Cwrs Maes Ecoleg Ddaearol

Cod y Modiwl
BG36620
Teitl y Modiwl
Cwrs Maes Ecoleg Ddaearol
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 1
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Professor Gareth Griffith
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
BR36620
BR36620 is the English medium version of this module.
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Ruth Wonfor
Dr Ifat Shah
Professor Gareth Griffith

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Traethawd ysgrifenedig - Adroddiad unigol wedi’i seilio: 2500 o eiriau 50%
Asesiad Semester Traethawd ysgrifenedig -: Asesiadau mewn-gwrs 1500 o eiriau 50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd ysgrifenedig -: Asesiadau mewn-gwrs 1500 o eiriau 50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd ysgrifenedig - Adroddiad unigol wedi’i seilio: 2500 o eiriau 50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. 1. Trafod problemau amserol a pherthnasol ym meysydd ecoleg, cadwraeth a gwyddor amgylcheddol.
  2. 2. Dangos medrusrwydd wrth adnabod y prif rywogaethau a’r elfennau biotig yn y cynefinoedd lle y caiff y cwrs maes ei ddysgu.
  3. 3. Dangos medrusrwydd mewn amrywiaeth o dechnegau casglu/ dadansoddi data yn y maes.
  4. 4. Cynllunio strategaethau ymchwil i gasglu a dadansoddi data sy’n berthnasol i’r cwestiynau ymchwil penodedig.
  5. 5. Cyfathrebu casgliadau’r ymchwil trwy lunio adroddiadau ysgrifenedig.

Disgrifiad cryno

Trwy ddadansoddi themâu perthnasol ac amserol ym meysydd ecoleg, cadwraeth a gwyddor amgylcheddol, bydd y modiwl yn rhoi sylw i’r materion canlynol:
*Cymhwyso dulliau labordy damcaniaethol, technegol a/neu wyddonol i’r amgylchedd maes mwy cymhleth ac afreoledig er mwyn deall sut y mae hinsawdd a daeareg lleoliad maes penodol yn dylanwadu ar brosesau creiddiol o safbwynt ecoleg a’r defnydd o dir.
*Llunio cwestiynau ymchwil ecolegol, a datblygu’r sgiliau angenrheidiol i’w datrys/ateb trwy brofi rhagdybiaethau, cynllunio arbrofion trylwyr, a chasglu, dadansoddi a dehongli data.
*Ystyried, lle bo’n briodol, agweddau logistaidd (gan gynnwys diogelwch) a moesegol y prosesau ymchwil hyn.
*Datblygu sgiliau trosglwyddadwy sy’n greiddiol i ymchwil maes ym meysydd ecoleg/gwyddor amgylcheddol, gan gynnwys gwaith tîm, arsylwi, cadw cofnodion, adrodd/cyfathrebu data arbrofion a sgiliau adnabod planhigion/ffyngau.

Cynnwys

Bydd amcanion y modiwl yn cael eu cyflawni drwy waith maes, a ategir gan nifer cyfyngedig o ddarlithoedd a seminarau (e.e. dehongli/dadansoddi data) yn ystod cwrs maes preswyl. Gall y pynciau a drafodir mewn unrhyw flwyddyn benodol amrywio gan ddibynnu ar leoliad y cwrs maes, amodau’r tywydd a’r trefniadau staffio, ond byddant yn cynnwys themâu megis:
Technegau ar gyfer dadansoddi planhigion
Effaith bodau dynol ar gymunedau biolegol
Agweddau o newidiadau amgylcheddol/hinsoddol a phrosesau olyniaethol
Cynllunio a chynnal prosiectau ymchwil sy’n seiliedig ar waith maes

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau cyfathrebu, yn ysgrifenedig ac ar lafar, trwy drafod y data sy’n deillio o’u gwaith maes mewn grwpiau, trwy lunio adroddiadau a thrwy wneud cyflwyniadau llafar.
Datrys Problemau Dadansoddi samplau a data a chyfosod gwybodaeth, a asesir drwy’r adroddiadau.
Gwaith Tim Datblygir yr elfen hon trwy osod y myfyrwyr mewn grwpiau bach yn ystod y gwaith maes.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd y myfyrwyr yn gyfrifol am gymryd eu nodiadau maes eu hunain, am ddatblygu strategaethau effeithiol i weithio mewn tim, ac am ddatblygu dulliau realistig ac effeithlon o gasglu data yn y maes o fewn cyfyngiadau ehangach amserlen y cwrs maes.
Rhifedd Lle bo’n briodol, bydd y myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant yn y technegau ystadegol sydd eu hangen i ddadansoddi eu data maes.
Sgiliau pwnc penodol Adnabod planhigion/ffyngau trwy ddefnyddio allweddau.
Sgiliau ymchwil Gofynnir i’r myfyrwyr gwblhau nifer o brosiectau ymchwil a chynllunio/cyflawni o leiaf un a fydd yn cynnwys: canfod problemau, cynllunio ymchwil, a chaffael, dadansoddi, cyflwyno a dehongli data.
Technoleg Gwybodaeth Bydd y myfyrwyr yn llunio adroddiadau ysgrifenedig, dadansoddi data a chwilio am destunau/gwybodaeth yn electronig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6