System Cyfreithiol a Chyfiawnder Troseddol

Cod y Modiwl
CT10120
Teitl y Modiwl
System Cyfreithiol a Chyfiawnder Troseddol
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 1
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Dr Angharad James
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
LC10120
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
CT20120 neu LC20120
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Nathan Gibbs

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Traethawd ysgrifenedig: 1,500 gair (gan gynnwys cynllun o 10%) 40%
Asesiad Semester Perfformiad Seminar: 20%
Arholiad Semester Arholiad nas gwelir ymlaen llaw (MCQ): 1.5 Awr 1.5 Awr 40%
Asesiad Ailsefyll Traethawd ysgrifenedig: 1500 o eiriau 40%
Asesiad Ailsefyll Adolygiad yn lle perfformiad seminar: 1000 o eiriau 20%
Arholiad Ailsefyll Arholiad nas gwelir ymlaen llaw (MCQ): 1.5 Awr 1.5 Awr 40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Arddangos dealltwriaeth sylfaenol o’r system gyfreithiol a’r system gyfiawnder troseddol, a’r rhyngweithiad rhyngddynt.
  2. Bod yn gyfarwydd â ffynonellau cyfreithiol a sut i ddod o hyd iddynt, a’u adnabod.
  3. Bod yn gyfarwydd â phrosesau llysoedd a chwrs treialon.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn cwmpasu holl elfennau’r system gyfreithiol sy’n hanfodol i radd cymhwyso yn y gyfraith, tra’n darparu trosolwg o’r system gyfiawnder troseddol. Cyfunir y ddau destun mewn modiwl sy’n cyflwyno’r berthynas a rhyngweithiad rhyngddynt.

Cynnwys

Llysoedd/hierarchaeth y llysoedd; ffynonellau cyfraith; cynsail; dehongliad statudol; y proffesiwn cyfreithiol; y farnwriaeth; ynadon; y rheithgor; systemau gwrthwynebus ac ymchwiliol; ADR; tribiwnlysoedd; yr heddlu; disgresiwn; grymoedd; PACE; treial/ grŵp gweithio llysoedd; dedfrydu; dedfrydiadau cadwriaethol ac ang-hadwriaethol; rheolau/gweithdrefnau carchardai.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Seminarau rhyngweithiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Cynghorir myfyrwyr ynghylch y cyfleoedd amrywiol y gall gradd yn y Gyfraith/Troseddeg ei gynnig
Datrys Problemau Seminarau rhyngweithiol.
Gwaith Tim Seminarau rhyngweithiol
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Paratoadau seminar ac ymchwil
Sgiliau pwnc penodol Dealltwriaeth o ddulliau cyfreithiol
Sgiliau ymchwil Cronfeydd ymchwil cyfreithiol.
Technoleg Gwybodaeth Systemau TG a chronfeydd cyfreithiol sy’n hanfodol i ymchwil ac astudiaethau

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4