Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CT10520
Teitl y Modiwl
Cyfraith Droseddol
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr   Arholiad na gwelir ymlaen llaw  Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl  50%
Arholiad Semester 1.5 Awr   Arholiad na gwelir ymlaen llaw  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  (1,500 gair) Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl  50%
Asesiad Semester Traethawd  (1,500 gair)  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Cydnabod ac egluro'r egwyddorion sylfaenol sy'n sail i'r gyfraith droseddol, a dadansoddi'n feirniadol eu perthnasedd a'u cymhwyso i droseddau ac amddiffynfeydd penodol.

Nodi a dadansoddi'r elfennau sy'n sail i atebolrwydd troseddol, sef yr ymddygiad a'r elfennau meddyliol, a'r eithriadau i'r rhain.

Dangos dealltwriaeth sylfaenol o bob elfen gyfansoddol berthnasol o droseddau ac amddiffynfeydd mawr - mewn deddfwriaeth ac yn y gyfraith gyffredin - a'u cymhwyso i sefyllfaoedd ffeithiol er mwyn datrys problemau.

Gwerthuso a dadansoddi cwmpas y gyfraith droseddol, ei phroblemau cyfredol, a'r opsiynau ar gyfer diwygio a gynigiwyd yn arbennig gan Gomisiwn y Gyfraith.

Llunio dadleuon rhagarweiniol ar sail y gyfraith a'r dystiolaeth berthnasol, er mwyn datblygu sgiliau darllen, deall a chymhwyso'r testunau cyfreithiol perthnasol (boed yn achosion neu ddeddfwriaeth) i broblemau cyfreithiol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn nodi egwyddorion cyffredinol sy'n ymwneud â mens rea (elfen feddyliol) a'r actus reus (elfen ymddygiad) o droseddau, cyn mynd ymlaen i edrych ar droseddau sylweddol llofruddiaeth; dynladdiad; amddiffynfeydd rhannol; troseddau rhywiol; cymryd rhan mewn trosedd; troseddau nad ydynt yn angheuol yn erbyn y person; troseddau eiddo; troseddau adfer: amddiffynfeydd analluogrwydd a chyflyrau meddyliol ac amddiffynfeydd cyffredinol.

Cynnwys

Nod y modiwl yw rhoi cyfle i fyfyrwyr ddeall ac archwilio'n feirniadol y dystiolaeth, y cysyniadau, y sy'n gysylltiedig ag astudio cyfraith droseddol. Bydd yn rhoi gwybodaeth i myfyrwyr am egwyddorion cyfraith droseddol y mae'r mwyafrif o droseddau yn seiliedig arnynt, a'r meini prawf allweddol wrth nodi'r troseddau mwyaf difrifol, megis lladdiad a throseddau rhywiol. Byddant hefyd yn cael gwybod am yr achosion allweddol, a deddfwriaeth sy'n llywodraethu'r gyfraith droseddol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y modiwl yn datblygu medrau cyfathrebu ysgrifenedig myfyrwyr trwy'r arholiad. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn datblygu eu medrau cyfathrebu llafar trwy ymatebion unigol a grŵp i osod gwaith ar y seminarau.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Pwnc a argymhellir ar gyfer unrhyw ystyried ystyried gweithio mewn cyfundrefn ymarfer troseddol / cyfiawnder troseddol.
Datrys Problemau Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau datrys problemau myfyrwyr mewn sawl ffordd. Bydd gofyn i fyfyrwyr ddadansoddi ystod o ffynonellau a thestunau er mwyn ateb cwestiynau datrys problemau yn y seminarau; AC yn eu harholiad.
Gwaith Tim Bydd y seminarau'n cynnwys datrys problemau a thrafodaethau grŵp a fydd yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau gweithio mewn tîm a thrafod eu meddyliau gyda gweddill y dosbarth.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae cyfranogiad seminarau a pharatoi arholiadau yn datblygu agweddau gwahanol ar ymchwil academaidd, o ddeall a chyfeirio ffynonellau trwy ledaenu syniadau i eraill ar lafar, a datblygu medrau cyfathrebu ysgrifenedig.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Ymchwil gyfreithiol: defnyddio cronfeydd data cyfreithiol fel adnodd ar gyfer statud a chyfraith achosion Darllen ffynonellau cynradd yn y ffordd o achosion a deddfwriaeth. Bydd ymarferion datrys problemau mewn seminarau yn cynorthwyo i archwilio arddull datrys problemau, ac, yn ehangach, yn y proffesiwn cyfreithiol.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio a syntheseiddio ystod o ddeunydd ffynhonnell academaidd wrth baratoi ar gyfer eu seminarau ac i'w harchwilio.
Technoleg Gwybodaeth Mae sgiliau llyfrgell ac ymchwil yn hanfodol i baratoi ar gyfer seminarau a gwaith a asesir.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4