Sgiliau Hanfodol ar Gyfer Troseddegwyr
- Cod y Modiwl
- CT13120
- Teitl y Modiwl
- Sgiliau Hanfodol ar Gyfer Troseddegwyr
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 1
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Miss Demi John
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Rhagofynion
-
CT12220 neu LC12220
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
LC13120
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Dr Bethan Poyser
- Miss Demi John
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Aseiniad 1: Bydd yr aseiniad hwn yn gofyn i fyfyrwyr gynnal dadansoddiad thematig 1500 o eiriau | 40% |
| Asesiad Semester | Aseiniad 2: Bydd yr aseiniad hwn yn gofyn i fyfyrwyr ddylunio prosiect ymchwil ansoddol 1500 o eiriau | 40% |
| Asesiad Semester | Perfformiad Seminar: | 20% |
| Asesiad Ailsefyll | Adolygiad yn lle perfformiad seminarau: 1000 o eiriau | 20% |
| Asesiad Ailsefyll | Aseiniad 2: Bydd yr aseiniad hwn yn gofyn i fyfyrwyr ddylunio prosiect ymchwil ansoddol, gan ddefnyddio senario Troseddegol amgen. 1500 o eiriau | 40% |
| Asesiad Ailsefyll | Aseiniad 1: Bydd yr aseiniad hwn yn gofyn i fyfyrwyr gynnal dadansoddiad thematig, gan ddefnyddio darn arall o ddata ansoddol. 1500 o eiriau | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Defnyddio sgiliau academaidd trosglwyddadwy, megis deall sut i ysgrifennu a chyfeirio mewn ffordd sy'n gadarn yn academaidd
- Deall hanfodion datblygu a dylunio ymchwil.
- Deall sut i gynnal dadansoddiad thematig
- Meddu ar ddealltwriaeth ddatblygol fanteision a chyfyngiadau dyluniadau dulliau ymchwil ansoddol.
- Meddu ar ddealltwriaeth ddatblygol o sut i asesu astudiaethau ymchwil troseddegol empirig yn feirniadol.
Disgrifiad cryno
Mae cyfleoedd i fyfyrwyr gymryd rhan weithredol yn y broses ymchwil, datblygu sgiliau arsylwi a chynnal cyfweld ac arolygu un i un.
Cynnwys
Bydd y pynciau dan sylw yn cynnwys:
Sgiliau academaidd trosglwyddadwy, gan gynnwys ysgrifennu a chyfeirio academaidd
Dylunio ymchwil ansoddol a methodoleg
Elfennau o ymchwil ansoddol
Deall a chymhwyso math sylfaenol o ddadansoddiad ansoddol
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Bydd myfyrwyr yn cael eu dysgu sut i ysgrifennu i safon academaidd uchel, a sut i gymhwyso cyfeiriadau Harvard i'w gwaith, a fydd yn eu galluogi i ddatblygu sgiliau sydd eu hangen i gynhyrchu cyhoeddiadau ysgrifenedig. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae'r modiwl hwn wedi'i wreiddio'n fawr yn y byd go iawn, a sut y gellir cynnal ymchwil gyda phobl go iawn. Bydd y ddau aseiniad yn gofyn iddynt redeg gweithgaredd ymchwil gyda rhywun y tu allan i'r cwrs, a myfyrio ar ba mor dda y gweithiodd yr offer gyda phobl go iawn mewn cymdeithas. |
| Datrys Problemau | Mae ethos cyfan y modiwl yn troi o gwmpas datrys problemau. Dyma hanfod ymchwil gwyddorau cymdeithasol ac felly bydd y modiwl yn ymwneud yn helaeth ag annog a meithrin y sgil hon. |
| Gwaith Tim | Bydd y ddau aseiniad yn ei gwneud yn ofynnol i'r myfyrwyr weithio gydag un arall i gynhyrchu a) amserlen gyfweld a b) holiadur arolwg (er y bydd yr aseiniadau'n cael eu hysgrifennu'n unigol). Bydd y seminarau a'r gweithdai hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr weithio gyda'i gilydd drwyddi draw mewn ffordd ymarferol iawn. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae'n ofynnol i fyfyrwyr fyfyrio ar eu dyluniadau eu hunain o gyfweliad ac arolwg, sy'n gofyn am lefel dda o fyfyrio personol ar eu datblygiad a'u dysgu eu hunain. |
| Sgiliau pwnc penodol | Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau a fydd yn eu helpu i ddylunio a chynnal prosiect ymchwil, pe byddent yn penderfynu ymgymryd a thraethawd hir empirig yn eu trydedd flwyddyn. |
| Sgiliau ymchwil | Mae gofyn i fyfyrwyr wneud y gwaith o ddylunio a chyflwyno cyfweliad lled-strwythuredig gyda phartner. O'r herwydd, bydd gofyn iddynt ddeall a chymhwyso elfennau cymhleth dylunio ymchwil ansoddol |
| Technoleg Gwybodaeth | Bydd gofyn i fyfyrwyr gyrchu deunyddiau ar Blackboard, ond hefyd i ddefnyddio rhaglen arolwg ar-lein i gwblhau eu hail aseiniad. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Law & Criminology,Aberystwyth University, Hugh Owen Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622712 : +44 : +44 (0)1970 622021
law@aber.ac.uk: law@aber.ac.uk
Law & Criminology,Aberystwyth University, Hugh Owen Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622712 : +44 : +44 (0)1970 622021
law@aber.ac.uk: law@aber.ac.uk
