Systemau Cyfreithiol a Chyfiawnder Troseddol
- Cod y Modiwl
- CT20120
- Teitl y Modiwl
- Systemau Cyfreithiol a Chyfiawnder Troseddol
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 1
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Angharad James
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
CT10120 neu LC10120
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
LC20120
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Traethawd Ysgrifenedig: 2500 o eiriau | 40% |
| Asesiad Semester | Perfformiad Seminar: | 20% |
| Arholiad Semester | Arholiad nas gwelir ymlaen llaw (MCQ): 2 Awr 2 Awr | 40% |
| Asesiad Ailsefyll | Adolygiad yn lle perfformiad seminar: | 20% |
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd Ysgrifenedig: 2500 o eiriau | 40% |
| Arholiad Ailsefyll | Arholiad nas gwelir ymlaen llaw (MCQ): 2 Awr 2 Awr | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- Dangos dealltwriaeth dda o’r system gyfreithiol a’r system cyfiawnder troseddol, a’r rhyngweithio rhwng y ddwy.
- Bod yn gyfarwydd a ffynonellau’r gyfraith a sut i ganfod ac adnabod ffynonellau o’r fath.
- Bod yn gyfarwydd a gweithdrefnau’r llys ac achosion llys.
- Gallu dadansoddi a chloriannu agweddau ar y System Gyfreithiol a’r System Cyfiawnder Troseddol.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn ymgorffori holl elfennau’r system gyfreithiol sy’n hanfodol i radd gymhwysol yn y gyfraith, ac yn cynnig trosolwg o’r system cyfiawnder troseddol. Bydd y ddau bwnc yn cael eu hintegreiddio i fodiwl sy’n cyflwyno’r berthynas rhwng y ddwy system, a sut y maent yn rhyngweithio a’i gilydd.
Cynnwys
Noder - mae myfyrwyr lefel 2 yn mynychu’r darlithoedd Lefel 1 yn y modiwl hwn. FODD BYNNAG, er mwyn adlewyrchu eu statws Lefel 2, bydd (i) eu harholiadau, a (ii) eu gwaith seminar yn wahanol ac wedi’u gosod ar lefel uwch.
Bydd myfyrwyr yn ystyried y pethau canlynol mewn perthynas a’r system gyfreithiol, strwythur y llysoedd a hierarchaeth y llys a sut y mae hyn yn berthnasol i gyfraith achosion ac athrawiaeth cynsail. Astudir deddfwriaeth ac egwyddor dehongli statudol, yn ogystal â sut y mae’r Senedd yn deddfu. Proffesiwn y gyfraith, gan gynnwys y farnwriaeth, bargyfreithwyr a chyfreithwyr ac ynadon; rheithgor; systemau gwrthwynebus/ymchwiliol; ADR (Alternative Dispute Resolution); bydd tribiwnlysoedd yn ganolbwynt i’r astudiaethau o fewn elfen y system gyfreithiol. O ran y system cyfiawnder troseddol, ystyrir disgresiwn a phwerau’r heddlu ac effaith PACE. Bydd gweithgor y treial/ystafell llys yn cael ei astudio a’i gysylltu a’i swyddogaeth o fewn y system gyfreithiol. Bydd y modiwl hefyd yn ystyried dedfrydu, gan gynnwys dedfrydau o garchar/di-garchar a rheolau/gweithdrefnau carchar.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Seminarau rhyngweithiol. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y myfyrwyr yn cael cyngor am y gwahanol gyfleoedd y mae graddau yn y gyfraith/troseddeg yn eu cynnig. |
| Datrys Problemau | Seminarau rhyngweithiol. |
| Gwaith Tim | Seminarau rhyngweithiol. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Ymchwilio a pharatoi ar gyfer seminarau. |
| Sgiliau pwnc penodol | Deall dulliau cyfreithiol. |
| Sgiliau ymchwil | Ymchwilio i gronfeydd data ar y gyfraith. |
| Technoleg Gwybodaeth | Systemau TG a chronfeydd data cyfreithiol sy’n hanfodol ar gyfer astudio a gwaith ymchwil. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
Law & Criminology,Aberystwyth University, Hugh Owen Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622712 : +44 : +44 (0)1970 622021
law@aber.ac.uk: law@aber.ac.uk
