Prosiect Hir
- Cod y Modiwl
- CC39440
- Teitl y Modiwl
- Prosiect Hir
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Mr Neil Taylor
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Rhagofynion
-
Rhaid i'r myfyrwyr fod wedi cofrestru yn yr Adran ar gynllun gradd anrhydedd sengl neu Brif Bwnc - Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
CS39440
Prif bynciau yn unig - Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
CC39620 neu CS39620
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Fred Labrosse
- Mr Richard Shipman
- Dr Wayne Aubrey
- Professor Bernard Tiddeman
- Mr Malcolm Hutchison
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Adroddiad ysgrifenedig: a gwaith technegol cysylltiedig, arddangosiadau, a cham cyntaf. 12000 o eiriau | 100% |
| Asesiad Ailsefyll | Adroddiad ysgrifenedig: a gwaith technegol cysylltiedig, arddangosiadau, a cham cyntaf. 12000 o eiriau | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Arddangos gallu i ddadansoddi problem, datblygu modd o ymchwilio i’r broblem neu ei datrys, a chwblhau darn o waith dan gyfarwyddyd goruchwyliwr, ond gan ddangos hunanddisgyblaeth, trefniadaeth a menter.
- Arddangos gallu i ennill profiad mewn maes penodol, trwy astudio hunangyfeiriedig yn bennaf.
- Arddangos gallu i ddefnyddio’r prif bethau a gyflawnwyd ganddynt yn ystod eu hastudiaethau gradd yn annibynnol.
- Llunio arfarniad beirniadol ysgrifenedig a llafar o’u gwaith, gan werthuso pob agwedd ar eu dull o weithredu
Disgrifiad cryno
Rhaid i'r myfyrwyr gwblhau darn o waith technegol ac ysgrifenedig sylweddol, dan gyfarwyddyd goruchwyliwr, ond gan ddangos hunanddisgyblaeth, trefniadaeth a menter. Fel arfer, bydd y prosiectau yn cynnwys datblygu darn o feddalwedd o'r datganiad cychwynnol drwy'r camau manylu a chynllunio, i weithredu a phrofi'r gwaith yn llwyddiannus. Bydd myfyrwyr â'r cefndir priodol yn gallu cyflawni prosiect sy'n cynnwys elfen o galedwedd. Gall prosiectau eraill ymchwilio i feysydd technegol a datblygu meddalwedd a phrosesau i asesu'r meysydd hynny.
Trwy weithio ar y prosiect hwn, bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gymhwyso a datblygu eu sgiliau wrth drafod problem benodol, cwblhau'r prosiect a dogfennu'r broses. Bydd y myfyrwyr yn datblygu cynnyrch gorffenedig o'r cam o fanylu ar y gofynion hyd at ddangos bod y cynnyrch yn bodloni'r gofynion hynny. Mae'r broses hon yn cynnwys llunio dogfennau priodol, gan gynnwys dogfennau sy’n trafod y penderfyniadau cynllunio a wnaethpwyd. Bydd prosiectau ymchwil hefyd yn pwysleisio'r broses ymchwil ac yn gwerthuso'r canlyniadau.
Nod
Cyflawni darn sylweddol o waith technegol sy'n tynnu'r holl sgiliau a ddatblygwyd yn ystod cwrs y myfyriwr at ei gilydd. Adrodd ynghylch y gwaith technegol ar ffurf arddangosiadau, trafodaethau ac adroddiad ysgrifenedig.
Cynnwys
Bydd hyd at 10 darlith yn gysylltiedig â'r posiect.
Darperir amryw ddeunyddiau ysgrifenedig, gan roi cyfarwyddyd ynghylch cyflawni'r prosiect, materion asesu, a chyflwyno'r prosiect. Disgwylir i fyfyrwyr drefnu eu hamser ar y prosiect bob wythnos a chyfarfod a^’u goruchwyliwr yn rheolaidd. Asesir y cwrs hwn ar sail cyflawni technegol, yn o^l tystiolaeth a gyflwynir drwy arddangosiadau, y gwaith technegol a'r canlyniadau, ynghyd ag adroddiad ysgrifenedig sylweddol.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Dylai'r modiwl hwn fod o fudd i'w sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig (traethawd estynedig) a llafar (arddangosiad). |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Dylai'r modiwl hwn helpu myfyriwr i ddeall potensial eu gradd benodol ar gyfer sicrhau swydd, a darparu deunydd sylweddol ar gyfer eu portfolio. |
| Datrys Problemau | Mae datrys problemau yn elfen gynhenid o weithredu systemau Cyfrifiadura. |
| Gwaith Tim | Amherthnasol. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Gofynnir i'r myfyriwr ystyried ei ddysgu a'i berfformiad ei hun. |
| Rhifedd | Mae defnyddio gwybodaeth rifyddol yn elfen gynhenid o astudio Cyfrifadura. |
| Sgiliau pwnc penodol | Datblygir mwy o wybodaeth fanwl mewn rhai sgiliau sy'n benodol i'r pwnc o ganlyniad i weithio ar y prosiect. Bydd sgiliau yn wahanol ar gyfer pob myfyriwr. |
| Sgiliau ymchwil | Bydd angen iddynt archwilio ac ysgrifennu ynghylch parth defnyddio systemau cyfrifiadura. |
| Technoleg Gwybodaeth | Mae technoleg gwybodaeth yn elfen gynhenid o astudio Cyfrifiadura. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6
Computer Science,Aberystwyth University, Llandinam Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622424 : +44 : +44 (0)1970 622021
cs-office@aber.ac.uk: cs-office@aber.ac.uk
