Cyfraith Camwedd

Cod y Modiwl
CT11120
Teitl y Modiwl
Cyfraith Camwedd
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 2
Cyd-gysylltydd y Modiwl
No staff with Userid: MAC21
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
LC11120
Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
CT21120 neu LC21120
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dr Nathan Gibbs
Professor Ryszard Piotrowicz

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester Perfformiad Seminar: 20%
Asesiad Semester Aseiniad ysgrifenedig: 1500 o eiriau 40%
Arholiad Semester Arholiad llyfr-agored nas gwelir ymlaen llaw: 1.5 Awr 1.5 Awr 40%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad ysgrifenedig: 1500 o eiriau 40%
Asesiad Ailsefyll Adolygiad yn lle perfformiad seminar: 500 o eiriau 20%
Arholiad Ailsefyll Arholiad llyfr-agored nas gwelir ymlaen llaw: 1.5 Awr 1.5 Awr 40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Dangos dealltwriaeth fanwl o egwyddorion sylfaenol cyfraith camwedd, yn ogystal a dadansoddi eu perthnasedd a’r modd y’u defnyddir.
  2. Nodi’n gywir yr elfennau sy’n ffurfio sail atebolrwydd mewn camwedd, sef y gweithredoedd neu’r anweithiau perthnasol a (lle bo’n berthnasol) yr elfen feddyliol.
  3. Dangos dealltwriaeth sylfaenol o elfennau perthnasol y prif gamweddau, a gallu dangos eu bod yn datblygu sgiliau trwy eu cymhwyso i sefyllfaoedd ffeithiol i ddatrys problemau.
  4. Dangos dealltwriaeth sylfaenol o gwmpas cyfraith camwedd, gan nodi problemau cyfredol, ac ystyried dewisiadau ar gyfer diwygio.
  5. Gallu cymharu cyfraith camwedd Cymru a Lloegr a chyfreithiau camwedd awdurdodaethau gwahanol ond tebyg, yn bennaf yr Alban ac Awstralia, a disgrifio cryfderau a gwendidau cyfraith Cymru a Lloegr yn y cyd-destun hwnnw.
  6. Llunio dadleuon perthnasol ar sail y gyfraith a thystiolaeth berthnasol, er mwyn datblygu sgiliau sylfaenol mewn darllen, deall a chymhwyso’r ffynonellau cyfreithiol perthnasol (achosion a deddfwriaeth) i broblemau cyfreithiol; a dangos eu bod yn datblygu sgiliau i ddehongli a dadansoddi rheolau a thestunau cyfreithiol; a darllen a chloriannu ffynonellau eilaidd perthnasol mewn modd digonol.​

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl yn mynd i’r afael ag egwyddorion sylfaenol camwedd, hynny yw, hawl unigolion i geisio rhwymedïau cyfreithiol preifat am gamweddau y maent wedi’u dioddef gan eraill, naill ai’n fwriadol neu trwy esgeuluster. Mae camweddau o’r fath yn cynnwys anaf corfforol bwriadol ac esgeulus i’r person ac i eiddo, anaf seiciatrig, ymyrryd â’r mwynhad o eiddo a difrodi enw da.

Cynnwys

Noder - mae myfyrwyr lefel 2 yn mynychu’r darlithoedd Lefel 1 yn y modiwl hwn. FODD BYNNAG, er mwyn adlewyrchu eu statws Lefel 2, mae (i) eu harholiadau, a (ii) eu gwaith seminar yn wahanol ac maent wedi’u gosod ar lefel uwch.

Nod y modiwl hwn yw cyflwyno’r egwyddorion allweddol sy’n sail i’r buddiannau a amlinellir uchod, yn ogystal ag ystyried elfennau cyfreithiol penodol yr egwyddorion hyn, yn bennaf trwy astudio’r gyfraith achosion berthnasol yn ogystal â deddfwriaeth.

Cynnwys
* Cyflwyniad i gyfraith camwedd
* Camweddau bwriadol yn erbyn y person
* Camweddau bwriadol yn erbyn tir a nwyddau
* Esgeuluster – dyletswydd gofal; safon gofal; achosiaeth a phellenigrwydd difrod; cyfrifoldeb meddianwyr; sioc seicolegol; colled economaidd bur a chamddatganiad esgeulus; atebolrwydd dirprwyol
* Amddiffyniadau i esgeuluster
* Niwsans
* Rylands v Fletcher
* Difenwad
* Diogelu preifatrwydd
* Atebolrwydd am anifeiliaid

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig y myfyrwyr trwy gyfrwng yr arholiad. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau cyfathrebu llafar trwy ymatebion unigol a grŵp i waith penodol a osodir ar sail y seminarau.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Pwnc a argymhellir ar gyfer unrhyw un sy’n ystyried gweithio ym maes trosedd/y system cyfiawnder troseddol.
Datrys Problemau Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau datrys problemau y myfyrwyr mewn nifer o ffyrdd. Bydd gofyn i fyfyrwyr ddadansoddi ystod o ffynonellau a thestunau er mwyn ateb cwestiynau datrys problemau yn y seminarau AC yn eu harholiad.
Gwaith Tim Bydd y seminarau yn cynnwys datrys problemau a thrafodaethau grwp a fydd yn rhoi cyfleoedd i’r myfyrwyr ddatblygu sgiliau gweithio mewn tîm a thrafod eu syniadau â gweddill y dosbarth.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae cymryd rhan mewn seminarau a pharatoi ar gyfer arholiadau yn datblygu gwahanol agweddau ar ymchwil academaidd, o ddeall a chyfeirio at ffynonellau i ledaenu syniadau i eraill ar lafar, a datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig.
Sgiliau pwnc penodol Ymchwil gyfreithiol: defnyddio cronfeydd data cyfreithiol fel adnodd ar gyfer cyfraith statudau a chyfraith achosion. Darllen ffynonellau gwreiddiol ar ffurf achosion a deddfwriaeth. Bydd ymarferion datrys problemau mewn seminarau yn cynorthwyo â chwestiynau datrys problemau mewn arholiadau, ac yn ehangach ym mhroffesiwn y gyfraith.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio a chyfuno ystod o ddeunyddiau ffynhonnell academaidd wrth baratoi ar gyfer eu seminarau ac ar gyfer eu harholiad.
Technoleg Gwybodaeth Mae sgiliau llyfrgell ac ymchwil yn hanfodol er mwyn paratoi ar gyfer seminarau a gwaith sy’n cael ei asesu.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4