadau gwyddonol, paratoi gwaith ysgrifenedig a chyflwyniadau seminar a gweithio i derfyn amser.
Rhifedd Dehongli cyhoeddiadau gwyddonol. Yn cael ei asesu mewn seminarau ac mewn arholiad.
Sgiliau ymchwil Datblygir drwy astudio llenyddiaeth gwyddonol ag asesir trwy'r aseiniad a'r arholiad.
Technoleg Gwybodaeth Asesir y defnydd o PowerPoint yn y cyflwyniad seminar.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6