Trosedd yn y Gymru Gyfoes

Cod y Modiwl
CT20220
Teitl y Modiwl
Trosedd yn y Gymru Gyfoes
Blwyddyn Academaidd
2026/2027
Semester
Semester 2
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Miss Demi John
Rhestr Ddarllen
Gweld ar Aspire
Rhagofynion
CT12220 neu CT22220 neu LC12220 neu LC22220
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Miss Demi John

Dulliau Asesu

Math o Asesiad

Manylion Asesiad

Hyd Asesiad

Cyfran

Asesiad Semester ​Prosiect ymchwil ar agwedd o drosedd yng Nghymru o ddewis: 2000 o eiriau 50%
Asesiad Semester Cyflwyniad poster ar agweddau trosedd yng Nghymru: 10 Munud 50%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad poster ar agweddau trosedd yng Nghymru: 10 Munud 50%
Asesiad Ailsefyll ​Prosiect ymchwil ar agwedd o drosedd yng Nghymru o ddewis: 2000 o eiriau 50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

  1. Trafod hanes trosedd yng Nghymru a sut mae wedi cyfrannu at siapio polisi.
  2. Ystyried a thrafod trosedd hanesyddol a’r trosedd sydd ar gynnydd a’r rhesymau dros hyn.
  3. Trafod agweddau trosedd yng Nghymru a’r hyn sy’n ei wahaniaethu rhwng trosedd yn Lloegr.
  4. Cynnal gwaith ymchwil i mewn agwedd benodol o drosedd Cymru a’i gyflwyno yn ysgrifenedig.
  5. Trafod ar lafar ar agwedd o drosedd yng Nghymru.
  6. Arfarnu’n feirniadol mesurau llwyddiant cyfreithiau a pholisiau sy’n ymwneud a throsedd yng Nghymru.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl 20 credyd hwn yn darparu 12 sesiwn 2 awr ar faterion yn ymwneud a throsedd yng Nghymru gan drafod troseddau treftadol, anufudddod sifil, troseddu gan ieuenctid a throseddu gweldig. Mae’r materion hyn i gyd a dimensiwn Cymreig naill ai o ran materion polisi, neu o ran mynediad at gyfiawnder, hanes neu berthnasedd penodol.

This 20 credit module will comprise of 12 x 2 hour sessions on matters relating to crime in Wales. It will cover the topics of heritage crime, civil disobedience, youth crime. and rural crime. All of these areas have a specifically Welsh dimension, either in terms of policy-making, or in terms of access to justice, history and significance.

Cynnwys

Cymru a'r system droseddol
Hanes Trosedd yng Nghymru
Anufudddod Sifil
Trosedd Gwledig
Trosedd Treftadol
Troseddau Gwyrdd

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau

Manylion Sgiliau

Cyfathrebu Sgiliau ysgrifenedig a sgiliau trafod ar lafar.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa ​​Datblygu hyder ar gyfer cyfweliadau.
Datrys Problemau Canfod a dewis deunyddiau perthnasol.
Gwaith Tim Trafodaethau o fewn y sesiynau grwp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Ymateb i sylwadau ac adborth yn y sesiynau tiworial.
Rhifedd Peth gwaith efo ystadegau.
Sgiliau pwnc penodol Dealltwriaeth o drosedd Cyflwyno dadl Ysgrifennu a chyflwyno ar lafar
Sgiliau ymchwil Prosiect ymchwil a gwaith paratoi.
Technoleg Gwybodaeth Gwaith ymchwil a chanfod deunyddiau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5