Cyfraith Ewrop
- Cod y Modiwl
- CT20720
- Teitl y Modiwl
- Cyfraith Ewrop
- Blwyddyn Academaidd
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2
- Cyd-gysylltydd y Modiwl
- Dr Nathan Gibbs
- Rhestr Ddarllen
- Gweld ar Aspire
- Rhagofynion
-
CT10120 neu CT10420 neu CT20120 neu LC10120 neu LC10420 neu LC20120
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
LC20720
- Anghymharus (Unrhyw Flwyddyn Acad)
-
CT30720 neu LC30720
- Staff Eraill sy'n Cyfrannu
- Mr Gerald Schaefer
- No staff with Userid: MAC21
Dulliau Asesu
|
Math o Asesiad |
Manylion Asesiad |
Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Traethawd: 2000 o eiriau | 50% |
| Arholiad Semester | Arholiad: 2 Awr 2 Awr | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | Traethawd: 2000 o eiriau | 50% |
| Arholiad Ailsefyll | Arholiad: 2 Awr 2 Awr | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
- 1. Egluro arwyddocad strwythurau cyfansoddiadol a sefydliadol sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd.
- 2. Dangos tystiolaeth o fod wedi cwblhau ymchwil gyfreithiol er mwyn dangos cymhwysedd wrth ganfod a defnyddio ffynonellau cynradd ac eilaidd cyfraith Ewrop yn ogystal a safbwyntiau athrawiaethol a damcaniaethol ar gyfraith Ewrop.
- 3. Dangos dealltwriaeth o'r modd y mae gwahanol gategoriau o gyfraith Ewropeaidd yn rhyngweithio a systemau cyfreithiol cenedlaethol
- 4. Egluro, mewn modd cynhwysfawr, yr egwyddorion y seilir y farchnad fewnol arnynt a sut yr adlewyrchir y rhain yn narpariaethau Cytuniadau a'u datblygu yn neddfwriaeth a chyfraith achosion eilaidd Llys Cyfiawnder Ewrop.
- 5. Defnyddioir egwyddorion cyfreithiol perthnasol wrth ddatrys ac egluro problemau damcaniaethol a / neu ymarferol sy'n codi cwestiynau sy'n ymwneud ag agweddau ar Gyfraith yr Undeb Ewropeaidd.
Disgrifiad cryno
Mae cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn gorff sylweddol o reolau sy'n rheoli sbectrwm eang o weithgareddau masnachol a chymdeithasol aelod-wladwriaethau. Mae'r cwrs yn ymdrin a chyfraith sylwedd a chyfraith sefydliadol.
Cynnwys
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno deunyddiau a methodolegau gorchmynion cyfreithiol Ewropeaidd ac yn egluro prif nodweddion y drefn gyfreithiol sy'n seiliedig ar yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r modiwl yn canolbwyntio'n arbennig ar brosesau deddfu; gweithredu a gorfodi cyfraith a pholisi'r UE; atebolrwydd cyfreithiol sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd; y berthynas rhwng yr UE a systemau cenedlaethol, ynghyd â’r rheolau cyfreithiol sy'n llywodraethu'r farchnad fewnol.
Sgiliau Modiwl
|
Math o Sgiliau |
Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Bydd trafodaethau seminar yn datblygu sgiliau cyflwyno a sgiliau dadlau llafar y myfyrwyr, fel unigolion ac fel grŵp. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Gofyniad ar gyfer ymarfer cyfreithiol proffesiynol ac ar gyfer cyd-destun trawswladol ymarfer cyfreithiol modern. |
| Datrys Problemau | Trafod mewn seminarau/gwaith paratoi ac wrth ddadlau. |
| Gwaith Tim | Gweithgareddau grŵp a thrafodaethau yn y seminarau. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd cymryd rhan mewn seminarau a’r arholiad yn datblygu gwahanol agweddau o ymchwil academaidd, o ddeall a chyfeirnodi ffynonellau i ledaenu syniadau i eraill ar lafar, a datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig. |
| Rhifedd | Amherthnasol. |
| Sgiliau pwnc penodol | Darllen a deall deunyddiau perthnasol ym maes Cyfraith Ewropeaidd yn enwedig cyfraith achosion a dadansoddi academaidd. |
| Sgiliau ymchwil | Ymchwil ac wrth baratoi ar gyfer y traethawd, y seminarau a’r arholiad. |
| Technoleg Gwybodaeth | Mae sgiliau llyfrgell ac ymchwil yn sylfaenol wrth baratoi ar gyfer seminarau a’r arholiad. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5
Law & Criminology,Aberystwyth University, Hugh Owen Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622712 : +44 : +44 (0)1970 622021
law@aber.ac.uk: law@aber.ac.uk
