Arweinyddiaeth Strategol
- Cod y Modiwl
- CB35120
- Teitl y Modiwl
- Arweinyddiaeth Strategol
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 1
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Wyn Morris
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Rhagofynion
-
AB13120 neu AB15120 neu AB27120 neu CB15120 neu CB27120
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Julie Jones
- Dr Wyn Morris
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Adroddiad ysgrifenedig: (2,500 gair) | 40% |
| Arholiad Semester | Arholiad: 2 Awr | 60% |
| Asesiad Ailsefyll | Adroddiad ysgrifenedig: (2,500 gair) | 40% |
| Arholiad Ailsefyll | Arholiad: 2 Awr | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- 1. Esbonio a chymhwyso arfau ar gyfer dadansoddi’r amgylchedd busnes mewnol ac allanol.
- 2. Cloriannu’n feirniadol faterion yn ymwneud â phroses, cynnwys a chyd-destun strategaethau busnes.
- 3. Gwerthuso prif theorïau strategaeth yn feirniadol.
- 4. Cloriannu segmentau cwsmeriaid.
- 5. Ystyried dulliau creadigol o lunio strategaethau busnes.
- 6. Cynnig ac amddiffyn gwelliannau i’r modd y gwneir penderfyniadau strategol mewn sefydliadau.
Disgrifiad cryno
Mae’r modiwl hwn yn meithrin dealltwriaeth o’r broses o ddatblygu strategaeth, ac yn dangos mor bwysig yw strategaeth fusnes i’r cwmni ei hun, i wahanol randdeiliaid ac i’r gymuned fusnes ehangach. Mae’r modiwl yn edrych ar y llu o wahanol ffyrdd (sydd yn aml yn gwrthdaro â’i gilydd) o lunio strategaeth fusnes; yn ystyried sut mae strategaeth yn gweithredu yn yr amgylchedd busnes mewnol ac allanol ehangach; ac yn darparu’r sgiliau a’r
wybodaeth sydd eu hangen i wneud penderfyniadau strategol effeithiol a gwybodus, arwain newid, a chreu a chynnal mantais gystadleuol.
Cynnwys
Beth yw strategaeth?
Mantais gystadleuol
Llunio Strategaeth
Dadansoddi Strategaeth
Strategaeth ar waith
Archwiliad marchnata (Dadansoddi Sefyllfaoedd);
Segmentiad, Targedu a Lleoli;
Partneriaethau Strategol;
Penderfyniadau Marchnata Strategol;
Strategaeth a’r Cymysgedd Marchnata;
Rheoli Brand yn Strategol;
Cloriannu a Rheoli
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Datblygu sgiliau cyfathrebu gan gynnwys sgiliau cyflwyno a gwrando. Gwella sgiliau llythrennedd trwy ddarllen ac ysgrifennu am reolaeth strategol |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd myfyrwyr yn gallu defnyddio’r sgiliau a ddysgwyd yn y modiwl hwn i wella’u cyfleoedd gyrfaol. Byddant hefyd yn gallu cynllunio’n strategol ar gyfer yr hirdymor yn eu dewis yrfa. |
| Datrys Problemau | Nodi problemau. Datblygu ffyrdd o ddatrys problemau trwy feddwl yn greadigol. Cloriannu manteision ac anfanteision. Llunio cynnig rhesymegol mewn ymateb i broblem |
| Gwaith Tim | Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp, cyfrannu’n effeithiol i weithgareddau grŵp, cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp a gwaith cwrs a asesir, arfer sgiliau negod |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Llunio strategaethau hunan-ddysgu realistig, a’u rhoi ar waith. Adolygu a monitro’u perfformiad cyffredinol, bod yn ymwybodol o dechnegau rheoli amser |
| Rhifedd | Dadansoddi adroddiadau ariannol ac adroddiadau eraill sy’n seiliedig ar wybodaeth rifyddol |
| Sgiliau pwnc penodol | Bydd myfyrwyr yn gallu deall, dadansoddi a datblygu cynlluniau strategol yn eu dewis yrfa a’u sefydliad |
| Sgiliau ymchwil | Cynnal ymchwil ar reolaeth strategol. Dod o hyd i ddeunydd ffynhonnell perthnasol ar gyfer aseiniadau ac astudiaethau achos |
| Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio ystod o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn eang, paratoi a dadansoddi data, cyflwyno gwybodaeth |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6
Aberystwyth Business School,Aberystwyth University, Hugh Owen Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622500 : +44 : +44 (0)1970 622021
business-school@aber.ac.uk: business-school@aber.ac.uk
