Datblygu i'r We a Diogelwch Gwybodaeth
- Cod y Modiwl
- CC10120
- Teitl y Modiwl
- Datblygu i'r We a Diogelwch Gwybodaeth
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Hannah Dee
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
CS10120
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Dylinio a chreu gwefan: 30 Awr 30 Awr | 40% |
| Arholiad Semester | Arholiad: 2 Awr 2 Awr | 60% |
| Asesiad Ailsefyll | Dylinio a chreu gwefan: 30 Awr 30 Awr | 40% |
| Arholiad Ailsefyll | Arholiad: 2 Awr 2 Awr | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Egluro'r gwahaniaeth rhwng strwythur, cynnwys a chyflwyniad deunydd gwe a manteision cynnal y gwahaniaeth hwnnw.
- Ysgrifennu HTML a rheoli ei gyflwyniad gan ddefnyddio dalennau steil.
- Ysgrifennu cod ochr y cleient i ryngweithio â'r dudalen we, darllen a phrosesu cynnwys y ffurflen, a deall y gwahaniaeth rhwng ochr y cleient ac ochr y gweinydd.
- Dangos dealltwriaeth o bwysigrwydd cadw at safonau.
- Dangos dealltwriaeth o'r risgiau sy'n gysylltiedig ag adeiladu systemau cyfrifiadurol diogel.
- Disgrifio gwahanol fathau o ymosodiadau seiber a phennu amddiffyniadau priodol yn erbyn ymosodiad
- Dangos dealltwriaeth o ddulliau amgryptio priodol, a'u cymhwyso.
- Gwerthuso agweddau ar systemau cyfrifiadurol gan gyfeirio at gyfrinachedd, uniondeb ac argaeledd (fframwaith CIA).
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno sgiliau ymarferol mewn rhaglennu gwe, ochr yn ochr â phynciau cyfrifiadureg ddamcaniaethol o ddiogelwch gwybodaeth. Mae llawer o gyfrifiadureg cyfoes yn digwydd ar y we: nid yw'n ddiogel, os nad yw'n sicr. Yn yr adran we, mae'r modiwl hwn yn cyflwyno technolegau craidd a phensaernïaeth y we. Bydd yn mynd i'r afael â'r ffordd y mae cynnwys gwe yn cael ei arddangos, sut mae'r cyflwyniad gweledol yn cael ei reoli a sut mae ochr y gweinydd a chod ochr y cleient yn cael eu defnyddio i reoli ymddygiad y tudalennau gwe. Bydd hefyd yn ymdrin â'r protocol cyfathrebu a ddefnyddir i drosglwyddo data gwe ac ystyried materion megis dilysu a thrin DOM. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ddatblygu dealltwriaeth ddamcaniaethol ac ymarferol o'r we.
Yn y rhan diogelwch gwybodaeth, mae'r modiwl hwn yn cyflwyno cysyniadau allweddol mewn diogelwch gwybodaeth, gan ddarparu trosolwg o fframweithiau damcaniaethol ar gyfer systemau diogel ac argymhellion ymarferol. Bydd yn ymdrin ag agweddau ar feddalwedd, caledwedd a diogelwch rhwydwaith.
Cynnwys
Rhaglennu i'r we
1. Cynnwys, cyflwyniad a strwythur. HTML, CSS.
2. Dilysu, safonau gwe, HTML fel XML/SGML. Dogfennau fel coeden. Rhyfeloedd porwyr.
3. Sgriptio ochr y cleient - ECMAScript (JavaScript) a phrosesu ffurflenni HTML. Model Gwrthrych y Ddogfen.
4. Cymhariaeth ochr y cleient a'r gweinydd. Y protocol HTTP. Cyflwyniad i egwyddorion rhaglennu ochr y gweinydd.
5. Cynnwys amlgyfrwng
Diogelwch cyfrifiaduron a gwybodaeth:
1. Cyfrinachedd, Uniondeb, Argaeledd, a rheoli risg
2. Cyfrineiriau, rheoli cyfrinair, a diogelwch rhwydwaith
3. Amgryptio
4. Ymosodiadau a'u lliniaru, gan gynnwys peiriannu cymdeithasol
5. Dyluniad diogel a chod amddiffynnol
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Datrys Problemau Creadigol | Adeiladu a dadfygio cod gwefan |
| Meddwl beirniadol a dadansoddol | Dadansoddi systemau i ddeall risgiau a buddion o safbwynt diogelwch gwybodaeth. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
Computer Science,Aberystwyth University, Llandinam Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622424 : +44 : +44 (0)1970 622021
cs-office@aber.ac.uk: cs-office@aber.ac.uk
